Codi’r Hysbysiad Berwi Dŵr Rhag Ofn
Cyflenwadau dŵr yn ôl i normal
Mae'r hysbysiad berwi dŵr rhag ofn wedi cael ei godi. Cliriwyd yr holl gyflenwadau dŵr yfed, a gallwn gadarnhau y gall cwsmeriaid ddefnyddio eu dŵr tap fel arfer o hyn ymlaen. Diolch i chi am eich amynedd, mae'n flin gennym am unrhyw anghyfleustra a achoswyd.
Mae ein gwaith brys yng Ngweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff Tyn-y-waun (Treherbert), sy’n cyflenwi eich dŵr yfed, wedi cael ei gwblhau. Mae’r Hysbysiad Berwi Dŵr rhagofalus wedi cael ei godi yn sgil hynny.
Mae Asiantaethau Iechyd Lleol wedi cytuno nad oes angen y mesurau diweddar mwyachfelly gall cwsmeriaid yfed eu dŵr tap fel arfer unwaith eto.
Mae hyn yn golygu:
- Nid oes angen berwi dŵr cyn ei ddefnyddio.
- Gellir ailgysylltu peiriannau gwerthu diodydd a gwneud iâ
- Rydyn ni’n eich cynghori i newid unrhyw hidlyddion o gwmpas eich cartref; mae hyn yn cynnwys jygiau hidlo a hidlyddion ar systemau dŵr. Gosodwch hidlydd newydd ar bob un.
Diolch i chi am eich amynedd. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra
Neu rydym yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Croeso i chi roi galwad i ni ar 0800 052 0130 ac mae’r llinellau ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Cwestiynau Cyffredin
Daeth yr hysbysiad berwi dŵr i rym am 5:00am fore Sul, 24 Tachwedd.
Bu glaw mawr yn ystod wythnos 18 Tachwedd, yn wir, yn ôl y mesurydd tywydd yn Nhyn-y-waun, yr ardal hon gafodd y lefel glawiad uchaf ond un yn y DU dydd Sadwrn 23 a dydd Sul 24 Tachwedd. Achosodd hyn lifogydd sylweddol ar safle Gweithfeydd Trin Dŵr Tyn-y-waun, gyda dŵr wyneb yn llifo oddi ar y bryn ar y tanc storio dŵr yfed gan effeithio ar y tanc ei hun. Dyna pam y cyhoeddwyd hysbysiad berwi dŵr rhag ofn ar unwaith er mwyn caniatáu i ni gyflawni gwaith i amddiffyn y tanc.
Hysbysiad ‘berwi dŵr’ rhag ofn oedd hwn ac rydyn ni wedi cyflawni profion helaeth ar y dŵr yfed er mwyn sicrhau ei fod o’r safon uchel arferol.
Rhaid i’n holl ddŵr yfed gydymffurfio â’r safonau uchel dros ben y mae ein rheoleiddwyr yn eu pennu.
Fyddwn ni byth yn cymryd unrhyw risg gydag iechyd ein cwsmeriaid, ac rydyn ni’n hyderus nad oes angen berwi’r dŵr erbyn hyn.
Cewch ddefnyddio dŵr o’r tap wrth frwsio dannedd ac ar gyfer gweithgareddau eraill o nawr ymlaen. Mae’r hysbysiad berwi dŵr wedi cael ei godi’n barod, ac rydyn ni’n hyderus nad oes angen berwi’r dŵr erbyn hyn.
Cysylltwch â’n gwasanaethau cwsmeriaid ar 0800 052 0130 ac fe wnawn ni’n gorau glas i’ch helpu chi - mae’r llinellau ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Erbyn 4 Rhagfyr, byddwn ni wedi anfon yr holl daliadau cychwynnol o £150 at gwsmeriaid. Byddwch wedi derbyn y taliad yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc trwy daliad BACS os ydych chi’n talu eich bil trwy Ddebyd Uniongyrchol ar hyn o bryd. Os nad oes gennym fanylion banc ar eich cyfer, byddwn ni’n anfon siec yn y post, ond gallai hynny gymryd ychydig bach mwy o amser i’ch cyrraedd chi. Rydyn ni’n gweithio i anfon yr ail daliad at y cwsmeriaid o dan sylw cyn gynted â phosibl, ac rydyn ni’n disgwyl cwblhau hyn erbyn 15 Rhagfyr.
Dim ond cwsmeriaid a gafodd neges destun yn uniongyrchol gan Ddŵr Cymru i ffôn neu linell dir sy’n gysylltiedig â’r cyfrif cofrestredig, neu daflen trwy’r post gan Ddŵr Cymru i’w hysbysu am yr hysbysiad ‘berwi dŵr’ rhag ofn, fydd yn gymwys i gael iawndal.
Ni allwn dalu iawndal i bobl sy’n byw y tu hwnt i ardal yr hysbysiad.
Defnyddiwch y dŵr fel y bo angen – does dim angen ei ddychwelyd.
Does dim angen i chi boeni am newid ym mhwysedd y dŵr ar ôl codi’r hysbysiad. Mae pwysedd yn y system o hyd ac nid oes angen amser ychwanegol i’r pwysedd dŵr ddychwelyd i’r arfer. Os cewch chi broblem gyda phwysedd eich dŵr, bydd hynny am reswm arall, felly dylech gysylltu â ni ar 0800 052 0130.
Oes – dylech newid neu lanhau’r hidlyddion dŵr glân yn eich oergell, systemau o dan y sinc a dyfeisiau hidlo dŵr eraill.
Cewch ddefnyddio dŵr o’r tap at ddibenion yfed, coginio a gweithgareddau eraill yn syth. Mae’r hysbysiad berwi dŵr wedi cael ei godi’n barod, ac rydyn ni’n hyderus nad oes angen berwi’r dŵr erbyn hyn.
Ydy. Mae’r hysbysiad berwi dŵr wedi cael ei godi’n barod, ac rydyn ni’n hyderus nad oes angen berwi’r dŵr erbyn hyn.
Os oes peiriant iâ neu declyn dosbarthu dŵr oer gennych, crëwch lwyth o giwbiau iâ a’u taflu i ffwrdd. Dylai’r llwyth nesaf fod yn ddiogel i’w ddefnyddio wedyn. Nid oes angen glanhau na diheintio’r peiriant yn fwy na hynny.
Nid oes angen gwneud dim byd arbennig i lanhau na diheintio’ch peiriant golchi llestri, peiriant golchi dillad nac unrhyw ddyfeisiau eraill sy’n defnyddio dŵr ar ôl i’r hysbysiad berwi dŵr ddod i ben. Maen nhw’n ddiogel i’w defnyddio.
Os ydych chi’n berchennog busnes neu fwyty, nid oes angen i chi wneud dim byd arbennig cyn dychwelyd i weithredu fel arfer.