Cais am fesurydd dŵr

Information

Rydym yn derbyn nifer uchel o geisiadau ac mae’n cymryd mwy o amser nag yr hoffem i drefnu apwyntiadau. Mae eich cais wedi ei gofnodi ac nid oes angen cysylltu â ni.

Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl wrth i ni brosesu eich cais.

Os ydych chi am gyflwyno cais am fesurydd, gallwch wneud hynny ar lein.

Water Efficiency

Lansio ein canllaw hunanasesu effeithlonrwydd dŵr newydd ar gyfer busnesau bach


16 Gorffennaf 2021

Am y bu llawer o fusnesau ar gau am gyfnodau hir yn ystod y pandemig, mae hi’n amser da nawr i roi hwb i arferion arbed dŵr newydd wrth leihau eich effaith ar yr amgylchedd.

Os oes gennych chi fusnes bach, mae'n hawdd cymryd dŵr yn ganiataol pan fo'ch ffocws ar wneud y peth rydych chi orau am ei wneud – sef cadw'ch busnes yn rhedeg. Ond a oeddech chi'n gwybod bod y busnes cyfartalog yn y DU yn defnyddio 30% yn fwy o ddŵr nag sydd ei angen?

Rydyn ni wedi datblygu canllaw hunanasesu yn arbennig ar gyfer perchnogion a gweithwyr busnesau bach i'ch galluogi i leihau eich defnydd o ddŵr.

Canllaw ymarferol yw hwn a fydd yn eich tywys chi trwy ein dull o fynd ati:

  • Gwirio – Mae'r cam yma'n cynnwys clustnodi unrhyw ollyngiadau a dod i nabod eich defnydd arferol o ddŵr. Oeddech chi'n gwybod bod 90% o ollyngiadau’n gudd?
  • Deall – Mae hyn yn cynnwys edrych yn fanylach ar eich defnydd o ddŵr.
  • Gweithredu – Mae'r cam olaf yma'n cynnwys datblygu cynllun gweithredu i leihau eich defnydd o ddŵr a chadw’ch biliau dŵr yn isel.

Bydd defnyddio llai o ddŵr yn arbed arian i chi, yn lleihau eich ôl troed carbon, a thrwy ddefnyddio llai o ddŵr mewn proses weithgynhyrchu sy'n cynhesu dŵr, byddwch chi'n lleihau eich biliau ynni hefyd.

Gallwch lawrlwytho'r canllaw hunanasesu yma.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch leihau eich defnydd o ddŵr yn eich busnes, cysylltwch â'n Tîm Gwasanaethau Busnes ar 0800 260 5052, BST@dwrcymru.com neu ewch i Gwasanaethau Busnes am fanylion.