Prosiect da i ddathlu Diwrnod y Llyfr


3 Mawrth 2021

Dros y deuddeg mis diwethaf, rydyn ni i gyd wedi dod i arfer â gweld pobl yn cyflawni cyfweliadau o'u cartrefi ar eu gwe-gamerâu.

Ond nid beth maen nhw'n ei ddweud yn ystod y cyfweliad yw'r hyn sy'n mesur person yn aml, ond y casgliad o lyfrau sydd y tu ôl iddyn nhw – a llawer ohonynt yn gwneud dim ond hel llwch debyg iawn. I mi, mae hyn yn fy atgoffa fod angen i mi ddarllen mwy o lyfrau. Oni bai am ambell i dro ar wyliau, mae hi'n anarferol iawn i mi ffeindio'r amser (na'u cymhelliant) i godi llyfr da, heblaw wrth gwrs am ddarllen am hynt a helynt Cyw, Llew, Plwmp, Bolgi, Sog a'r Gryffalo i'm plentyn 5 mis oed amser gwely.

Yn Dŵr Cymru, rydyn ni wrth ein bodd i allu dathlu Diwrnod y Llyfr mewn ffordd sydd ychydig bach yn wahanol eleni.  Mae ein tîm Addysg wedi bod yn gweithio gyda disgyblion ifanc creadigol bendigedig o Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf. Eu briff yw gweithio gydag awdur a darlunydd lleol i gynhyrchu llyfr i blant ar thema 'Stop Cyn Creu Bloc' gan gyfeirio at effaith pethau'n blocio ein rhwydwaith o garthffosydd. Mae hi'n gyfle dysgu gwych i'r plant sy’n rhoi cyfle iddynt ddatblygu eu sgiliau llythrennedd, ac yn rhoi cyfle iddynt feddwl yn ddwys am yr amgylchedd a chynaliadwyedd hefyd. Mae'n rhoi gwir ymdeimlad o berchnogaeth ar y llyfr iddynt hefyd, a fydd yn helpu i lywio ymddygiad cenedlaethau'r dyfodol.

Yn ogystal â'r ffaith fod prif thema'r llyfr yn arbennig o bwysig i ni fel cwmni nid-er-elw, i ni yn Dŵr Cymru mae'r llyfr yn fenter cyd-gynhyrchu lwyddiannus hefyd. Mae'r fenter yn dod o fewn cwmpas ehangach y prosiect Cymunedau Cadarn o ran Dŵr, sy'n defnyddio gwasanaethau sy'n bodoli eisoes o fewn y cwmni i ddatblygu pecyn o weithgareddau pwrpasol ar gyfer yr ardaloedd prosiect er budd cymunedau lleol.  Un o'r ardaloedd prosiect yw Rhymni a Bargoed, lle mae'r cwmni'n buddsoddi £10 miliwn yn y rhwydwaith dŵr. Mae'r llyfr, a'r broses o’i greu, yn tynnu amrywiaeth o gydweithwyr, partneriaid a sefydliadau ynghyd. Ffrwyth prosiect ar y cyd gennym ni yn Dŵr Cymru'r a Thîm Adfywio'r Ardal o dan sylw yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw hi. Mae'n elwa ar gefnogaeth y Rhwydwaith Rhieni ym Margoed a'u menter cyhoeddi P.E.T.R.A. (Rhieni'n Ymrwymo i Godi Dyheadau), ynghyd â'n Tîm Addysg a'n tîm Rhwydweithiau Dŵr sy’n darparu'r cyd-destun a dealltwriaeth fanwl o'r pwnc. Ond wrth gwrs, sêr y sioe yw'r disgyblion eu hunain, ac nid oes unrhyw amheuaeth taw nhw sydd â'r llais fwyaf yn neilliannau'r darn yma o waith. Ar ôl cyhoeddi’r llyfr, caiff copïau eu dosbarthu i ysgolion a hybiau cymunedol yn ein hardaloedd prosiect. Yn fy marn i, os bu yna erioed esiampl o gwmni'n gweithio gyda'r gymuned er budd y gymuned - dyma hi.

Yr wythnos ddiwethaf oedd dechrau'r daith, gyda'r cyntaf o 10 sesiwn rithwir i ddatblygu'r llyfr. Cawn weld pa gymeriadau rhyfedd a rhyfeddol a fydd yn ymddangos yn ein carthffosydd, a beth fydd yn digwydd iddynt ar hyd y ffordd. Dim ond y rheiny sydd wrthi'n cynhyrchu'r llyfr fydd yn gallu dweud â'u llaw ar eu calon ai ffaith neu ffuglen yw hi!