Dŵr Cymru’n Dathlu Diwrnod Sgiliau Ieuenctid y Byd
14 Gorffennaf 2022
Wrth edrych ymlaen at Ddiwrnod Sgiliau Ieuenctid y Byd, fe siaradon ni ag Anette Mason, ein Pennaeth Talent a Chynhwysiant, a chydweithwyr eraill ar draws Dŵr Cymru am bwysigrwydd datblygu sgiliau gwaith allweddol, gan ofyn am eu cynghorion nhw i bobl sydd ar gychwyn eu gyrfa.
Mae Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wedi datgan taw 15 Gorffennaf fydd Diwrnod Sgiliau Ieuenctid y Byd. Bydd y diwrnod yn dathlu pwysigrwydd taclu pobl ifanc â’r sgiliau ar gyfer cyflogaeth, gwaith gweddus a mentergarwch.
Mae rhoi cyfleoedd i bobl ifanc yn rhywbeth rydyn ni’n angerddol yn ei gylch yn Dŵr Cymru. Dros y pum mlynedd diwethaf yn unig, rydyn ni wedi croesawu 56 o raddedigion a 98 o brentisiaid i weithio gyda ni, ac mae yna gyfleoedd bob amser i ddatblygu sgiliau newydd ac ennill cymwysterau proffesiynol yma.
Ar ôl cynnal ein Gŵyl Gyrfaoedd ni ein hunain ar gyfer cydweithwyr Dŵr Cymru ym mis Mehefin, rydyn ni wedi gofyn i gydweithwyr o bob rhan o’n busnes gynnig eu cynghorion nhw i bobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau.
Parhewch i ddarllen ac os oes diddordeb gennych chi ddod yn un o raddedigion neu brentisiaid Dŵr Cymru, ewch i yma.
Gareth Evans
Rheolwr Cynhyrchu
Fe ddechreuais i gyda DCWW ym 1991 fel prentis ar y Cynllun Cyflogaeth Ieuenctid.
Mae fy nysgu pwysicaf yn y gwaith wedi dod o siarad â chydweithwyr a dealltwriaeth o’r busnes. Peidiwch ag ofni methiant, am taw dysgu yw’r cyfan. Mae pob diwrnod yn ddiwrnod ysgol…
Blake Stockdale
Cynghorydd Iechyd a Diogelwch
Pe bawn i am rannu cyngor neu anogaeth â chydweithiwr, canolbwyntio ar dy ddatblygiad a gweithio’n ddyfal fyddai hynny.
Nid fi yw’r person mwyaf cymwysedig (llond llaw o TGAU yn unig gefais i) na mwyaf profiadol, ond un peth sydd gen i yw pendantrwydd a ffocws ar wneud gwaith da. Os gweithiwch chi’n galed a rhoi ymdrech i’r gwaith, mae yna ddigonedd o gyfleoedd gwych ar gael i chi.
Lisa Elworthy
Cydlynydd Perfformiad
Rwy’n falch o fy siwrnai yn gweithio fy ffordd i ble’r ydw i nawr. Rwy’n ymwybodol fy mod i wedi dioddef gyda fy hyder yn y gorffennol am nad oes gen i gymaint o gymwysterau â llawer o fy nghydweithwyr.
Ond does yna ddim byd i gymryd lle profiad, ac rydw i’n fy nghynnig fy hun am hyfforddiant a phrofiadau pellach gyda thimau a phrosiectau eraill lle bo modd.
Tirion Pryce
Cynghorydd Iechyd a Diogelwch
Fy nghyngor neu arweiniad i wrth edrych nôl dros fy llwybr gyrfaol fy hun fyddai cofleidio newid, peidio ag ofni gofyn cwestiynau, a pheidio â hel meddyliau am bethau.
Yn olaf, bachwch ar bob cyfle gewch chi, dydyn nhw ddim yn codi eilwaith!
Kelly Jordan
Rheolwr Prosiectau Gwyddonol
Y brif elfen sydd wedi helpu i ddatblygu fy ngyrfa gyda DCWW yw’r cydweithwyr bendigedig rydw i wedi dysgu ganddynt, ac rwy’n parhau i ddysgu ganddynt bob dydd.
Mae gen i rwydwaith o gydweithwyr gwybodus a medrus sydd bob amser yn hapus i helpu, i fod yn gyfaill beirniadol ac i’m hannog.
Helena Hopkins
Peiriannydd Atebion Cynhyrchu
Pe bawn i am gynnig geiriau o anogaeth, peidio â bod ofn creu eich cyfleoedd eich hun, a pheidio â gadael i ofn neu fethiant eich atal rhag ymgeisio am gyfleoedd i symud eich gyrfa yn ei flaen.
Daw’r cyngor a’r hunan-ddatblygiad gorau i mi eu cael ar gefn methiant, ac rydw i wedi dod yn reolwr gwell oherwydd hynny… felly ewch amdani!