Dŵr Cymru'n addasu i ddysgu yn y cartref
25 Ionawr 2021
Yn ystod y cyfnod clo cenedlaethol y llynedd, pan gaeodd yr ysgolion am y tro cyntaf, daeth hi'n ddigon cyfarwydd gweld rhieni’n eistedd mewn cyfarfodydd gwaith â phlentyn chwech oed yn dringo ar eu côl i ychwanegu ychydig o bersbectif at y sgwrs. A dyma ni, unwaith eto, mewn sefyllfa lle mae gallu rhieni i aml-dasgio'n allweddol, wrth iddynt geisio cydbwyso ymrwymiadau gwaith â'r dasg o addysgu plant am 'hanes Celtiaid yr Oes Haearn' - a'r cyfan wrth wneud eu gorau glas i wrthsefyll yr awydd i ateb 'Cei' i'r cwestiwn "Gaf i fisged os atebai'r rhan nesaf plîs?" Y gwir amdani yw nad yw addysgu plant byth yn hawdd - ac rydw i wedi cael fy rhyfeddu gan wytnwch rhieni yn ystod y cyfnod heriol yma.
Yma yn Dŵr Cymru, rydyn ni wedi ymateb yn gyflym i'r newid diweddar yma. I'r rheiny ohonoch sy'n gyfarwydd â'n darpariaeth, fel arfer rydyn ni'n cynnig gwasanaethau allgymorth i ddisgyblion mewn ysgolion ac yn ein canolfannau. Ond heb unrhyw bosibilrwydd o gyflawni'r gweithgareddau hynny, fe symudon ni i ddulliau digidol o weithredu. Roeddem ni wrth ein boddau bod ein treial addysgu byw rhithwir wedi cael croeso da gan ysgolion – â dros 3,500 o ddisgyblion yn cymryd rhan. Wrth i ffocws addysgu a dysgu newid eto ar draws Cymru, mae'r tîm wedi addasu'r dull eto fyth wrth i ni barhau i ddarparu cyfleoedd dysgu ar gyfer y genhedlaeth nesaf – a chynnig help llaw i rieni hefyd.
Un o'r gweithgareddau yma oedd cyfres o sesiynau ar lein mewnol, oedd yn agored i'n cydweithwyr a'n partneriaid, dan arweiniad ein hathrawon ar secondiad. Gyda 100 o blant yn cymryd rhan, roedd y sesiwn gyntaf awr o hyd dan y teitl 'O'r Tarddle i'r Môr' yn llwyddiant. Mae hynny'n argoeli'n dda ar gyfer y ddwy sesiwn nesaf sydd ar y gweill, sef ‘Bod yn Ddoeth gyda Dŵr’ a ‘Stop Cyn Creu Bloc’. Ddweda'i ddim gormod am hynny, ond digon yw dweud y bydd cydweithwyr a'u plant wrth eu boddau’n dysgu am ymchwiliadau DCI Tina Toiled i bwy a beth sy'n blocio carthffosydd!
Y tu hwnt i'r sesiynau mewnol yma, mae pob math o becynnau pellach ar y gweill – gan adeiladu ar y cyfoeth o adnoddau addysgol electronig sydd eisoes ar gael ar y wefan. Yn arbennig, cadwch lygad am becyn hwylus wythnos o hyd o weithgareddau ar gyfer plant 7-11 oed sy'n canolbwyntio ar weithgareddau llythrennedd, rhifedd, a sgiliau a gwybodaeth thematig dyddiol. Bydd pecyn i'r Cyfnod Sylfaen ar gael cyn bo hir hefyd, ac rydyn ni'n bwriadu gweithio gydag ysgolion i gyflwyno’r cynnwys hwyliog a difyr yma yn rhan o'u dulliau addysgu cyfunol.