Diwrnod y Ddaear: Sut r'yn ni'n diogelu bioamrywiaeth
21 Ebrill 2022
Fel chi, rwy'n mwynhau neilltuo amser ar gyfer natur. Wrth orffen gwaith am y dydd, byddaf i’n gwisgo fy welis ac allan a fi a Maggie'r ci am antur – glaw neu hindda!
Dim ots a ydyn ni'n mynd am lwybr yr arfordir, ar hyd llwybrau natur lleol neu i'r parc, rwy'n teimlo mor ffodus i gael cofleidio'n bywyd gwyllt lleol wrth fynd am dro yn fy milltir sgwâr. Mae hyd yn oed eistedd yn yr ardd â phaned yn bleser – wrth wrando ar yr adar ac anwybyddu'r holl chwyn sy'n galw am sylw!
Fel ymgynghorydd ecoleg a bioamrywiaeth DCWW, mae fy angerdd yn ymestyn y tu hwnt i'r aelwyd! Yr wythnos hon byddwn ni'n dathlu Diwrnod y Ddaear – yr amser delfrydol i rannu beth rydyn ni'n ei wneud dros fyd natur a bywyd gwyllt yn DCWW yn rhan o'r tîm bioamrywiaeth.
Fel y gwyddoch efallai, erbyn hyn mae dyletswydd uwch o ran bioamrywiaeth arnom ni, ynghyd ag awdurdodau cyhoeddus eraill, o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae Adran 6 yn mynnu ein bod yn "cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru, ac wrth wneud hynny, hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau, i’r graddau y bo hynny’n gyson ag arfer y swyddogaethau hynny’n briodol".
Yn rhan o'r ddyletswydd honno, fe gyhoeddon ni ein hail Gynllun Bioamrywiaeth statudol "Neilltuo amser ar gyfer Natur 2020" ym mis Rhagfyr 2020. Mae'r cynllun yn cynnwys 30 ymrwymiad penodol â gweithredoedd ar draws y busnes. Mae rhagor o fanylion yma.
Eleni byddwn ni'n cyhoeddi ein Hadroddiad Bioamrywiaeth sy'n dangos y cynnydd a wnaed tuag at y 30 ymrwymiad, ynghyd â phrosiectau cyffrous eraill i helpu i gynnal a chyfoethogi bioamrywiaeth.
Mae gennym lawer o brosiectau cyffrous ar y gweill ar hyn o bryd, sy'n cynnwys astudiaeth sylfaenol o'n hasedau gweithredol er mwyn canfod sut y gallwn wella bioamrywiaeth ar ein safleoedd. Mae arweinwyr bioamrywiaeth yn cael eu recriwtio ar draws y busnes hefyd er mwyn cynorthwyo prosiectau graddfa fach ar ein safleoedd gweithredol, fel codi blychau adar a gwestai chwilod, yn ogystal â dod o hyd i Rywogaethau Goresgynnol Anfrodorol (INNS) a chynnal dolydd blodau gwyllt. Peidiwch â phoeni os gwelwch chi rai o'n safleoedd gweithredol yn dechrau edrych ychydig bach yn 'flewog' – dol blodau gwyllt sy'n tyfu yno'n fwy na thebyg! Wrth gwrs, bydd ein cydweithwyr yn cynnal holl lwybrau a ffiniau ein safleoedd er mwyn sicrhau diogelwch pawb sy'n ymweld â'n nhw. Rydyn ni wedi bod yn brysur yn datblygu strategaeth Fioamrywiaeth a gaiff ei chyhoeddi'n fuan iawn, sy'n pennu ein huchelgeisiau a'n hamcanion ac a fydd yn llywio ein cynllun gweithredu wrth edrych tua'r dyfodol, felly cadwch lygad yn agored am hynny.
Mae DCWW yn lle da ar gyfer cydweithio, ac rwy'n ffodus iawn o gael gweithio gyda thimau gwirioneddol angerddol sydd oll yn gweithio i ddiogelu'r amgylchedd nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n gwybod fod yna nifer fawr o bobl sy'n rhannu ein hangerdd, a byddwn yn eich croesawu chi i gymryd rhan! Gallwch wneud hyn mewn amryw o ffyrdd;
- Cysylltwch â ni yn Biodiversity@dwrcymru.com os oes awgrym neu syniad gennych i wella bioamrywiaeth yn DCWW, neu i drafod ffyrdd y gallwn weithio mewn partneriaeth ag eraill.
- I ymgeisio am gyllid cymunedol ar gyfer prosiectau bioamrywiaeth graddfa fach (hyd at £1000), cliciwch yma.
- Am brosiectau bioamrywiaeth graddfa fwy neu gyfleoedd i weithio ar y cyd, mynnwch ragor o wybodaeth am ein cronfa amgylcheddol.
Gallwn ni i gyd neilltuo amser ar gyfer natur ar Ddiwrnod y Ddaear – a phob dydd mewn gwirionedd! Does dim angen iddi fod yn brosiect anferth, mae hi'n gallu bod yn rhywbeth mor syml â gwneud gwesty chwilod, plannu ambell i fwlb, a pheidio â thorri’r gwair am y tro cyntaf mor gynnar eleni. Gyda'n gilydd, gallwn fynd i'r afael â'r argyfwng bioamrywiaeth a diogelu ein hamgylchedd am genedlaethau i ddod. Rwy'n neilltuo amser ar gyfer natur – ydych chi?