Rhoi Bywyd
i Yrfaoedd

Rhowch Hwb i’ch Gyrfa yn Dŵr Cymru

"Rydym yn edrych ymlaen weithio gyda’r genhedlaeth nesaf o dalent yn Dŵr Cymru. P’un a ydych am ddatblygu gwybodaeth ymarferol o fewn prentisiaeth, rhoi hwb i’ch taith gyrfa gyda’n rhaglen i raddedigion, neu gael profiad ymarferol drwy ein hinterniaethau a’n profiad gwaith, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael i bawb! Dechreuwch eich gyrfa gyda Dŵr Cymru a byddwch yn rhan o dîm sydd wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth nawr ac am genedlaethau i ddod."a

Annette Mason, Pennaeth Talent a Chynhwysiant

Graddedigion

Neidiwch am eich dyfodol

Bob blwyddyn rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig, uchelgeisiol ac yn anad dim, unigolion dawnus i ymuno â’n rhaglen i raddedigion. Ymunwch â'n rhaglen i raddedigion a gwnewch argraff yn y diwydiant dŵr.

Nod ein rhaglen yw trochi graddedigion mewn amgylchedd deinamig ac arloesol lle gallant wneud newidiadau a gwella’r ffyrdd rydym yn gweithio.

Dysgy mwy

Prentisiaethau

Dysgwch a thyfwch gyda ni

Mae ein rhaglenni i brentisiaid a hyfforddeion yn amrywio o ran gofynion, lleoliad a hyd yn dibynnu ar y rhaglen rydych yn gwneud cais amdani, rydym yn gweithio gyda sawl darparwr hyfforddiant gwych i ddarparu prentisiaethau.

Fel prentis yn Dŵr Cymru, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol profiadol, yn derbyn mentoriaeth bersonol ac yn cael cyfle i gyfrannu at brosiectau ystyrlon. Mae ein rhaglen brentisiaethau ar gau ar hyn o bryd ond cadwch olwg am gyfleoedd yn 2025..

Dysgy mwy

Interniaethau – dechreuwch ar eich taith yma

Mae ein rhaglen interniaeth yn cynnig profiad ymarferol, mentoriaeth gan arbenigwyr yn y diwydiant a chyfleoedd i weithio ar brosiectau sy'n cael effaith.

Byddwch yn cael mewnwelediadau gwerthfawr, yn datblygu sgiliau hanfodol ac yn adeiladu sylfaen gref ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. P’un a ydych yn fyfyriwr neu wedi graddio’n ddiweddar, mae ein hinterniaethau yn darparu amgylchedd cefnogol a deinamig i roi hwb i’ch gyrfa.

Profiad Gwaith

Yma yn Dŵr Cymru, rydym yn cydnabod y manteision a’r cyfleoedd y gall profiad gwaith eu cynnig. Rydym yn cynnig cyfleoedd profiad gwaith i gefnogi pobl i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i fod yn barod am waith. Mae ein cyfleoedd profiad gwaith hefyd yn ffordd wych o arddangos yr ystod amrywiol o yrfaoedd sydd ar gael yn Dŵr Cymru.

Nid ydym yn derbyn lleoliadau profiad gwaith ar hyn o bryd.