Sialensiau plentyndod PST Dŵr Cymru, Rob Norris yn tanio angerdd i roi’r cyfle i bobl ifanc lewyrchu yn Cyber College Cymr

Sialensiau plentyndod PST Dŵr Cymru, Rob Norris yn tanio angerdd i roi’r cyfle i bobl ifanc lewyrchu yn Cyber College Cymru


30 Tachwedd 2023

Mae ein Prif Swyddog Technoleg, Rob Norris, yn esbonio’n ddi-flewyn ar dafod sut sbardunodd ei brofiadau fel plentyn mewn gofal iddo greu cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc eraill tebyg iddo a allai, o gael y cyfle, ragori a chychwyn gyrfa ym maes cyfrifiaduron a’r byd seiber.

Arweiniodd yr angerdd yma at greu Cyber College Cymru, rhaglen sgiliau arloesol sy’n gwneud cymwysterau sgiliau seiber yn hygyrch i fyfyrwyr sy’n astudio mewn colegau addysg bellach yng Nghymru.

Mae ei siwrnai’n esiampl gwirioneddol ysbrydoledig o sut, waeth beth pa fath o ddechrau rydych wedi ei gael yn eich bywyd, y gallwch gyflawni eich nodau trwy gadw’ch ffocws.

Nôl i’r dechrau

Fe dreuliais i 11 mlynedd cyntaf fy mywyd yng ngofal y cyngor mewn cartrefi plant yng Nghaerdydd, cyn cael fy maethu gan deulu ym Mrynmawr. Yn 16 oed, nid oedd unrhyw gymwysterau addysgol gen i, a gyda’r pyllau glo a’r gweithfeydd dur yn cau o’m cwmpas, fe es i nôl i’r ysgol i gwblhau pump TGAU a fyddai’n caniatáu i mi astudio rhan-amser am BTEC mewn cyfrifiaduron yng Ngholeg Glynebwy.

Oddi yno, fe symudais i i’r Coleg Polytechnig, ac erbyn hyn rydw i wedi bod yn gweithio ym maes TG ers dros 35 mlynedd, gan weithio dros rai o gwmnïau TG mwyaf y byd ac ymweld â nifer o wledydd.

Cyn ymuno â Dŵr Cymru, roeddwn i’n gyfrifol am ddatblygu dau fusnes seiber-ddiogelwch. Yn rhan o’r ddwy rôl yma, byddwn i’n ymchwilio i achosion o danseilio seiber-ddiogelwch mewn sefydliadau.

Pontio’r blwch seiber-ddiogelwch

Tanseiliwyd seiber-ddiogelwch brand telathrebu mawr yn 2015, a ffeindiais i taw pobl yn eu harddegau oedd nifer o’r bobl oedd y tu ôl i’r bygythiad yma - ac roedd un ohonynt o dde Cymru. Roedden nhw’n gweithio ar lein, o’u hystafelloedd gwely, gyda phobl o’r un anian â nhw, ac yn ymffrostio mewn ystafelloedd sgwrsio am bwy, neu pa fusnes y gallent darfu arnynt.

Wrth ymchwilio ymhellach i’r peth, fe sylweddolais i, pe bai modd i ni harneisio sgiliau a diddordebau’r oedolion ifanc yma er da mewn cwmnïau, byddai hynny’n darparu’r bobl hynny a fyddai’n dueddol o gael eu diystyru wrth recriwtio’r genhedlaeth nesaf o broffesiynolion seiber-ddiogelwch. Byddem fel rheol yn chwilio am raddedigion prifysgol, neu weithlu sydd eisoes yn fedrus ac sy’n gweithio mewn rolau Seiber-ddiogelwch.

Dechrau CC Cymru…

Pan oeddwn i’n gweithio yn Lloegr, fe sylweddolais i fod y bobl ifanc oedd â diddordeb mewn ymosodiadau seiber mewn colegau technegol, sef lle’r oedd y myfyrwyr mwy ymarferol yn dueddol o fynd yn hytrach nag aros yn yr ysgol a chyflawni astudiaethau mwy academaidd fel Safon Uwch. Fe ffeindiais i hefyd fod rhai o’r colegau technegol yn dechrau addysgu am sgiliau seiber-ddiogelwch hefyd.

Fel Cymro angerddol yn gweithio yn Lloegr, a oedd yn ymweld â Chymru’n rheolaidd iawn, roedd hi’n ddigon syml i mi, pam na fyddwn i’n dod â’r syniad adref i Gymru? Mae yna gymaint o ddawn ddigidol a seiber yma yng Nghymru. Ar un ymweliad, fe gysylltais i â ffrindiau o’r byd TG yng Nghymru, yr oedd rhai ohonyn nhw’n byw a neu’n gweithio yng Nghymru ac yn cael trafferth llenwi rolau Seiber-ddiogelwch. A dyna sut y ganwyd Cyber College Cymru.

Wrth edrych nôl ar fy ieuenctid a chydnabod fod gan Flaenau Gwent plant oedd yn union fel fi, a allai, o gael y cyfle, ragori yn y byd cyfrifiaduron a seiber. Fe gysylltais i â Nick Smith AS, oedd yn cefnogi’r weledigaeth, ac fe wnaeth drefniadau i’n cysylltu ni â Choleg Gwent yng Nglynebwy.

Coleg Gwent yng Nglynebwy, ynghyd â Choleg Pen-y-bont, oedd y ddau goleg cyntaf i gefnogi ac ymuno â thîm Cyber College Cymru wrth ddarparu’r rhaglen sgiliau, ac erbyn hyn mae gennym dros 100 o fyfyrwyr yn cymryd rhan yn Cyber College Cymru. Mae hi wedi bod yn hyfryd gweld rhai o’r myfyrwyr yn llewyrchu yn eu gyrfaoedd mewn rolau seiber-ddiogelwch. Mae llawer o’r myfyrwyr bellach yn gweithio mewn rolau nad oedden nhw wedi clywed dim amdanynt o’r blaen; fel “Profwyr Treiddio” a “Dadansoddwyr SOC”.

Mae seiber-droseddau ar dwf

Mae’r ymchwil diweddaraf i seiber-ddiogelwch yn dangos bod rhyw draean (32%) o fusnesau a chwarter o elusennau’r DU (24%) yn dweud bod eu seiber-ddiogelwch wedi cael ei danseilio neu eu bod wedi dioddef seiber-ymosodiadau yn ystod y 12 mis diwethaf.

Mae pawb yn gwybod fod seiber-droseddau ar dwf, felly mae hi’n bwysig dros ben bod sefydliadau ac unigolion yn amddiffyn eu data a’u hasedau yn gadarn. O ganlyniad i’r cynnydd mewn seiber-droseddau, mae yna angen mawr am broffesiynolion seiber-ddiogelwch ar raddfa fyd-eang. Er mwyn i sefydliadau yng Nghymru eu hamddiffyn eu hunain, mae angen iddynt allu cyrchu gweithlu sy’n seiber- ac yn ddigidol-fedrus. Trwy hyfforddi myfyrwyr yng Nghymru â’r sgiliau seiber diweddaraf, gallant ennill rôl ym maes seiber-ddiogelwch. Mae hi’n bwysig nodi, oherwydd y prinder pobl â sgiliau seiber, mae’r swyddi hyn fel arfer yn ennill cyflogau da, ac os yw’r gweithwyr yn aros yng Nghymru, yna bydd hynny’n helpu i roi hwb i economi’r wlad hefyd.

Beth yw’r dyfodol i Cyber College Cymru?

Mae’r cyfleoedd yn aruthrol. Mae ardaloedd fel Manceinion, sydd wedi adeiladu seiber-swigen, wedi denu llwyth o fusnesau newydd i’r rhanbarth, a swyddi newydd di-ri. Does yna ddim rheswm pam na all Cymru wneud yr un fath, ac mae’n bwysig nodi, y tu hwnt i’r gwaith, fod gan Gymru lawer i’w gynnig yn nhermau cartrefu fforddiadwy o safon, system gludiant wych a gweithgareddau awyr agored sydd heb eu hail.

Hoffwn i weld pob person mewn coleg neu’n astudio am Safon Uwch, gan gynnwys y rhai sydd wedi cael dechrau anodd mewn bywyd, yn cael cyfleoedd i lwyddo. Yn arbennig i fod yn seiber-ymwybodol a bod â dealltwriaeth sylfaenol dda am Seiber-hylendid Da. Hoffwn weld rhagor o gyflogwyr yng Nghymru’n ymuno â’r rhaglen, ac ychwanegu rhagor o golegau at y rhaglen. Yn ddelfrydol, hoffwn i weld sefydliadau newydd yn cael eu denu i Gymru gan y dalent a’r sgiliau seiber a digidol sydd ar gael yma erbyn hyn.