Diwrnod Menywod mewn Peirianneg: Cwrdd â’n tîm Diogelwch Argaeau
21 Mehefin 2024
Gyda chymoedd, mynyddoedd a bryniau yn gefndir iddynt, mae cronfeydd dŵr Cymru’n rhan o rai o dirweddau mwyaf syfrdanol y wlad. Ond mae’r gwerddonau yma, sydd weithiau’n anghysbell, yn chwarae rhan hanfodol yn ein bywydau pob dydd.
Mae gan Ddŵr Cymru 140 o gronfeydd dŵr sy’n dod o fewn cwmpas Deddf Cronfeydd Dŵr 1975, ac maen nhw’n amrywio o ran maint o ddwy erw i dros fil erw. Mae gan bob un ei phwrpas, o ddarparu cyflenwadau dŵr ar gyfer cymunedau ar draws Cymru, i amddiffyn rhag llifogydd mewn stormydd trwm, ac mae rhai yn ffynhonnell pŵer hydrodrydan. Mae gennym ambell i gronfa sy’n cael eu defnyddio at ddibenion iechyd, lles a hamdden hefyd, gan helpu pobl i ailgysylltu â’r dŵr a’r amgylchedd.
Rhwng 2020 a 2025, rydyn ni’n buddsoddi dros £140 miliwn er mwyn sicrhau bod ein hargaeau a’n cronfeydd yn ddiogel, yn cael eu cadw mewn cyflwr gweithredol da, a’u bod yn cydymffurfio â safonau uchel ein rheoleiddwyr. Mae ein hymrwymiad i’r safleoedd hynod hyn yn adlewyrchu ein haddewid i ail-fuddsoddi elw yn uniongyrchol er budd ein cwsmeriaid a’r cymunedau a wasanaethwn. Mae hyn yn cynnwys cynnal a gwella strwythurau sy’n bodoli eisoes fel Llyn Celyn – y gronfa ddŵr fwyaf yn y gogledd – a Chraig Goch, sy’n un o chwech argae Cwm Elan.
Ar Ddiwrnod Menywod mewn Peirianneg eleni, rydyn ni’n rhoi sylw arbennig i’r menywod sy’n gweithio yn ein Tîm Diogelwch Argaeau gan helpu i gadw’r argaeau a’u strwythurau’n ddiogel er mwyn amddiffyn cwsmeriaid, y dŵr a’r amgylchedd am flynyddoedd i ddod.
Gemma Roberts, Peiriannydd Cynorthwyol sy’n gwasanaethu’r gogledd i gyd
Roeddwn i wastad yn mwynhau’r pynciau STEM yn yr ysgol ac roeddwn i am ddilyn gyrfa lle gallwn i wneud gwahaniaeth. Rwy’n cofio, pan oeddwn i’n iau, y byddwn i’n edrych ar gynlluniau adeiladu ac yn meddwl ‘Dwi am adeiladu pethau mawr’, felly fe astudiais i Beirianneg Sifil yn y brifysgol. Rwy’n gwybod o’m profiad fy hun fod yna bobl allan yna sydd ddim yn gweld peirianneg fel swydd i fenywod (dywedodd hen athro ysgol wrthyf y byddwn i’n ‘lwcus i astudio peirianneg fel merch’!).
Mae peirianneg yn bwnc mor helaeth, a gyda datblygiadau technolegol parhaus mae yna rywbeth newydd i’w ddysgu o hyd, a chyfleoedd gwych am swyddi. Dydy pobl ddim yn gwybod digon am beth mae peirianwyr yn ei wneud yn aml, felly dydyn nhw ddim yn ystyried y peth fel gyrfa.
Rwy’n ffodus nad oes yna ddiwrnod ‘nodweddiadol’ yn fy rôl i. Fy mhrif ffocws yw sicrhau ein bod ni’n cyflawni safonau diogelwch gwaith yn unol â Deddf Cronfeydd Dŵr 1975. Fi sy’n gyfrifol am reoli, cynllunio a thracio atebion peirianegol cost-effeithiol ar draws y gogledd, goruchwylio gwaith, a sicrhau bod mesurau’n cael eu cyflawni’n brydlon er diogelwch. Mae fy swydd yn amrywiol dros ben, o archwilio’r tu fewn i argaeau, i dystiolaethu i gynlluniau adeiladu ar gost o filiynau o bunnoedd - does byth dau ddiwrnod sy’n debyg i’w gilydd.
Yn fwy diweddar, rydw i wedi bod ynghlwm wrth nifer o gynlluniau i ddatgomisiynu argaeau, gan ddatgymalu strwythurau ein hargaeau a dychwelyd y safleoedd i fyd natur. Rwy’n helpu hefyd gyda’r gwaith pob dydd, sy’n cynnwys cyflawni archwiliadau 6-misol a 10 mlynedd, gan ddiweddaru’r cynlluniau brys, ymgeisio am ganiatâd, a chydgysylltu ag ymgynghorwyr.
Mae cael teithio trwy olygfeydd godidog i safleoedd ein hargaeau yn sicr yn uchafbwynt; dydy diwrnod braf yn Eryri byth yn teimlo fel gwaith. Rwy’n cael profi pethau nad yw’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod dim amdanynt; fel cerdded trwy dwneli yn ddwfn o dan y cronfeydd, neu weithredu paneli rheoli o fewn ein hargaeau. Rydw i wrth fy modd yn gwybod y bydd fy ngwaith yn para am gannoedd o flynyddoedd gan wella’r byd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, a’u cadw nhw’n ddiogel yn y pen draw.
Aimee Middleton, gweinyddwr y Tîm Diogelwch Argaeau, yn gweithredu ar draws y de
Mae gen i radd mewn daearyddiaeth, felly mae’n naturiol fod gen i ddiddordeb mewn argaeau a sut maen nhw’n gweithio – ac mae cael gweld y safleoedd prydferth ledled Cymru’n fantais hefyd!
O anfonebu i drefnu cyfarfodydd a digwyddiadau, rwy’n cynorthwyo lle bynnag y bo angen er mwyn cadw gwaith y tîm yn rhedeg yn llyfn.
Mae angen rhagor o fenywod yn y maes i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf. Mae dechrau mewn amgylchedd sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion yn bennaf yn gallu dychryn rhywun, ond mae gweld menywod eraill yn yr adran yn galonogol ac yn ein hysbrydoli ni i dyfu hefyd.
Byddwn i’n dweud taw’r agwedd fwyaf ymestynnol yn fy rôl yw sicrhau bod ein holl gyflenwyr yn cael eu talu’n brydlon, a sicrhau eu bod nhw’n codi’r taliadau cywir arnom ni. Gyda symiau mor fawr yn cael eu talu allan er mwyn cyflawni’r gwaith, mae hi’n bwysig bod yr holl waith anfonebu’n gywir.
Rydw i wedi bod yn yr adran ers blwyddyn bron a bod nawr, a byddwn i’n dweud taw’r uchafbwynt i mi yw cael mynd allan a gweld prydferthwch ein hasedau, a chael anogaeth a chefnogaeth y tîm i wneud hynny.
Ruella Mantile-James, Myfyriwr Rhwydwaith 75, yn gweithio yn y de
Mae gen i ddiddordeb brwd mewn peirianneg erioed, ac yn arbennig strwythurau a seilweithiau. Dechreuodd y diddordeb yma pan oeddwn i’n ifanc iawn ac yn mynd i ymweld ag argaeau, felly pan gododd y cyfle i ymuno â’r tîm Diogelwch Argaeau, fe fachais i arni’n syth.
Does byth dau ddiwrnod yr un fath yn fy rôl. Fel prentis, rwy’n cael dau ddiwrnod yr wythnos i fynd i’r brifysgol, a thri diwrnod gyda’r tîm diogelwch argaeau. Yn ystod y tri diwrnod yma, rydw i naill ai yn y swyddfa’n gweithio ar brosiect neu allan ar un o’r safleoedd.
Byddwn i’n argymell rolau peirianneg i fenywod eraill oherwydd mae tîm amrywiol yn gallu arwain at amrywiaeth eang o brofiadau, safbwyntiau a ffyrdd arloesol o ddatrys problemau cymhleth.
Jo Cullen, Rheolwr Strategaeth, yn gweithio yn y gogledd
Cyn dechrau yn y byd diogelwch argaeau, roeddwn i wedi bod yn gweithio ym maes adnoddau dŵr ers 10 mlynedd. Roeddwn i wir yn mwynhau’r gwaith ond roeddwn i’n awyddus i adeiladu ar fy mhrofiad blaenorol ym maes hydroleg llifogydd ac addasu at newid hinsawdd. Cynorthwyodd fy rheolwr llinell fi i gyflawni secondiad dwy flynedd gydag Asiantaeth yr Amgylchedd, yn gweithio dau ddiwrnod yr wythnos ar Raglen Gwella Hydroleg Llifogydd y DU.
Roedd hi’n gyfle gwych, a byddwn i wir yn argymell secondiad allanol i unrhyw un. Roeddwn i’n awyddus i ddod â’r ddysg yma nôl i Ddŵr Cymru, a thrwy lwc cododd rôl Rheolwr Strategaeth Diogelwch Argaeau ar yr adeg berffaith i mi. Roedd y tîm diogelwch argaeau i’w gweld yn griw cyfeillgar ac roeddwn i’n credu bod hwn yn rhan o’r busnes lle gallwn i wneud gwahaniaeth, yn arbennig am fod yna ddisgwyliad i ddifrifoldeb ac amledd digwyddiadau eithafol gynyddu yn y dyfodol.
Fel rheolwr strategaeth, fi yw ‘llygaid a chlustiau’ y tîm i bob pwrpas, ac mae angen i mi gadw i fyny ag unrhyw newidiadau sydd ar y gweill o ran canllawiau, deddfwriaeth ac ymchwil gwyddonol a allai effeithio ar ein gweithrediadau a pheryglu ein cydymffurfiaeth yn y dyfodol.
Er mwyn dod o hyd i’r ateb orau, mae angen i ni feddwl y tu hwnt i’r bocs a chasglu cynifer o wahanol syniadau â phosibl. I wneud hyn, mae angen tîm amrywiol ag amrywiaeth o wahanol brofiadau a chefndiroedd arnom ni. Rwy’n mwynhau gwyddoniaeth, ond i mi, defnyddio gwyddoniaeth yn ymarferol yw’r peth mwyaf gwerth chweil.
Fel tîm, rydyn ni’n cyflawni cynlluniau ar gost o filiynau o bunnoedd er mwyn cadw ein hargaeau’n ddiogel a diogelu cyflenwadau dŵr ein cwsmeriaid, ond wrth wneud hyn rhaid i ni gadw’r gost a’n heffaith ar yr amgylchedd mor isel â phosibl. Dyma ddatrys problemau ar ei orau, ac mae’n hyfryd gweld y cynlluniau yma’n cael eu gwireddu.
Rydw i wedi symud i dîm gwahanol yn ddiweddar, mae yna lawer i’w ddysgu ac rydw i wedi gorfod cadw syndrom y ffugiwr draw a chofio bod fy mhrofiad blaenorol yn dal i fod yn berthnasol, a’r cyfan sydd wedi newid yw fy mod i’n ei ddefnyddio mewn maes gwahanol. Oherwydd natur y rôl, rydw i wedi gorfod cysylltu ag arbenigwyr diogelwch argaeau ar draws y DU er fy mod i’n newydd i’r maes. Rwy’n ffodus fod gen i dîm mor wych o’m cwmpas am fod pawb wedi bod yn gefnogol ac yn amyneddgar hyd yn oed wrth i mi ofyn yr un cwestiwn am y trydydd tro!
Jenna Nicolle Gaughan, Rheolwr Cleientiaid, yn gweithio ar draws y de
Dydw i ddim wedi ymweld ag unrhyw argae Dŵr Cymru sydd heb fod yn ysbrydoledig – mae hi’n anhygoel cael gweithio gyda seilwaith mor anhygoel. Maen nhw’n gwneud lluniau cŵl ar Instagram hefyd!
Un o’r pethau gorau am fy swydd yw nad oes yna’r fath beth â ‘diwrnod nodweddiadol’. Mae fy ngwaith i’n amrywio o gyfarfodydd â Llywodraeth Cymru i geisio dylanwadu ar ddeddfwriaeth newydd am ddiogelwch cronfeydd dŵr, i ysgrifennu papurau ar gyfer y diwydiant, goruchwylio asesiadau risg o ran diogelwch cronfeydd, i fod allan ar y safle yn gweld pa mor gymhleth yw rhai o’n hatebion peirianegol. Pe bai angen i mi ddweud beth yw’r rhan fwyaf nodweddiadol o fy rôl, yna diogelwch yw hynny – dyna sydd wrth wraidd pob penderfyniad a wnawn.
Mae yna lwyth o resymau pan fo angen rhagor o fenywod arnom yn y byd peirianneg, ond yn syml, mae angen i ni ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr benywaidd. Er bod merched yn perfformio’n well yn y pynciau STEM ar lefel TGAU a Safon Uwch, dim ond 12% o beirianwyr y DU sy’n fenywaidd. Mae angen i rywbeth fod yn weladwy er mwyn i bobl gredu ynddo.
Y rhan fwyaf ymestynnol o fy rôl yw penderfynu sut a phryd i flaenoriaethu buddsoddiad cyfalaf. Gyda chyllideb gyfyngedig, mae angen i ni feddwl am y risg wrth benderfynu sut i wario ein harian er mwyn sicrhau ei fod yn cynnig gwerth go iawn am arian i Ddŵr Cymru a’n cwsmeriaid. Mae llawer o’n hargaeau dros 100 mlwydd oed ac mae sicrhau eu bod nhw’n bodloni safonau diogelwch modern yn ymestynnol – ac yn gyffrous.
Y pethau gorau am fy rôl yw’r cyfleoedd i fynd y tu fewn i’r argaeau a gweld y pethau sydd ynghudd o’r golwg i’r rhan fwyaf o bobl. Mae hi’n fraint fawr cael gweld canlyniad prosiectau cymhleth aml-flwydd, gan wybod faint o ofal sydd wedi mynd i amddiffyn a gwella ein hamgylchedd.