Gyrfaoedd yn
Dŵr Cymru

Rhoi Bywyd i Gymru

Rydym ni ym mhob cymuned. Ac er mwyn pob cymuned.

Ni yw Dŵr Cymru. Y bobl â’r angerdd i ddod â dyfodol pobl yn fyw mewn busnes sy’n rhoi bywyd i Gymru!

Darganfyddwch y gwahaniaeth y gall Dŵr Cymru ei wneud i'ch bywyd.

Ein Dŵr sy’n rhoi bywyd i Gymru

Mae’n helpu i gadw 3 miliwn o bobl yn iach ac yn lân bob dydd. Mae’n cadw busnesau’n rhedeg yn ddidrafferth a bywyd yn llifo’n braf. Yn Dŵr Cymru, rhown bob ceiniog, pob mymryn o egni, a llawer o gariad at roi bywyd i Gymru, drwy roi dŵr glân i gartrefi a busnesau, a mynd â dŵr gwastraff i ffwrdd yn ddiogel. Amseroedd arloesol, amseroedd peirianneg, amseroedd gwirfoddoli, amseroedd hwyl, ac amseroedd datblygu.

Ni yw'r peirianwyr a'r gwyddonwyr, y gofalwyr a'r cynghorwyr cwsmeriaid sy'n cadw'r tapiau’n llifo a’n cwsmeriaid yn hapus. A ni yw’r miloedd o rolau hynod amrywiol eraill â chyfrifoldeb Cenedlaethol, pawb yn gweithio i ddarparu’r safonau uchaf o foddhad.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Rydym wedi ymrwymo i greu diwylliant o barch gan y naill at y llall lle mae pawb yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith a chael cyfle cyfartal i ffynnu. Rydym yn credu mewn gwneud y pethau iawn dros ein cwsmeriaid, ein gweithwyr a’r cwmni, ac rydym wedi ymrwymo i addo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac i drin eraill ag urddas a pharch bob amser. Drwy werthfawrogi a pharchu safbwyntiau a chyfraniadau ein cwsmeriaid a'n gweithwyr, byddwn yn meithrin diwylliant o barch gan y naill at y llall. Drwy gydweithio'n agored a gyda pharch, gallwn sicrhau bod ein gwerthoedd craidd yn dod yn brofiad byw i'n cwsmeriaid a'n gweithwyr.

Gallwch ddysgu mwy am Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn Dŵr Cymru yma.