Beth i'w wneud os ydych chi'n poeni am dalu eich bil dŵr


7 Chwefror 2022

Yma yn Dŵr Cymru, r’yn ni'n deall fod ar rai o'n cwsmeriaid angen ychydig bach o gymorth ychwanegol o bryd i'w gilydd.

Nawr yn fwy nag erioed, r’yn ni'n ymwybodol iawn bod llawer o bobl yn wynebu sialensiau ariannol a phersonol a allai fod yn gwneud bywyd ychydig bach yn anodd. Efallai'ch bod chi'n wynebu sialensiau ariannol penodol ar hyn o bryd oherwydd pethau fel diwedd cynlluniau ffyrlo Covid-19, y newidiadau i daliadau budd-dal neu gostau cynyddol ynni.

Os ydych chi'n cael trafferthion ariannol, efallai y gallwn ni helpu. Mae gennym amrywiaeth o dariffau a chynlluniau y gallech fod yn gymwys i'w derbyn, ac ar hyn o bryd rydyn ni'n darparu cymorth ariannol ar gyfer 140,000 o aelwydydd, sy'n record.

Pa gymorth ydyn ni'n ei gynnig?

  • Tariffau Cymdeithasol: Mae bod yn ansicr a allwch fforddio talu eich biliau yn gallu achosi poen meddwl go iawn. Nod ein tariffau cymdeithasol yw cadw biliau dŵr yn isel; os ydych chi'n dod o aelwyd ag incwm isel, yn derbyn budd-dal yn seiliedig ar brawf moddion, neu os ydych chi'n dibynnu ar eich cyflenwad dŵr i drin anhwylder meddygol, gallech fod yn gymwys ar gyfer tariffau HelpU neu WaterSure Cymru.

    Dysgu mwy

  • Cynlluniau dyled: Rydyn ni'n gwybod bod syrthio ar ei hôl hi gyda'ch taliadau'n gallu achosi straen, ac mae'n bwysig gwybod nad ydych ar eich pen eich hun. Nid yw dyled yn gwahaniaethu; mae'n gallu digwydd i unrhyw un. Nod ein cynlluniau dyledion yw eich helpu chi i reoli eich dyledion mewn modd fforddiadwy nes bod eich arian dan reolaeth eto. Am fanylion ein Cronfa Gymorth i Gwsmeriaid a'r Cynllun Water Direct, ewch i yma.

    Dysgu mwy 

  • Arbed Dŵr: Os ydych chi'n byw ar eich pen eich hun, neu'n defnyddio dŵr yn ddarbodus, gallech elwa o newid i fesurydd dŵr. Gyda mesurydd dŵr, gallwch wneud i bob diferyn o ddŵr gyfri trwy ddefnyddio dŵr yn effeithlon. Mae ein cyfrifiannell Get Water Fit yn cynnig awgrymiadau am ffyrdd o arbed dŵr gartref, ac yn cynnig nwyddau arbed dŵr am ddim hefyd. Os nad oes gennych fesurydd dŵr, efallai y byddai'n syniad ystyried cael un.

    Dysgu mwy

  • Gwasanaethau Blaenoriaeth: Rydyn ni'n gwybod nad cymorth ariannol sydd ei angen ar rai ohonoch, ond efallai bod arnoch angen cymorth o fath gwahanol gennym. Mae ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth yn cynnig gwasanaethau ychwanegol am ddim fel biliau hygyrch, cynllun cyfrineiriau a dŵr potel i'r drws os oes unrhyw beth yn tarfu ar eich cyflenwad dŵr. Gallai'r gwasanaethau yma helpu unrhyw un, o rywun sy'n byw ag anabledd neu salwch, i deuluoedd â phlant ifanc, neu gymydog oedrannus sydd ar eu pen eu hunain.

    Dysgu mwy 

Beth ddylech ei wneud nesaf?

Os ydych chi'n poeni am dalu'ch bil dŵr, neu os oes arnoch angen cymorth ychwanegol gennym, cysylltwch â ni i ofyn am gymorth. R'yn ni'n gwybod bod llawer o bobl yn poeni'n fawr am arian, a dyna pam ein bod ni'n arbennig o awyddus i atgoffa ein holl gwsmeriaid ein bod ni yma i helpu os ydych chi'n wynebu trafferthion ariannol.

Mae ein timau medrus yn aros i gynnig cyngor a chymorth arbenigol i chi, ac mae gennym amrywiaeth o opsiynau cymorth ariannol sy'n gallu helpu i'ch gosod ar ben ffordd. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw estyn allan trwy ffonio, neu trwy ddefnyddio ein gwasanaethau cymorth ar lein. R'yn ni yma i chi.

Os oes arnoch angen cymorth ychwanegol gan Ddŵr Cymru unrhyw bryd, peidiwch â diodde'n dawel. Dim ots a ydych chi mewn trafferthion ariannol, yn dioddef o anhwylder meddygol, neu os oes gennych bryderon eraill am eich bil dŵr, cysylltwch - r'yn ni yma i chi.