Blog Wythnos Arbed Dŵr 2021
17 Mai 2021
'Wythnos Arbed Dŵr a Lleihau Defnydd Busnesau o Ddŵr'
- Eleni eto rydyn ni'n cynnal ymgyrch 'Wythnos Arbed Dŵr'
- Bydd yr ymgyrch yn rhedeg rhwng 17 Mai 2021 a 21 Mai 2021
- Rydyn ni'n gofyn i gwsmeriaid busnes ystyried faint o ddŵr y maen nhw'n ei ddefnyddio.
Yn Dŵr Cymru, rydyn ni'n angerddol ynghylch arbed dŵr. Rydyn ni'n hyrwyddo effeithlonrwydd dŵr i'n cwsmeriaid trwy gydol y flwyddyn. I ddathlu 'Wythnos Arbed Dŵr' eleni, rydyn ni'n cynnig cyngor ac offer i'n cwsmeriaid er mwyn sicrhau nad ydyn nhw'n gwastraffu'r un diferyn o ddŵr!
Wrth i gyfyngiadau COVID-19 lacio, bydd llawer o fusnesau'n dychwelyd at rywbeth tebyg i 'normal'. Wrth i hynny ddigwydd, rydyn ni'n disgwyl i'r defnydd o ddŵr gynyddu ar draws ein hardal weithredu.
Pam ddylwn i boeni am fy mil dŵr?
Oce, teg yw dweud nad yw biliau dŵr ar frig yr agenda i bawb bob tro. I lawer o fusnesau, dim ond bil arall y mae angen ei dalu yw e, ac maen nhw'n derbyn 'taw'r pris yw'r pris'. Rydyn ni'n gofyn i fusnesau ddod yn gyfarwydd â deall eu biliau a sylweddoli'r manteision ariannol ac economaidd sydd ynghlwm wrth leihau eu defnydd o ddŵr.
Rwy'n brysur iawn – beth allaf i ei wneud yn gyflym i wneud yn siŵr fy mod i'n defnyddio dŵr yn effeithlon?
- Deall fy mil – canfod faint o ddŵr rwy'n ei ddefnyddio.
- Bydd deall eich bil yn ei gwneud hi'n haws o lawer gwybod os oes dŵr yn gollwng/yn cael ei wastraffu ar y safle!
- Trefnwch arolwg effeithlonrwydd dŵr er mwyn canfod ymhle mae dŵr yn cael ei wastraffu a gwneud gwelliannau.*
Beth yw'r manteision i mi?
Bydd yn helpu i leihau eich defnydd, yn lleihau eich ôl troed amgylcheddol a gallai leihau eich biliau dŵr a thrydan hefyd.
Mae'n swnio'n grêt, sut mae cael rhagor o fanylion?
Cysylltwch â'r tîm yn waterdemandwales@dwrcymru.com am ragor o fanylion.
*Codir tâl am y gwasanaeth yma.