Gwlyptiroedd: Rhan o'r ateb i fyd natur
21 Mai 2021
Mae Cymru'n gartref i rai o'r bywyd gwyllt mwyaf bendigedig, ac yn Nŵr Cymru rydyn ni'n awyddus i sicrhau bod cynefinoedd ac amgylcheddau lleol yn cael eu hamddiffyn a'u gwella, a'u bod yn cael lle i lewyrchu mewn byd o newid.
Rydyn ni eisoes yn amddiffyn cynefinoedd a rhywogaethau pwysig mewn o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ar draws ein rhanbarth, ac erbyn 2025 byddwn ni'n cyflawni mwy byth. Rydyn ni’n bwriadu buddsoddi £200m i leihau llwyth y maetholion mewn afonydd dros y pedair blynedd nesaf. Ond rydyn ni'n gwneud mwy na hynny i helpu bioamrywiaeth hefyd; rydyn ni'n newid ein ffyrdd o fuddsoddi a'r mathau o brosiectau peirianneg rydyn ni'n eu dylunio ac yn eu hadeiladu. Cyhoeddwyd ein Cynllun Bioamrywiaeth diweddaraf ym mis Rhagfyr 2020. Enw'r cynllun yw "Neilltuo amser ar gyfer natur 2020: cynllun diwygiedig Dŵr Cymru i gynnal a gwella bioamrywiaeth", a gallwch ei ddarllen yma.
Vyvyan ydw i, a fi yw Rheolwr Prosiect Gwlyptiroedd Dŵr Cymru. Rhan o fy ngwaith i yw datblygu'r rheoliadau a'r logisteg sy'n gysylltiedig â chyflawni Atebion Trin effeithiol ar Sail Natur. Trwy Atebion ar Sail Natur (NBS), rydyn ni'n golygu atebion sy'n cael eu hysbrydoli a'u cynnal gan fyd natur, ac sy'n defnyddio neu'n efelychu prosesau naturiol er mwyn helpu i reoli a thrin dŵr neu ddŵr gwastraff yn well. Un esiampl o NBS (a elwir weithiau'n Seilwaith Gwyrdd) yw gwlyptiroedd. Bydd gwlyptiroedd yn rhan bwysig o'n buddsoddiadau at y dyfodol am eu bod nhw'n gallu 'glanhau' dŵr mewn ffordd ddibynadwy, cynaliadwy a charbon isel.
Sut mae gwlyptir yn cyfrannu at ein nodau?
Cyfres o byllau cysylltiedig yw safle trin gwlyptir. Mae'r pyllau hyn yn darparu prosesau hidlo naturiol er mwyn gwella rhagor ar ansawdd y dŵr sy'n cael ei ddychwelyd i'r afon. Maen nhw'n codi'r cemegolion a'r maetholion nad oes eu heisiau fel amonia, nitrogen a ffosfforws, a hynny trwy ddulliau naturiol. Maetholion naturiol yw'r rhain, ond os oes llawer ohonynt, maen nhw'n gallu achosi llygredd maetholion ac effeithio ar nentydd, afonydd a dyfroedd arfordirol. Mae gormod o nitrogen a ffosfforws yn y dŵr yn peri i'r algâu dyfu'n gynt nag y gall yr ecosystemau ddelio ag ef. Yn y gorffennol, mae cwmnïau dŵr wedi tueddu i ddefnyddio atebion peirianegol iawn i leihau neu ddileu'r maetholion hyn, ond nawr rydyn ni'n newid i osod y ffocws ar atebion mwy naturiol i ddarparu atebion carbon isel a dibynadwy yn lle.
Mantais ychwanegol gwlyptiroedd
Yn ogystal â darparu haen ychwanegol o driniaeth, mae Gwlyptiroedd yn darparu cynefinoedd bendigedig; maen nhw'n helpu i gynnal cylch oes amrywiaeth eang o anifeiliaid; yn denu adar bridio, amffibiaid, ystlumod a llygod dŵr, ac yn darparu meithrinfeydd ecolegol ar gyfer llu o rywogaethau. Maen nhw'n gallu dod â manteision cymdeithasol gwerth chweil i gymunedau lleol hefyd. Profwyd bod creu mynediad at fannau gwyrdd diogel llewyrchus fel glwyptiroedd yn cyfrannu at hwyliau positif, llai o straen, ac mae'n caniatáu i ni feithrin gwell cysylltiadau â'n hardaloedd lleol.
Ble nesaf i wlyptiroedd?
Yn Nŵr Cymru, rydyn ni'n gweithio'n galed gyda'n Rheoleiddwyr Amgylcheddol (CNC ac Asiantaeth yr Amgylchedd), i ymgorffori gwlyptiroedd i'n rhaglen waith arferol. Yn ogystal, rydyn ni'n gweithio gyda phartneriaid a a chyrff anllywodraethol o'r byd amgylcheddol, fel Ymddiriedolaethau Afonydd a Ground Works Cymru er mwyn helpu i ddatblygu ein dulliau o gyflawni hyn.
Yn ogystal â chynnwys gwlyptiroedd ac NBS eraill yn ein dulliau trin er mwyn helpu i ddileu rhai maetholion penodol; rydyn ni'n gweithio gyda'n partneriaid, ac yn arbennig yn Afon Gwy, i'w galluogi nhw i greu gwlyptiroedd er mwyn delio â maetholion ychwanegol yn y dalgylch, ac yn arbennig ffosfforws. At hynny, rydyn ni'n ymchwilio i'r posibilrwydd o ddefnyddio gwlyptiroedd i liniaru effaith Gorlifoedd Storm Cyfun (CSO). Mewn stormydd glaw trwm, mae mwy o ddŵr yn gallu ffeindio'i ffordd i'n pibellau nag y gallant ymdopi ag ef, felly maent wedi cael eu dylunio i ryddhau'r pwysau sydd ar ein systemau mewn ffordd ddiogel gan ddefnyddio'r CSOs. Ond gallwn ni helpu trwy leihau effaith y 'gorlif' ar yr amgylchedd trwy drin y dŵr gwastraff cyn iddo fynd i'r cwrs dŵr. Mae dulliau carbon isel fel gwlyptiroedd yn ffordd wych o fynd ati, a hynny weithiau ar y cyd â nifer o atebion peirianegol eraill.
Rydyn ni'n gobeithio cynyddu ein defnydd o wlyptiroedd, ynghyd ag NBS eraill, a bydddwn ni'n parhau i weithio gyda phartneriaid academaidd lleol i ddatblygu ein dealltwriaeth am eu potensial sylweddol.
Cysylltwch am ragor o wybodaeth am ymhle rydyn ni'n gobeithio adeiladu gwlyptiroedd yn y dyfodol.