Dŵr Cymru yn dathlu Mis Hanes LGBT+


1 Chwefror 2022

Mis Chwefror yw Mis Hanes LGBT+, a bydd dathliadau eleni'n nodi hanner canrif ers yr Orymdaith Pride gyntaf un yn y DU ym 1972.

Mae Mis Hanes LGBT+ yn gyfle i feddwl am y cynnydd a wnaed dros y 50 mlynedd diwethaf, wrth ein hatgoffa hefyd nad yw’r frwydr dros gydraddoldeb ar ben.

Yma yn Dŵr Cymru, rydyn ni wedi ymrwymo i gydnabod a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle, ac rydyn ni'n gweithio'n galed i greu diwylliant o barch lle gall pobl fod yn nhw eu hunain wrth fynd o gwmpas eu pethau.

Er mwyn helpu i arwain ar gynhwysiant a chydraddoldeb, lansiwyd Rhwydwaith LGBT+ Dŵr Cymru y llynedd. Mae'r grŵp, sy'n cael ei arwain gan weithwyr y cwmni, yn lle diogel i gydweithwyr a chyfeillion LGBT+ ddod at ei gilydd i wneud pobl LGBT+ yn fwy gweladwy yn Dŵr Cymru, ac i greu amgylchedd lle mae pawb yn teimlo'n hyderus i fod yn nhw eu hunain.

Ym mis Hydref 2021, lansiodd Rhwydwaith LGBT+ Dŵr Cymru ei laniardiau ei hun yn lliwiau'r enfys i weithwyr eu gwisgo er mwyn helpu i’n hysbrydoli i greu diwylliant gwirioneddol gynhwysol yn y gwaith. Roedd hi'n bwysig bod y laniardiau'n hollol gynhwysol i bawb yn y gymuned LGBT+, ac felly mae’r lliwiau'n cynnwys lliwiau 'balchder blaengar' yn hytrach na dim ond dyluniad syml yn lliwiau'r enfys.

Dyma rhai o'r rhesymau pam fod ein cydweithwyr yn gwisgo'u laniardiau:

 Jenna Nicolle-Gaughan

“Rwy'n llawer o bethau i lawer o bobl. Rwy'n fam, yn wraig, yn ferch, yn chwaer, yn ffrind, yn gydweithiwr. Fi yw Rheolwr Perfformiad a Chydymffurfiaeth tîm Diogelwch yr Argaeau. Rwy'n un am ddarllen, yn un sy'n mwynhau bwyd, yn gefnogwr chwaraeon. Rwy'n rhedwr, er yn un gwael. Rwy'n un sy'n gorfeddwl. Rwy'n lletchwith mewn sefyllfaoedd cymdeithasol weithiau. Ac rwy'n digwydd bod yn fenyw hoyw hefyd. Rwy'n gwisgo'r laniard yn lliwiau'r enfys am fod cael ein gweld yn bwysig, ac mae'n bwysig gweld pobl LGBT+ yn gwneud pethau normal. Bydd normaleiddio bod yn LGBT+ yn golygu na fydd angen i'r genhedlaeth nesaf fynd trwy fod yn 'wahanol' na wynebu'r stigma sy'n gysylltiedig â'r peth."

 

 Adam Davis

“Rwy'n Gymro gwyn cyffredin ac yn fy nghyfri fy hun yn lwcus nad ydw i erioed wedi dioddef gwahaniaethu. Rwy'n gwisgo'r laniard yma â balchder, ond dwi ddim yn ei wisgo i fi fy hun. Rwy'n ei wisgo i bawb sydd wedi dioddef gwahaniaethu o unrhyw fath. Rwy'n ei wisgo dros fy nghydweithwyr yn y busnes a'r cwsmeriaid y byddaf i'n cyfarfod â nhw ar y safle. Mae gan bawb yr hawl i fod pwy maen nhw eisiau bod, pwy ydyn nhw go iawn, ac rwy'n gwisgo fy laniard nid yn unig i dderbyn pobl am bwy ydyn nhw, ond hefyd i gefnogi'r bobl hynny i deimlo'n gyffyrddus â bod yn nhw eu hunain.”


Samuel Tudor

“Rwy'n gwisgo'r laniard wrth i mi barhau i archwilio beth mae bod yn gyfaill yn ei olygu i mi. Rwy'n credu bod y gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan genhadon cynhwysiant DCWW a'r ymateb a welwn i ddangos undod rhag pob math o wahaniaethu ar draws y byd chwaraeon proffesiynol yn fy ysbrydoli, ond mae'n dangos bod yna dipyn o waith o'n blaenau o hyd hefyd. Gwisgo'r enfys yw fy ffordd i o ddangos cefnogaeth i fy ffrindiau, cydweithwyr a'r gymuned LGBT+ ehangach, ac o atgoffa pobl y gallwn ni i gyd wneud rhagor i ddod â gwahaniaethu i ben.”

 

 

 Claire Thrift

“Rwy'n gwisgo'r laniard am fod cael cyfeillion gweladwy mor bwysig i roi gwybod i bobl eu bod nhw'n ddiogel ac y gallant fod yn driw iddyn nhw eu hunain heb ofni gwahaniaethu a/neu gamdriniaeth.”

 

 

 

I ddathlu Mis Hanes LGBT+, dros yr wythnosau nesaf byddwn ni'n rhannu straeon gan bobl ar draws ein busnes am eu profiadau nhw, ac yn cynnig cymorth a chyngor ar sut i fod yn gyfaill. Cadwch lygad yn y fan yma!