Working together to support customers in vulnerable circumstances

Cydweithio i gynorthwyo cwsmeriaid dan amgylchiadau bregus


9 Ebrill 2021

Deuddeg mis ar ôl dechrau'r cyfnod clo cenedlaethol cyntaf, fe eisteddon ni i lawr gyda Sam James, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid Domestig, i ganfod sut mae Dŵr Cymru'n gobeithio tynnu sefydliadau ynghyd i weithio mewn partneriaeth er mwyn cynorthwyo aelwydydd ar draws Cymru a all fod yn ei chael hi'n anodd cyrchu'r gwasanaethau y mae ganddynt yr hawl i'w cael.

Dwed wrthym beth yw dull gweithredu Dŵr Cymru.

O ran cynorthwyo cwsmeriaid sydd dan amgylchiadau bregus, does yna’r un ateb i bawb. Efallai fod gan deulu ifanc ag incwm isel set hollol wahanol anghenion i berson oedrannus sy'n byw ar ei ben ei hun. Mae ar berson ag anabledd dysgu angen math gwahanol o gymorth i rywun â nam ar eu golwg.

Beth ry’n ni am ei wneud yw teilwra ein cymorth a'n gwasanaethau at anghenion unigol ein cwsmeriaid. Rydyn ni wedi sefydlu tîm cymorth arbenigol sy'n gallu helpu gyda chymorth ariannol ac anariannol; rydyn ni wedi hyfforddi ein timau yn y gymuned ar y ffordd orau o ymateb i'r arwyddion bod ar gwsmer angen cymorth ychwanegol o bosibl; ac rydyn ni'n gweithio gyda phartneriaid ym maes llywodraeth leol, tai, ynni a'r trydydd sector i wella argaeledd y cymorth sydd ar gael. Yn hynny o beth, yr allwedd yw adnabod pwy sydd angen y cymorth yma, a beth yw eu hamgylchiadau, fel y gallwn ddeall eu hanghenion penodol a chynnig y cymorth angenrheidiol iddyn nhw.

Sut mae Dŵr Cymru'n gweithio gyda sefydliadau eraill?

Rydyn ni'n gweithio gyda rhwydwaith bendigedig o bartneriaid. Mae ein gwaith yn amrywio o drefniadau i rannu data â dosbarthwyr ynni yn ein hardal i hyfforddi swyddogion tai lleol i allu cofrestru cwsmeriaid ar gyfer ein tariffau cymdeithasol. Mae'r partneriaethau hyn yn hynod o werthfawr, ac yn ddiweddar fe gynhalion ni ein Gweithdy Cwsmeriaid Bregus rhithwir cyntaf, gan dynnu llawer o'r sefydliadau hyn ynghyd i rannu syniadau a phrofiadau o'r gwaith rydyn ni i gyd yn ei wneud yn y maes yma.

Daeth dros 80 o bobl – yn cynrychioli Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol, cwmnïau cyfleustod, asiantaethau cynghori ar ddyledion a sefydliadau elusennol – i ymuno â ni am fore o rannu syniadau a sgyrsiau pwysig oedd yn canolbwyntio ar ddod o hyd i ffyrdd newydd o estyn allan a chefnogi'r bobl fwyaf bregus yn y gymdeithas.

Beth sydd wedi cael ei gyflawni hyd yn hyn?

Y datblygiad mwyaf arwyddocaol yn fwy na thebyg yw'r maes rhannu data, ac mae hynny'n rhywbeth a ddeilliodd o achlysur tebyg a drefnwyd gennym yn 2019. Yn sgil trafodaethau â Llywodraeth Cymru ar fenter rhannu data ar gyfer gwasanaethau blaenoriaeth, roeddem ni mewn sefyllfa dda i weithio gyda nhw i ymateb i gyflwyniad y trefniadau gwarchod ar gyfer pobl sydd mewn categorïau risg uchel o ran COVID19. Fe greon ni Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth dros dro ar gyfer rhyw 350,000 o bobl a gafodd gyfarwyddyd i warchod yng Nghymru, ac mae hynny’n caniatáu i ni flaenoriaethu cwsmeriaid sydd angen cymorth ychwanegol, fel dŵr potel am ddim i'r drws os oes problem gyda'u cyflenwad dŵr.

Y maes arall o'n gwaith i dynnu sylw ato yw'r prosiectau Cymunedau Gwydn o ran Dŵr. Dyma lle'r ydyn ni wedi sefydlu prosiectau cymunedol mewn ardaloedd lle'r ydyn ni'n buddsoddi mewn gwelliannau i'n rhwydwaith dŵr a charthffosiaeth. Rydyn ni'n cydweithio'n agos â sefydliadau lleol fel ysgolion, canolfannau gwaith, a banciau bwyd er mwyn meithrin gwell dealltwriaeth am sut y gallwn fynd i'r afael â rhai o'r sialensiau y mae'r cymunedau unigol yna'n eu hwynebu. Mae'n caniatáu i ni godi ymwybyddiaeth a mynediad at y cymorth a ddarparwn hefyd.

Unrhyw syniadau i gloi?

Roedd ein gweithdy diweddar wir yn dangos beth y gellir ei gyflawni wrth i ni gyfuno ein syniadau, ein pobl a'n hadnoddau. Yn ogystal â phwysigrwydd clywed am brofiadau pobl eraill, mae hi'n gyfle i ddysgu sut y gallwn ni i gyd wella ein gwasanaethau a mynd i'r afael â rhai o'n nodau cyffredin Dyna'n sicr beth rydw i wedi ei gymryd o'r diwrnod, ac rwy'n edrych ymlaen at gael gweithio gyda llawer o'r bobl a ddaeth i roi'r trafodaethau hynod bositif yma ar waith.

Mae rhagor o fanylion yma am ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth a'n Cymorth Ariannol.