Diwrnod Plymio'r Byd a WaterSafe


11 Mawrth 2022

Heddiw yw Diwrnod Plymio'r Byd ac roeddem ni am rannu'r rhesymau pam y dylech ddefnyddio plymwr WaterSafe.

Rydyn ni wedi bod yn sgwrsio â Lee Brooks, sy'n gweithio yn ein tîm Rheoliadau Dŵr, am fanteision WaterSafe i Ddŵr Cymru a'n cwsmeriaid.

Beth mae bod yn blymwr WaterSafe yn golygu?

Cyfeiriadur am ddim ar lein a chorff achredu yw WaterSafe. Fe'i sefydlwyd er mwyn helpu ein cwsmeriaid i ddod o hyd i blymwyr cymeradwy. Dim ond pobl broffesiynol â'r cymwysterau a'r yswiriant priodol sydd ac sydd â gwybodaeth ardystiedig am eu cyfrifoldebau cyfreithiol wrth gyflawni gwaith sy'n cael eu rhestru yn y cyfeiriadur.

Rhaid iddyn nhw fod yn ymwybodol o ofynion y Rheoliadau Ffitiadau Dŵr, a deall y gofynion caeth sydd ynghlwm wrth osod, cynnal a chadw a thrwsio systemau plymio. Yn ogystal, am ein bod ni'n cydnabod eu gwaith, rydyn ni'n rhannu ein canllawiau a'n harferion gorau ni â nhw hefyd.

Pam fod Dŵr Cymru'n hybu WaterSafe?

Wrth i mi helpu cwsmeriaid gyda phroblemau plymio, maen nhw'n aml yn gofyn i mi argymell rhywun i gyflawni gwaith trwsio neu osod preifat. Os na allwn ni wneud y gwaith ein hunain, rydyn ni'n eu cyfeirio at WaterSafe bob tro.

Gallwn wneud hyn yn hyderus gan wybod y bydd ein cwsmeriaid yn gallu dod o hyd i rywun â'r holl gymwysterau ac yswiriant angenrheidiol. Dim ots ai gollyngiad bach, argyfwng, neu'r ystafell ymolchi yna y bu hir aros amdani sydd gennych mewn golwg, rydyn ni'n argymell troi at WaterSafe am eich anghenion plymio bob tro.

Mae defnyddio plymwr WaterSafe yn cynnig amddiffyniad pellach i'n cwsmeriaid hefyd, am fod rhaid i'r cynllun Contractwr Cymeradwy y maent wedi cofrestru ar ei gyfer fod â phrosesau mewn grym i ddelio â chwynion neu bryderon defnyddwyr.

Trwy hybu WaterSafe, rydyn ni'n cefnogi busnesau lleol, y mae'r rhan fwyaf ohonynt yn gwsmeriaid i ni hefyd. A peth braf yw gwybod bod ein cwsmeriaid yn gallu defnyddio plymwyr lleol cymeradwy wrth gyflawni unrhyw waith.

Pan ddylwn i fod yn defnyddio plymwr WaterSafe?

Mae Dŵr Cymru'n rhoi llawer iawn o ymdrech i sicrhau bod ein cyflenwadau dŵr yfed yn ddiogel ac yn lân wrth gyrraedd ein cwsmeriaid. Pan fo'r dŵr yn cyrraedd cartrefi a busnesau, y ffordd orau o’i fwynhau yn ddiogel yw sicrhau bod ein systemau plymio mewnol yn gweithio'n dda.

Fel tîm Rheoliadau Dŵr, rydyn ni'n cyflawni archwiliadau ar safleoedd cwsmeriaid mewn ymateb i broblemau o ran ansawdd dŵr, gollyngiadau preifat ac yn rhan o'n hymdrechion gorfodi rhagweithiol. Mae'n syndod i rai bod y problemau plymio mwyaf cyffredin y ffeindiwn yng nghartrefi a busnesau ein cwsmeriaid yn codi'n uniongyrchol o offer a ffitiadau ystafell ymolchi nad ydynt yn cydymffurfio, neu sydd heb gael eu gosod yn iawn.

Gall gwaith plymio diffygiol ddifrodi eiddo, ond yn bwysicach na hynny, gall beri risg i iechyd ein cwsmeriaid. Nid ydym yn disgwyl i bawb fod yn arbenigydd plymio, ond trwy ddefnyddio rhywun proffesiynol â'r cymwysterau priodol, rydych chi'n gwneud popeth y gallwch chi i amddiffyn y cyflenwad dŵr i’ch eiddo.

Sut mae dod o hyd i blymwr WaterSafe?

Rydyn ni wedi ei gwneud hi'n hawdd iawn i chi ddod o hyd i blymwr cymeradwy lleol. Os ewch chi i'n gwefan, fe welwch chi offeryn chwilio WaterSafe ar ein tudalen hafan. Mae hi i'w gweld mewn ambell i fan gyfleus arall ar y wefan hefyd.

Fel arall, gallwch fynd yn uniongyrchol i WaterSafe, naill ai trwy fynd i'w gwefan neu trwy roi galwad iddynt ar 0333 207 9030. Neu, gallwch anfon eich cwestiynau atynt trwy neges e-bost yn info@watersafe.org.uk.

Nid yw fy mhlymwr arferol ar restr WaterSafe. Pam?

Cynllun gwirfoddol yw WaterSafe. Ond nid yw’n anodd i blymwyr gofrestru, felly efallai byddai'n werth gofyn iddyn nhw pam nad ydynt wedi cofrestru.

Gall plymwyr cymeradwy sy'n byw yng Nghymru a'r ardaloedd o Loegr rydym ni'n eu gwasanaethu, ymuno â WaterSafe am ddim trwy WIAPS, sef Cynllun Plymwyr Cymeradwy’r Diwydiant Dŵr. Cewch ymuno trwy gorff eich diwydiant hefyd os ydych chi'n aelod cyfredol o CIPHE neu APHC.

Rydyn ni yma i gynorthwyo plymwyr i gofrestru ar gyfer WaterSafe, a byddwn ni'n darparu pa ganllawiau bynnag y gallwn ni i helpu i restru aelodau newydd. Yn ogystal â hynny, os yw plymwr yn ystyried ymuno ond nad oes cymhwyster cymeradwy ganddynt yn y Rheoliadau Dŵr, gallwn ni gynnig yr hyfforddiant yna iddyn nhw – am ddim!

Os ydych chi'n adnabod plymwr a allai fod â diddordeb, gallant gofrestru eu diddordeb yn ein cwrs trwy glicio yma.