Dydd Mercher: Cydweithio


17 Ionawr 2024

Mae dod o hyd i atebion i gynorthwyo ein cwsmeriaid yn bwysig dros ben i ni, ond rydyn ni’n gwybod na allwn ni wneud hyn ar ein pennau ein hunain. Rydyn ni’n gweithio gyda nifer o sefydliadau partner ym mhopeth a wnawn, o gyflenwi cartrefi â dŵr yfed glân i helpu i godi ymwybyddiaeth am y cymorth ariannol sydd ar gael i’n cwsmeriaid.

Pecyn cymorth ariannol gan Ddŵr Cymru yw Cymuned. Ei nod yw helpu aelwydydd sy’n gweithio ond sy’n cael trafferth fforddio’r hanfodion fel eu biliau dŵr. Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Ar Bopeth, Cymru Gynnes ac elusen ddyledion StepChange i ddarparu’r gronfa yma sy’n cynnig ‘seibiant talu’ o dri mis i aelwydydd cymwys, sydd gyfwerth â disgownt o tua £120 yn seiliedig ar y bil blynyddol cyfartalog.

Maria oedd un o Gwsmeriaid cyntaf Dŵr Cymru i gael cymorth trwy’r Gronfa Cymuned. Dywedodd: “Rwy’n gweithio mewn lloches i bobl ddigartref, ac am fod gen i incwm bach does dim llawer o gymorth ariannol ar gael i mi fel rheol. Cefais wybod am y Gronfa Gymuned trwy’r tîm Cyngor Ar Bopeth lleol oherwydd roeddwn i’n teimlo dan bwysau mawr wrth dalu am yr hanfodion bob mis.

“Fe wnes i gais am Gymuned a bues i’n llwyddiannus yn dilyn asesiad o incwm a gwariant – mae hi wedi bod o gymorth enfawr i fi gan leddfu llawer o’r pwysau sydd arna’i. Rydw i mor falch o weld bod y cymorth pwysig yma ar gael i bobl sy’n ei chael hi’n anodd iawn cadw i fyny â’r cynnydd mewn costau.”

Dywedodd Joanna Seymour, Cyfarwyddwr Partneriaethau a Datblygu Cymru Gynnes: “Mae Cymru Gynnes wedi cydweithio’n agos â Dŵr Cymru wrth gynorthwyo trigolion trwy gyflwyno’r Cynllun Cymuned. Rydyn ni wedi gallu helpu trigolion na fyddai wedi bod yn gymwys ar gyfer HelpU er enghraifft. Mae hyn wedi bod o gymorth mawr i lawer o bobl sy’n teimlo nad oes cymorth ar gael iddynt. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i’r arian i dalu eu biliau i estyn allan atom.”

Am ragor o fanylion am gynllun Cymuned Dŵr Cymru a sut i ganfod a ydych chi’n gymwys ai peidio, ewch i yma.