Dŵr Cymru'n ymuno â chymuned o fusnesau sydd wedi ymrwymo i gynnwys pobl anabl
18 Ionawr 2021
Mae deall bod pobl sy'n byw ag anabledd ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith o gymharu â phobl nad ydynt yn anabl yn ddigon i sobri rhywun. Yn enwedig am ein bod ni'n gwybod taw’r ffordd orau o arloesi a darparu gwasanaethau neilltuol yw caniatáu i amrywiaeth eang o bobl wneud eu gwaith mewn amgylchedd lle maen nhw'n rhydd i fod yn nhw eu hunain.
Mae Dŵr Cymru wedi ymrwymo ers amser i ddatblygu'r amgylchedd gwaith mwyaf cynhwysol posibl. Rydyn ni am recriwtio a chadw'r dalent orau bosibl – a chreu diwylliant o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb yw'r ffordd o gyflawni hynny.
Eisoes, rydyn ni'n un o gwta ugain cwmni yng Nghymru sydd wedi ennill statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydyn ni'n hybu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb yn y gwaith trwy ein hymgyrch 'Byddwch Chi'ch Hun' fewnol sy'n annog ein holl gydweithwyr i hyrwyddo diwylliant o barch rhwng pobl.
Rydyn ni wedi gwneud cynnydd calonogol wrth feithrin yr amgylchedd yma, ond rydyn ni'n gwybod bod tipyn o ffordd i fynd i’r diwydiant dŵr o hyd er mwyn gwneud ein gweithleoedd yn ddeniadol ac yn hygyrch i bobl anabl ffynnu ynddynt. Ein cam diweddaraf ar y siwrnai yma felly yw ymuno â'r gymuned Work WIth Me; sef grŵp o fusnesau blaengar sydd wedi ymrwymo i feddwl a gweithredu mewn ffordd wahanol ynghylch anableddau yn y gwaith.
Menter ar y cyd gan Scope a Virgin Media yw Work With Me, a'i nod yw meithrin cymuned o fusnesau sydd wedi ymrwymo i feddwl o ddifri am anabledd, a gweithredu mewn ffordd wahanol. Mae gwaith ymchwil yn awgrymu bod pobl sy'n byw ag anabledd ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith o gymharu â phobl nad ydynt yn anabl, ac mae Work With Me wedi canfod bod chwarter o fusnesau'n dweud nad ydynt erioed wedi cyfweld ag ymgeisydd anabl wrth lenwi swydd.
Rydyn ni'n hapus ac yn falch o ymuno â'r fenter Work With Me ochr yn ochr â busnesau fel Virgin Media, Ford, Deloitte, Elsevier a JCB, sydd oll wedi ymrwymo i gynnwys pobl anabl yn y gweithle. Bydd ymuno â chymuned Work With Me yn ein galluogi i elwa ar gyfleoedd i ddysgu gan fusnesau eraill a rhannu profiadau, yn ogystal â chyrchu adnoddau, newyddion a gwybodaeth am gyflogi pobl anabl.
Rydyn ni wedi cymryd camau calonogol tua chreu amgylchedd gwirioneddol gynhwysol ac rydyn ni'n edrych ymlaen at wneud rhagor o welliannau er mwyn sicrhau bod ein gweithleoedd yn llefydd deniadol a hygyrch lle gall pawb lewyrchu.