Allech chi arbed arian ar eich bil dŵr? Dŵr Cymru’n mynd allan i’r gymuned i gynorthwyo cwsmeriaid â chostau byw.
30 Ionawr 2023
Mae Dŵr Cymru Welsh Water, yr unig gwmni dŵr nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, yn annog cwsmeriaid i fynnu gwybodaeth am yr amrywiaeth o opsiynau y mae’n eu cynnig i helpu’r bobl hynny sy’n wynebu’r trafferthion mwyaf yn sgil y cynnydd mewn costau byw, a allai eu cynorthwyo i arbed £230 ar eu biliau dŵr blynyddol.
Dywedodd Paula Burnell, Pennaeth Cymorth i Gwsmeriaid Bregus Dŵr Cymru: “Yn Dŵr Cymru, mae gennym uchelgais i sicrhau bod y bobl gywir yn cael y math cywir o gymorth ariannol bob tro. Mae ein cwsmeriaid yn wynebu pwysau ariannol mwy nag erioed yn sgil cost gynyddol hanfodion fel bwyd, gwres a thrydan.
“Mae nifer uwch nag erioed o aelwydydd - dros 144,000 ohonynt - yn cael cymorth ariannol gan Ddŵr Cymru erbyn hyn, ac rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi £12 miliwn pellach i ehangu’r cymorth yma i 50,000 yn rhagor o aelwydydd. I gyflawni hyn, mae gennym dîm pwrpasol â’r arbenigedd i gynghori cwsmeriaid am y gwahanol gynlluniau cymorth sydd ar gael, gyda’r nod o helpu i roi unrhyw un sy’n cael trafferth fforddio eu bil dŵr nôl ar y trywydd iawn.
“Mae’r tîm wrth law i siarad â chwsmeriaid bob dydd, boed hynny dros y ffôn, ar lein, neu wyneb yn wyneb yn y cymunedau lle maen nhw’n byw. Rydyn ni’n annog unrhyw un sy’n credu y gallem eu cynorthwyo i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl. Plîs peidiwch â diodde’n dawel, cewch eich trin â sensitifrwydd a bydd y cyfan yn gyfrinachol.”
O’r Betws i Fangor, dros y tri mis diwethaf mae tîm cymorth i gwsmeriaid bregus Dŵr Cymru wedi mynychu dros 120 o ddigwyddiadau a sesiynau codi ymwybyddiaeth. Mae’r tîm yn ymweld â’r digwyddiadau hyn i siarad â chwsmeriaid a hyrwyddo’r cymorth ariannol sydd ar gael iddynt, gan eu cynorthwyo i arbed dros £230 ar eu biliau blynyddol yn aml.
Yn ddiweddar, bu Tracey Price, Arweinydd Tîm Cymorth gyda Biliau Dŵr Cymru, mewn achlysur cymorth costau byw yn Eglwys Hope, Tonypandy. Dywedodd: “Rydyn ni yma i helpu gyda’r argyfwng costau byw. Rydyn ni am godi ymwybyddiaeth ein cwsmeriaid am y cynlluniau cymorth sydd ar gael iddynt.”
Ar y diwrnod, llwyddodd Tracey i roi cymorth i Matthew, cwsmer o Donypandy oedd wedi colli ei swydd yn ddiweddar. Roedd angen cymorth ar Matthew wrth iddo ddisgwyl dechrau rôl newydd, felly rhoddodd Tracey gymorth iddo gofrestru i dalu trwy ddebyd uniongyrchol er mwyn gwneud ei daliadau’n haws eu rheoli.
Dywedodd Matthew: “Ddes i lawr yma ar gyfer y banc bwyd, ond fe glywais i fod Dŵr Cymru yma… ac y gallwn i siarad â nhw wyneb yn wyneb. Mae Tracey wedi bod o gymorth mawr i mi heddiw.”
Wrth i aelwydydd yng Nghymru wynebu sialensiau ariannol na welwyd mo’u tebyg o’r blaen, gan gynnwys y cynnydd mewn costau bwyd ac ynni, mae gan Ddŵr Cymru nifer o ffyrdd o helpu cwsmeriaid i arbed arian ar ei biliau dŵr, gan gynnwys:
- HelpU: Mae’r tariff HelpU yn cynorthwyo aelwydydd incwm isel trwy osod cap ar y swm y mae angen ei dalu am wasanaethau dŵr. Mae’r tariff HelpU i gynorthwyo’r aelwydydd â’r incwm isaf yn ein rhanbarth. Os ydych chi’n gymwys, byddwn ni’n gosod cap ar eich bil dŵr fel na fyddwch chi’n talu mwy na swm penodol am y flwyddyn.
- Gosod mesurydd dŵr: Os ydych chi’n byw ar eich pen eich hun, os nad ydych chi’n defnyddio llawer o ddŵr, neu os ydych am leihau eich bil yn syml, gallech arbed arian trwy osod mesurydd dŵr fel y byddwch chi’n talu am y dŵr a ddefnyddiwch yn unig.
- Cynllun Cymorth Dyledion WaterDirect: Os ydych chi’n wynebu caledi ariannol, ac ar ei hôl hi gyda’ch biliau dŵr, mae hi’n bosibl y gallai cynllun Dyledion WaterDirect fod o gymorth i chi. Os ydych chi’n derbyn budd-daliadau’n seiliedig ar brawf modd, gallwch dalu eich taliadau dŵr a chlirio’ch dyledion trwy eich budd-daliadau. Bydd hyn yn lleihau’ch dyledion yn raddol, ac yn eich helpu chi i gymryd rheolaeth dros eich arian. Bydd Dŵr Cymru’n rhoi disgownt o £25 ar eich taliadau ar gyfer y flwyddyn gyfredol hefyd.
Mae gwybodaeth am becynnau cymorth ariannol Dŵr Cymru ar gael ar lein yn www.dwrcymru.com/helpwithbills.
Am gael cymorth wyneb yn wyneb? Mae tîm cymorth Dŵr Cymru wrth law bob amser i helpu cwsmeriaid, boed hynny dros y ffôn, ar lein neu wyneb yn wyneb yn y gymuned. I glywed ble fydd y tîm yn mynd nesaf, dilynwch @dwrcymru ar Facebook, Twitter ac Instagram.