Dŵr Cymru'n edrych nôl ar aeaf mwyn ond stormus
11 Ebrill 2022
Mae Dŵr Cymru wedi cofnodi ei aeaf mwyaf gwydn hyd yn hyn, a hynny diolch i lwyddiant ei waith cynllunio rhagweithiol ar gyfer argyfyngau, a'i ymgyrchoedd i gwsmeriaid. Er y bu gaeaf 2021-22 yn fwy mwyn nag arfer, bu angen i'r cwmni daclo gwahanol fath o anawsterau – ar ffurf stormydd.
Mewn mis digynsail yn Chwefror 2022 cafodd ardal weithredu’r cwmni ei tharo gan dair storm mewn wythnos – Dudley, Eunice a Franklin – a oedd yn cynnwys rhybuddion tywydd coch ac a fyddai'n dod â goblygiadau i bob maes o'r busnes. I baratoi, trodd Dŵr Cymru at fodelu adnoddau a datblygu cynlluniau tywydd coch ar y cyfle cyntaf posibl, gan gynnwys gweithgareddau rhagweithiol fel sicrhau bod ei gronfeydd gwasanaeth yn llawn, sicrhau bod tanceri ar gael, cynyddu adnoddau ar draws y busnes, a newid o bŵer y prif gyflenwad i drydan generadur yn ei orsafoedd pwmpio gwledig rhag ofn bod y gwyntoedd cryfion yn effeithio ar y cyflenwad pŵer.
Dywedodd Jonathan Taylor, Uwch Reolwr Gwella Busnes Dosbarthu Dŵr: “Mae cynnal gwaith dosbarthu dŵr yn heriol ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, ond mae ychwanegu tywydd gaeafol at y peth yn gallu achosi pob math o broblemau sy'n rhoi straen ar y rhwydwaith ac ar ein hadnoddau.
“Rydyn ni'n falch dros ben o'n hymateb i’r tywydd gaeafol eleni. Bu ein gwytnwch yn dyst i’m cynlluniau parhad busnes cadarn, ein negeseuon cryf i gwsmeriaid a’r gwersi a ddysgwyd o ddigwyddiadau'r gorffennol. Yn sgil rhagolygon y tywydd, a'r rhybudd gan y Swyddfa Dywydd fod stormydd ar eu ffordd, bu angen i ni gynllunio ac ymateb yn gyflym.
“Rydyn ni wedi dysgu tipyn dros y degawd diwethaf. Achosodd Storm fawr y Dwyrain yn 2018 y sialens fwyaf erioed i ni o ran tywydd gaeafol. Byrstiodd nifer fawr o brif bibellau yn sgil y tymheredd isel, glaw mawr ac eira, a chollwyd bron i 2,5000 o gyflenwadau dŵr dros dro gan roi straen mawr ar weithrediadau'r canolfannau cysylltu a'r rhwydwaith. Dysgwyd nifer o wersi allweddol o ran cynllunio at argyfyngau o hynny, sydd wedi arwain at lai o effeithiau ar gwsmeriaid a chadw ein cydweithwyr yn ddiogel rhag digwyddiadau a damweiniau sy'n gysylltiedig â'r tywydd.”
Gwrandewch ar rifyn diweddaraf ein podlediad i glywed mwy gan Jon yma
Pan fo'r tymheredd yn disgyn, mae'r dŵr mewn pibellau a thapiau'n gallu rhewi, gan atal cyflenwadau dŵr a gwneud i bibellau fyrstio. Pibellau a thapiau yn yr awyr agored neu mewn mannau oer iawn sydd fwyaf tebygol o rewi. Dyna pam fod y cwmni'n cyflawni gwaith cynllunio ac ymgyrchu dwys wrth baratoi ar gyfer y gaeaf er mwyn sicrhau bod cydweithwyr a chwsmeriaid fel ei gilydd yn rhagweithiol ac mor barod â phosibl am dywydd oer, gan adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd mewn blynyddoedd blaenorol.
Mae’r cwmni’n atgoffa cwsmeriaid, er bod tywydd gaeafol yn gallu achosi problemau mawr, mae yna bob math o gamau rhagweithiol y gallant eu cymryd mewn digon o bryd i osgoi byrst trychinebus yn eu cartref. Yn ôl y ffigurau diweddaraf gan Go Compare, y safle cymharu prisiau yswiriant, o'r holl bobl a ymgeisiodd am ddyfynbris am yswiriant cartref trwy GoCompare gan ddatgan eu bod wedi hawlio ar bolisi rhwng Ionawr ac Awst 2021, roedd 25% o'r hawliadau hynny am ddŵr yn gollwng.
- Ffeindiwch eich stoptap - bydd angen i chi allu cyrraedd ato'n gyflym, a gwybod sut i'w gau os bydd y gwaethaf yn digwydd.
- Os oes pibellau a thapiau gennych yn yr awyr agored, neu mewn lle oer fel llofft neu garej, lapiwch nhw â deunydd inswleiddio neu becyn lagio. Mae stoc gyfyngedig o becynnau lagio ar gael yma.
- Gall tapiau sy'n diferu gynyddu'r risg o bibellau'n rhewi, felly cofiwch eu trwsio nhw.
- Mae perygl arbennig mewn adeiladau gwag. Wrth adael eich cartref neu'ch busnes, caewch y stoptap a draeniwch y system fel nad oes unrhyw ddŵr yn y system i rewi.