Dŵr Cymru’n dod yn ganolfan hyfforddi cydnabyddedig WaterRegsUK
3 Medi 2024
Mae Dŵr Cymru wedi ennill cydnabyddiaeth fel canolfan hyfforddi ar gyfer cyrsiau WaterRegsUK (WRUK) ac wedi dechrau darparu eu cwrs ‘Gosodwyr Pibellau Cyflenwi Dŵr’.
Mae’r cwrs hyfforddi - sydd ar gyfer datblygwyr – yn rhan o strategaeth Dŵr Cymru i wella profiad cyffredinol y cwsmeriaid â’r broses cysylltiadau newydd, a chynyddu nifer y contractwyr cymeradwy sy’n gweithio yn eu hardal gwasanaeth.
Mae’r cwrs yn darparu’r cymhwyster sydd ei angen ar ymgeiswyr llwyddiannus i ymuno â WIAPS – sef Cynllun Plymwyr Cymeradwy’r Diwydiant Dŵr – a WaterSafe. Mae’r ddau gynllun Contractwyr Cymeradwy’n cael eu cefnogi a’u hargymell gan Ddŵr Cymru. Dyma rhai o’r prif fanteision i ymgeiswyr wrth ymuno â’r cynlluniau hyn:
- Gallant hunan-ardystio’r gwaith o osod pibellau a thorri ffosydd –gan wella profiad y cwsmer trwy sicrhau amserau trosiant cyflymach ar gyfer cysylltiadau newydd.
- Gwella diogelwch safleoedd – mae hunan-ardystio’n golygu y gellir adlenwi’r ffosydd yn gynt, sy’n gallu lleihau’r risg o faglu, llithro a syrthio ar safleoedd.
Mae tair sesiwn cyntaf y cwrs yma wedi gweld 21 o bobl yn cwblhau’r cwrs. Mae’r ymgeiswyr yn cynnwys gweithwyr o gwmnïau adeiladu cartrefi cenedlaethol, cymdeithasau tai llai, a gosodwyr annibynnol. Hyd yn hyn mae 43% o’r ymgeiswyr wedi dod yn Gontractwyr Cymeradwy trwy ymuno â WIAPS.
Mae Dŵr Cymru’n awyddus i barhau i gynnal y sesiynau hyfforddi yma, a gall datblygwyr fynegi eu diddordeb mewn mynychu sesiwn trwy lenwi’r ffurflen hon yma.
Dywedodd Rhidian Clement, Pennaeth Darparu Gwasanaethau Dŵr Cymru: “Trwy gydweithio’n agos â Thîm Rheoliadau Dŵr Dŵr Cymru, rydyn ni wedi llwyddo i greu cwrs ar gyfer y bobl hynny sy’n gosod ac yn rheoli’r gwaith o osod pibellau cyflenwi mewn datblygiadau newydd.
Rydyn ni’n aml yn dod ar draws nifer o broblemau gyda gosod pibellau cyflenwi ar gyfer adeiladau newydd, sy’n aml yn achosi oedi ar gyfer y datblygwr a Dŵr Cymru. Nod y cwrs yw mynd i’r afael â’r broblem yna trwy ddarparu gwybodaeth am y Rheoliadau ar gyfer y bobl sy’n gosod y pibellau cyflenwi, a’u taclu â chymhwyster y gallant ei ddefnyddio i ymuno â Chynllun Plymwyr Cymeradwy y Diwydiant Dŵr (WIAPS).
Rwy’n falch iawn o weld nifer o’n cwsmeriaid datblygu’n cwblhau’r cwrs ac yn cael eu hachredu’n ffurfiol trwy’r cynllun WIAPS.”
Dywedodd Jon Bond, Rheolwr Contractau Williams Homes: “Rydyn ni ar ein hennill mewn nifer o ffyrdd o roi nifer o’n gweithredwyr trwy Broses Hyfforddiant Gweithwyr Tir Cymeradwy WIAPS.
Gallwn adlenwi ffos cyflenwi’r plot yn gynt, ac osgoi’r cyfnod archwilio 10 diwrnod gan yr awdurdod dŵr sy’n berthnasol i’r ardal. Mae hyn yn caniatáu i’n timau fwrw ymlaen ag elfennau eraill o’r gwaith, ac yn lleihau’r angen am godi ffens o gwmpas y ffos ar gyfer y cyfnod archwilio, gan ddileu’r problemau diogelwch cysylltiedig. Mae hyn yn beth da o ran rhaglen y prosiect ac o ran iechyd a diogelwch pawb yn y pen draw.”