What COP 26 means to Welsh Water


31 Hydref 2021

Wrth i COP26 ddechrau yn Glasgow, cawsom air gydag ein Cyfarwyddwr yr Amgylchedd Tony Harrington, i gael gwybod pam mae COP 26 mor arwyddocaol i Dŵr Cymru ac yn bwysicaf oll, yr hyn yr ydym yn ei wneud i ymdrin â’r argyfwng hinsawdd.


Tony Harrington, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd



Bydd trafodaethau hinsawdd Glasgow, sydd newydd ddechrau, yn ceisio sicrhau ymrwymiadau newydd i leihau allyriadau methan, cael gwared ar ynni glo a chwblhau rheolau ar fasnachu allyriadau byd-eang i sôn am ddim ond rhai o’r newidiadau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd pwysig y gallem ni eu gweld.

Mae disgwyl i tua 30,000 o gynrychiolwyr ffurfiol a negodwyr swyddogol fod yn bresennol yn COP26, felly hwn fydd y digwyddiad mwyaf y mae’r DU wedi’i gynnal ers Gemau Olympaidd Llundain 2012. Heb os, bydd cyhoeddiadau datgarboneiddio mawr gan fusnesau ledled y byd, ymrwymiadau gan y diwydiant cyllid i beidio ag ariannu echdynnu tanwydd ffosil, a rhoddion pellach i ddiogelu natur gan y cyfoethog iawn, fel y gwelwyd ar gyrion Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ychydig wythnosau’n ôl. Felly, pa uchafbwyntiau, yn ein barn ni, a fydd yn codi yn COP26?

  1. Cynnydd o 1.5°C mewn tymheredd byd-eang. Hyd yn oed i’r rhai yn y diwydiant hydrocarbon, neu’r rhai ohonom ni sy’n dwlu ar geir, rydym ni i gyd yn gobeithio y bydd yr aduniadau cyfun a gaiff eu gwneud i leihau allyriadau, cyn ac yn ystod y gynhadledd yn ddigon i ddileu difrod gwaethaf newid hinsawdd. Mae trafodaethau Glasgow yn hollbwysig oherwydd, o dan Gytundeb Paris, dylai pob gwlad sy’n llofnodi ddiwygio ei thargedau lleihau allyriadau bob pum mlynedd. Mae’r DU yn galw ar bob gwlad i wneud eu hymrwymiadau yn gydnaws â nod cynhesu 1.5° Cytundeb Paris a chymryd camau penodol ar y cyd nawr i sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni.
  2. Allyriadau methan. Yn y fforwm, rydym yn rhagweld y bydd ein Prif Weinidog yn cytuno i ymuno â’r Adduned Methan Fyd-eang, adduned i leihau allyriadau’r nwy tŷ gwydr grymus 30% erbyn diwedd y degawd. Dywedodd datganiad gan y Comisiwn Ewropeaidd mai lleihau’r maint sy’n cael ei ryddhau yw’r "un strategaeth fwyaf effeithiol" i liniaru newid hinsawdd. Dylai ei gyflawni’n fyd-eang leihau cynhesu byd-eang tua 0.2°C.
  3. Cwblhau ‘Llyfr Rheolau Paris’. Mae Llyfr Rheolau Paris yn derm sy’n cynnwys holl agweddau’r Cytundeb Paris y tu hwnt i’w brif darged hinsawdd. Mae hyn yn cynnwys sut mae gwledydd yn atebol am allyriadau, allyriadau masnach a’r gwahanol ddisgwyliadau o wladwriaethau cyfoethog a thlawd. Mae llawer o’r rhain eisoes wedi’u cymeradwyo, er bod rhai elfennau hollbwysig nad ydynt wedi’u cynnwys eto.
  4. Ynni Glo. Mae cyfuniad o bwysau diplomyddol cynyddol a chost ynni adnewyddadwy yn disgyn yn gwneud dibynnu’n barhaus ar ynni glo – ac yn enwedig adeiladu gorsafoedd ynni newydd – yn ddewis drud. Efallai y byddwn yn gweld ymrwymiadau eraill i roi’r gorau i ddefnyddio glo at ddibenion cynhyrchu ynni.
  5. Rhoi’r gorau i geir petrol a diesel yn raddol. Mae llywyddiaeth COP26 eisiau i’r byd roi’r gorau i werthu cerbydau petrol a disel newydd yn raddol erbyn 2035, bum mlynedd cyn y DU. Mae’n un agwedd ar fantra'r llywodraeth ar gyfer y trafodaethau hinsawdd: "glo, ceir, arian parod a choed", ond gadewch i ni weld a ydym yn dod â dyddiadau’r DU ymlaen... .
  6. Gweithredu ar fioamrywiaeth yw gweithredu ar yr hinsawdd. Mae cyfyngau ar ddatgoedwigo a hyrwyddo adferiad ecolegol yn un o amcanion canolog llywyddiaeth COP26 y DU. Yn unol â nodau trafodaethau bioamrywiaeth y Cenhedloedd Unedig, sydd ar ddod yn Kunming, Tsieina, bydd galwadau eraill i ddiogelu ac adfer ecosystemau.
  7. Pwysau pellach i roi terfyn ar brosiectau tanwydd ffosil. Mae’r llywodraeth wedi galw i mewn prosiect pwll glo Cumbria ac mae maes olew Cambo ym Môr y Gogledd yn parhau i fod yn bosibilrwydd. Os bydd y naill neu’r llall ohonynt yn mynd rhagddynt, mae’n siŵr y bydd canlyniadau diplomyddol niweidiol: mae’n debygol y bydd cefnogi echdynnu tanwydd ffosil eraill gan hyrwyddo lleihau allyriadau yn cael ei wfftio fel rhagrith.
  8. Craffu gan y gymdeithas sifil. Disgwylir i filoedd o ymgyrchwyr ledled y byd gymryd rhan yn COP26, gan roi pwysau ychwanegol ar y tîm llywyddiaeth am lwyddiant ac am weithredu gweladwy gwirioneddol nawr, nid rhagor o osod targedau pa mor uchelgeisiol bynnag yw’r rhain.

Wrth i’r penderfyniadau byd-eang mawr gael eu gwneud yn COP 26, gwyddom fod gennym ran allweddol yn ymdrech Tîm Cymru i ymdrin â’r argyfwng hinsawdd a dyna pam yr ydym ni yn Dŵr Cymru yn cymryd camau breision.

Ym mis Mawrth 2021, cymeradwyodd Bwrdd Glas y targedau lleihau carbon ar gyfer Dŵr Cymru a’r map trywydd cysylltiedig i gyflawni’r targedau hyn. Nod y strategaeth "Taith i Sero-net" a gymeradwywyd yw sicrhau gostyngiad yng nghyfanswm ein hôl troed carbon (carbon sy’n deillio o weithrediadau a charbon corfforedig) o 90% erbyn 2030, o’i gymharu â llinell sylfaen amcangyfrifedig 2010-2011 o 335kton (+/-15kton) ac anelu at niwtraliaeth garbon (neu’n well) erbyn 2040.

Mae ein trywyddau yn datblygu’r buddsoddiadau helaeth mewn cynhyrchu adnewyddadwy yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, ynghyd â buddsoddiad i wella effeithlonrwydd ynni, sy’n darparu lefel hunangynhaliol bresennol o 25%. Nod rhaglen fuddsoddi AMP7 yw gwella lefel yr ynni hunangynhaliol ymhellach i 35% erbyn 2025. Ein targed tymor hir yw 100% o hunangynhaliaeth erbyn 2050.

Mae’r strategaeth "Taith i Sero-net" yn gosod cyfanswm allyriadau net o 30-35kt erbyn 2030, yn seiliedig ar ein hadroddiadau presennol o allyriadau sy’n ffoi (o’r broses trin carthion). Mae’r olaf yn uwch na’r lefel uchelgeisiol sydd ei angen i leihau’r tymheredd byd-eang i 1.5 gradd, sy’n ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau leihau eu hallyriadau o leiaf 4.2% y flwyddyn rhwng 2020-2030, a fyddai’n arwain at darged sy’n cyfateb i 70-75kt erbyn 2030.

Rydym yn rhan o’r hyn a fu erioed yn ddiwydiant sy’n defnyddio ynni’n ddwys, ac rydym yn wynebu heriau sylweddol wrth ddatgarboneiddio. Un o’r meysydd mwy heriol yr ydym yn dal i ddysgu amdano yw’r lefel bresennol o allyriadau sy’n ffoi o brosesau trin gwastraff. Mae gwaith yn mynd rhagddo o fewn Dŵr Cymru a sector dŵr ehangach y DU i wella’r gwaith o fonitro ac adrodd ar allyriadau o’r fath, ac o’r fan hynny, rydym yn ymchwilio i dechnolegau ar gyfer cynnal ein gwaith carthion yn wahanol i leihau’r allyriadau eu hunain. 

Mae perchnogaeth glir o’r gweithgareddau o fewn y strategaeth wedi’i neilltuo ymhlith penaethiaid gwasanaethau perthnasol y cwmni, gyda Thîm Ynni Dŵr Cymru yn rheoli ac yn cydlynu’r rhaglen lleihau carbon gyffredinol ac yn adrodd ar yr ôl troed blynyddol. Mae’r dull hwn yn adlewyrchu’r un a gymerwyd yn llwyddiannus ar Arloesedd yn y busnes yn ystod y 5+ mlynedd diwethaf.

Yn hollbwysig i lwyddiant ein cynlluniau fydd yr angen am fuddsoddiad – tua £100m dim ond yn AMP8. Rydym yn bwriadu gweithio gyda’n rheoleiddiwr amgylchedd CNC i ymgorffori’r targedau allyriadau carbon yn ein rhwymedigaethau Rhaglen Amgylcheddol Genedlaethol ar gyfer AMP8 a diwygio ein prosesau cynllunio buddsoddi fel eu bod yn gwerthfawrogi carbon o fewn yr achos busnes PR24. Gobeithiwn y bydd hyn yn caniatáu i’r "cyfalaf naturiol" sy’n gysylltiedig â’r strategaeth sero-net gael ei werthfawrogi, ac felly’n ein galluogi i symud at atebion sy’n fwy seiliedig ar ddalgylchoedd natur yn AMP8.

I ni, mae hyn yn ymwneud â mwy o arloesi, gweithredu a buddsoddi ar lawr gwlad, gan ddatblygu’r cynnydd mawr yr ydym eisoes wedi’i wneud i leihau ein hôl troed carbon. Bydd yn golygu buddsoddi, a chefnogaeth ein cwsmeriaid wrth gwrs. Ond rwy’n gobeithio y bydd COP26 yn adfywio ein llywodraeth, rheoleiddwyr a chwsmeriaid i gefnogi’r gwaith hollbwysig hwn, oherwydd heb fuddsoddiad ni allwn gyrraedd y targedau yr ydym wedi’u nodi, a’r cyfan y mae hynny’n ei olygu i’r genhedlaeth nesaf.