Cais am fesurydd dŵr

Information

Rydym yn derbyn nifer uchel o geisiadau ac mae’n cymryd mwy o amser nag yr hoffem i drefnu apwyntiadau. Mae eich cais wedi ei gofnodi ac nid oes angen cysylltu â ni.

Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl wrth i ni brosesu eich cais.

Os ydych chi am gyflwyno cais am fesurydd, gallwch wneud hynny ar lein.

Dŵr Cymru yn dathlu Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant 2022


30 Medi 2022

Yn Dŵr Cymru, rydym ni’n credu mewn gwneud y peth iawn dros ein cwsmeriaid, ein cydweithwyr, a’r cwmni.

Mae ein Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynwysoldeb yn ategu gweledigaeth y cwmni ac mae'n seiliedig ar ei werthoedd. Mae'n pennu ein cynigion i hyrwyddo diwylliant lle mae amrywiaeth ein cwsmeriaid a'n gweithwyr yn cael ei werthfawrogi.

Mae Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant yn wythnos benodedig i ddathlu cynhwysiant a chymryd camau i greu gweithleoedd cynhwysol.

Yn Dŵr Cymru, arweiniwyd Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant o’r brig gyda’n Prif Weithredwr, Peter Perry, yn cysylltu ar ran y cwmni â phob cydweithiwr i bwysleisio pwysigrwydd Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant.

Dywedodd, “Mae'n rhaid i ni fod â safbwynt yr 21ain ganrif ar bopeth a wnawn i greu diwylliant cynhwysol. Mae'n ymwneud â bod yn gynghreiriad a helpu cydweithwyr i deimlo'n gyfforddus a'u bod yn cael eu cefnogi, er mwyn sicrhau y gallant fod yn nhw eu hunain pan fyddant yn dod i'r gwaith.”

Anogodd bawb i weithredu heddiw er mwyn gwireddu cynhwysiant bob dydd, gan annog cydweithwyr i fanteisio ar y cyfle i fynychu cyfres o weithdai a ddarparwyd yn ystod yr wythnos gynhwysiant yn cwmpasu Cynghreiriaeth, Iaith Gynhwysol a sut y gallwn gefnogi ein gilydd yn well.

Daeth cydweithwyr o bob rhan o’r sefydliad a dau o’n cyfarwyddwyr anweithredol, i'r sesiwn iaith gynhwysol yr wythnos hon.

Dywedodd Jo Kenrick, Cyfarwyddwr Anweithredol, “Mae’n wych gweld y gwaith sy’n digwydd yn Dŵr Cymru; roedd yn sesiwn llawn gwybodaeth, ac yn cynnwys llawer o bethau i’w dysgu. Cefais fy nghalonogi o weld dros fy hun y sesiynau’n cael eu cyflwyno, a byddaf yn parhau i wneud popeth o fewn fy ngallu o safbwynt y bwrdd i gefnogi taith Dŵr Cymru.” 

Mae Cyfartal i Chi yn fenter arall sy'n darparu hyfforddiant mewn amgylchedd diogel gan ddefnyddio gêm fwrdd difyr, rhyngweithiol a heriol. Rydym yn hyrwyddo hyn yn ystod yr wythnos cynhwysiant a chynhelir sesiynau hyfforddi drwy gydol y flwyddyn, gan sicrhau ein bod yn cynnig cyfleoedd i bob aelod o'n staff gymryd rhan.

Yn Dŵr Cymru, mae gennym amrywiaeth o rwydweithiau a arweinir gan y gweithwyr, gan gynnwys:

  • Embrace (Rhwydwaith hil)
  • Cristnogion yn Dŵr Cymru
  • ABLE (Rhwydwaith Salwch Cronig a Chyflwr Iechyd Hirdymor)
  • Rhwydwaith Cynghreiriaid LGBT+
  • Rhwydwaith Menywod

Mae croeso i bawb fynychu’r grwpiau hyn ac maent yn fannau diogel i gydweithwyr rannu profiadau, nodi rhwystrau a heriau, a rhannu arferion gorau. Mae rhai grwpiau Rhwydwaith wedi cael eu henwebu eleni ar gyfer gwobrau allanol i gydnabod y gwaith a wnawn.

Cawn ein cefnogi’n llawn a’n hannog i gymryd rhan mewn mentrau cynhwysol a grwpiau rhwydwaith, gan ein Prif Swyddog Gweithredol, Peter Perry, yn ogystal â'n bwrdd a'n timau gweithredol.

 Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, i gefnogi ein gwaith ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ymhellach, penodwyd Stephne Puddy yn arweinydd ar gyfer cynhwysiant. Mae'r rôl yn ein helpu i fwrw ymlaen â'n cynllun gweithredu a'n gweledigaeth a rennir. Dywedodd Stephne, “Roeddwn wrth fy modd pan newidiodd fy rôl i fod yn Arweinydd Cynhwysiant ar gyfer Dŵr Cymru. Rydym wedi bod yn cymryd camau breision i wneud Dŵr Cymru yn lle gwell, ond rydym yn gwybod bod gennym fwy o waith i'w wneud. Mae Wythnosau Cenedlaethol Cynhwysiant yn rhoi cyfle gwych i ni ddathlu’r hyn rydym wedi’i gyflawni hyd yma, gan amlygu’r meysydd y gallwn ganolbwyntio arnynt wrth symud ymlaen, ac mae gwybod ein bod yn gweithio mewn sefydliad lle mae gennym gefnogaeth yr holl dîm gweithredol yn golygu cymaint.”