Cefnogi Cymunedau trwy Brosiect Cymunedau Cadarn Dŵr
13 Awst 2021
Yr wythnos ddiwethaf, roedd tref lan môr y Rhyl yn y penawdau am y rhesymau anghywir.
Tynnwyd sylw at lefelau uchel troseddu ac amddifadedd yn y dref a oedd yn arfer bod yn lle dymunol i bobl ddod ar eu gwyliau. Fodd bynnag, er gwaethaf y newyddion digalon, nid yw’r sylw diweddar yn cyfateb i’m mhrofiad a’m rhyngweithio i gyda’r gymuned yn ddiweddar. Yr hyn sy’n aros yn fy nghof i am yr ardal yw’r cymeriadau gweithgar a phenderfynol yr ydym ni, yn nhîm y prosiect, wedi cyfarfod â nhw dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r bobl hyn yn werthfawr iawn i’w hardal – mae ganddynt ddealltwriaeth arbennig o’u cymunedau a digon o egni i gydweithio er mwyn goresgyn rhwystrau a helpu i gryfhau’r gymuned.
Rydym ni, yn Dŵr Cymru, yn teimlo bod gennym gyfrifoldeb i’r gymdeithas ac mai mater o raid, yn hytrach na dewis, yw mynd yr ail filltir i gefnogi cymunedau.
Mae ein prosiect arloesol, Cymunedau Cadarn Dŵr, yn un ffordd o geisio gwneud hyn. Mae’r prosiect yn herio’r busnes i gydweithio â’n cwsmeriaid ac i’w cynnwys mewn ffordd na wnaethpwyd o’r blaen – i gyd-greu a chyd-gyflwyno gwasanaethau cadarnach yn yr ardal. Yn ogystal, mae’r prosiect yn golygu meithrin dealltwriaeth ddyfnach o’r heriau unigryw y mae cymunedau yn eu hwynebu wrth i ni ystyried sut y gallwn ddefnyddio ein gwasanaethau presennol i gefnogi cwsmeriaid.
Wrth gwrs, allaf i ddim honni y gall y prosiect hwn dddod â llewyrch dros nos i gymunedau a threfi cyfan – ond mae’n bwysig peidio â thanbwysleisio arwyddocâd y gwaith i nifer o unigolion a grwpiau o unigolion. Meithrin cadernid, fesul un, fesul grŵp.
Ar ôl cwblhau ein prosiect peilot llwyddiannus yn y Rhondda Fach, lansiwyd dau brosiect arall gennym, y naill yn y Rhyl, yn y gogledd, a’r llall rhwng Rhymni a Bargoed, yn y de-ddwyrain. Dyma rai o’r cerrig milltir allweddol yng ngwaith y ddau brosiect:
- Ymwneud â dros 50 o grwpiau a sefydliadau
- Hwyluso dros 120 o sesiynau galw-heibio neu atgyfeiriadau gan bartneriaid allweddol – gan helpu i arbed tua £25,000 i gwsmeriaid ac ychwanegu bron 100 o bobl i’r Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth.
- Cynnal dros 45 o sesiynau Ymwybyddiaeth a Hyfforddiant ar ein tariffau i dros 30 o sefydliadau a 400 o bobl – llawer ohonynt yn gweithio yn y gymuned ac yn gallu defnyddio’r wybodaeth i helpu eu cleientiaid.
- Dosbarthu dros 470 o eitemau arbed dŵr di-dâl i gwsmeriaid sy’n ateb holidaur defnydd dŵr - i helpu cwsmeriaid i ddefnyddio llai o ddŵr a gostwng eu biliau.
- Cynnal nifer o sesiynau’n gysylltiedig â ‘Get Into Construction’ – er budd 33 o bobl ifanc yn Rhymni a Bargoed. Gwnaed hyn mewn partneriaeth, gan gydweithio o bell ag Ymddiriedolaeth y Tywysog a rhai o’n prif bartneriaid cyfalaf.
- Cynnal archwiliadau ar garthffosydd – ymchwiliwyd i gamgysylltiadau yn y Rhyl a’r dalgylch ehangach ac aethom ati i archwilio carthffosydd yn ardal Rhymni a Bargoed i weld a oeddent wedi blocio.
- Cynnal 69 o ymweliadau addysgol neu sesiynau addysg o bell, ar gyfer 5,959 o ddisgyblion – sef 83 awr o amser dysgu uniongyrchol. Cafwyd defnydd i gefnogi pynciau’r cwricwlwm ac i ennyn diddordeb disgyblion ifanc mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM), ac fe gynigiwyd cyfle gwerthfawr i ysgolion a disgyblion ddysgu mewn cyd-destun.
- Cydweithio â Gofalu am Gaerffili a nifer o bartneriaid eraill i gydgynhyrchu llyfr i blant, gan blant. Caiff copïau o’r llyfr, sy’n canolbwyntio ar neges ‘Stop cyn Creu Bloc’, eu dosbarthu mewn hybiau cymunedol yn nwy ardal y prosiect.
- Cefnogi cynllun i werthuso effaith ‘gêmoli’ fel ffordd o helpu pobl i ddefnyddio llai o ddŵr. Cafodd 550 o ddisgyblion yn y Rhyl fudd o hyn wrth gefnogi’r treial.
- Rhoddwyd dros £9,000 i grwpiau cymunedol trwy ein Cronfa Gymunedol.
Yn sicr, dylai’r blog hwn ddod i ben yn y man lle dechreuodd. Mae gweithgareddau’r prosiect a’r manteision a ddaw yn ei sgil yn brawf o frwdfrydedd a chefnogaeth nifer o unigolion allweddol o ardal y Rhyl ac ardal Rhymni a Bargoed. Mae yn ein cymunedau gryfder cymeriad a all roi hwb i ardaloedd sy’n aml yn cael eu cyfrif yn ‘amddifadus’ – ac, wrth wneud hynny, mae’n bosib y bydd y penawdau’n fwy cadarnhaol yn y dyfodol.