Mae ein prentisiaid a’n hyfforddeion yn gweithio gyda phobl frwdfrydig o’r un anian ar draws ein busnes er mwyn helpu i gyflawni ein gweledigaeth.
Rydym yn danfon dŵr glân i'n cwsmeriaid ac yn cludo dŵr budr a charthffosiaeth i ffwrdd, gan ei drin cyn ei ddychwelyd i'n hamgylchedd hardd. Rydym yn falch iawn o gynnig cyflog cychwynnol gwych ar gyfer ein holl brentisiaethau a rhaglenni hyfforddi.
Pethau allweddol y mae angen i chi eu cofio
Os ydych yn ystyried dod yn Brentis neu'n Hyfforddai, gwyddom y bydd gennych lawer o gwestiynau. Dyma rai pethau allweddol y mae angen i chi eu cofio pan fyddwch yn gwneud cais:
Bydd pob rôl yn galw am gymwysterau penodol – gweler y cwymplenni isod Mae gwneud cais am ein rhaglen brentisiaeth fel gwneud cais am un o’n swyddi, felly bydd angen i chi wneud cais am y swydd gyda CV. Gallwch ddod o hyd i'n tudalen gyrfaoedd yma.
Os ydych yn bodloni meini prawf y swydd, byddwch yn cael eich gwahodd i ddiwrnod agored anffurfiol lle gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rôl rydych wedi gwneud cais amdani.
Cyfleoedd Prentisiaethau
Yn ystod eich amser fel technegydd ICA, byddwch yn:
- Gwneud gwaith cynnal a chadw cynlluniedig ar weithfeydd ICA a gwneud penderfyniadau ar dasgau ac amleddau er mwyn taro cydbwysedd rhwng archwiliadau rheolaidd a nifer y methiannau.
- Ymateb i fethiannau ar amrywiaeth eang iawn o beiriannau ICA, asesu problemau, penderfynu ar gamau gweithredu, cael gafael ar ddarnau sbâr a gwneud atgyweiriadau yn ôl yr angen.
- Argymell newidiadau o ran dyluniad, os oes angen, er mwyn sicrhau bod y peiriannau’n parhau i weithio’n effeithlon ac yn effeithiol er mwyn cynnal lefelau gwasanaeth.
Rydym yn gweithio gyda Choleg Penybont i ddarparu'r cymhwyster hwn. Bydd disgwyl i chi deithio i'r coleg ac oddi yno, a darperir y dysgu mewn blociau pythefnos.
Y cymhwyster y byddwch yn ei gwblhau bydd Diploma Lefel 3 mewn Peirianneg Cynnal a Chadw, a Thystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig yn dilyn hynny.
Ar gyfer y rhaglen hon sy’n para 4 blynedd, bydd angen o leiaf gradd B mewn TGAU Mathemateg, a gradd C mewn TGAU Saesneg a Gwyddoniaeth (neu gymhwyster cyfatebol) ar gyfer yr elfen yn y coleg.
Mae hon yn rôl amlsgiliau, lle byddwch yn dysgu crefft Trydanwr a Gosodwr Mecanyddol.
Elfen allweddol o’r rôl yma fydd gwaith cynnal a chadw cynlluniedig ar holl asedau Dŵr Cymru, gan gynnwys gweithfeydd trin dŵr neu ddŵr gwastraff, gorsafoedd trin dŵr neu garthffosiaeth a gorlifoedd storm cyfunol.
Rydym yn gweithio gyda Choleg Penybont i ddarparu'r cymhwyster hwn. Bydd disgwyl i chi deithio i'r coleg ac oddi yno, a darperir y dysgu mewn blociau pythefnos.
Y cymhwyster y byddwch yn ei gwblhau bydd Diploma Lefel 3 mewn Peirianneg Cynnal a Chadw.
Bydd angen o leiaf gradd B mewn TGAU Mathemateg, a gradd C mewn TGAU Saesneg a Gwyddoniaeth (neu gymhwyster cyfatebol) ar gyfer yr elfen yn y coleg.
Bydd y rôl hon yn rhoi cipolwg gwych ar ein Hwb Cwsmeriaid, gan roi'r sgiliau i chi ddatblygu eich gyrfa, ochr yn ochr â diploma mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid. Byddwch yn dysgu gan amrywiaeth o dimau ar draws ein busnes ac yn cefnogi ein cwsmeriaid gan ddefnyddio amrywiaeth o sianeli (y cyfryngau cymdeithasol/ffôn/e-bost).
Bydd angen TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gyfwerth) gradd C neu uwch arnoch.
Fel rhan o'r brentisiaeth hon, byddwch yn astudio gradd mewn Mesur Meintiau sy'n rhoi cyfle unigryw i chi ddatblygu'r rhinweddau a'r sgiliau i ragori yn eich gyrfa.
Byddwch yn cael profiad ymarferol perthnasol o’r diwrnod cyntaf un drwy raglen ddysgu strwythuredig a chylchdro lleoliadau â ffocws masnachol, gan roi’r profiad a’r sgiliau i chi ddatblygu craffter masnachol cryf. Yn ystod y tymor byddwch yn astudio un diwrnod yr wythnos yn y brifysgol ochr yn ochr â'ch dysgu seiliedig ar waith. Yn ystod eich prentisiaeth (tua 5 mlynedd), byddwch yn cyflawni Gradd BSc (Anrh) mewn Mesur Meintiau a Rheolaeth Fasnachol a achredir gan y diwydiant.
I fod yn gymwys ar gyfer y rôl, bydd angen y cymwysterau canlynol arnoch: Safon A: CCC sy’n cynnwys pwnc perthnasol ynghyd ag o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg gradd C neu Radd 4 neu uwch neu eu cyfwerth.
Mae ein timau Technegwyr Rhwydwaith yn gyfrifol am Ddarparwyr Gwasanaeth a thimau maes cysylltiedig sy'n ymwneud â gweithredu, cynnal a chadw ac atgyweirio asedau ein rhwydwaith carthffosiaeth.
Fel rhan o’r rhaglen hon, byddwch yn dysgu sut i wneud y canlynol:
- Cynnal ymchwiliadau i lifogydd
- Helpu i weithredu’r rhwydwaith carthffosiaeth yn ddiogel ac yn effeithlon
- Gweithio’n effeithiol gydag Awdurdodau Priffyrdd o ran diffygion Gwaith ar y Stryd.
Mae hon yn rhaglen 2 flynedd a byddwch yn astudio Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Peirianneg Sifil.
Ar gyfer y rôl hon, gofynnwn i chi fod wedi eich addysgu i Safon Uwch neu gyfwerth.
Fel rhan o'r rôl hon, byddwch yn cyfrannu at gamau gweithredu i ddatrys problemau Dosbarthu neu Ollyngiadau posibl neu wirioneddol er mwyn lleihau’r anghyfleustra i'r cwsmer. Bydd y rôl hefyd yn gofyn i chi:
- Ymdrin â sefyllfaoedd anodd
- Cynnal Archwiliadau Gweledol
- Gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau
Bydd angen TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gyfwerth) gradd C neu uwch arnoch.
Yn y rhaglen hon, byddwch yn dysgu:
- Sut i reoli lefelau stoc cemegol, a stoc a deunyddiau traul eraill.
- Cyflwyno, goruchwylio a rheoli contractwyr allanol sy’n cyflawni gwaith cynnal a chadw ar ein hoffer.
- Cynllunio gwaith gyda’n goruchwylwyr gan sicrhau nad ydym yn amharu ar ein gwasanaethau i gwsmeriaid.
Fel rhan o’r rôl gyffrous hon, byddwn yn:
- Gweithredu safleoedd yn unol â thrwyddedau amgylcheddol i warchod ein hamgylchedd
- Cymryd samplau o elifiant i fonitro a gwella perfformiad biolegol. ·
- Nodi risgiau llygredd posibl o'n hasedau, cymryd camau i atal llygredd ac uwchgyfeirio pan fo angen.
Fel rhan o’r swydd hon, byddwch yn ymdrin ag ymateb cychwynnol ein cwsmeriaid i ddigwyddiadau carthffosiaeth ar draws ardal weithredu’r busnes. Bydd gofyn i chi gyflawni’r holl dasgau sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol ar gyfer ein holl gwsmeriaid. Bydd gofyn i chi glirio rhwystrau, archwilio ein rhwydweithiau carthffosiaeth a chyflawni arolygon, gan ddefnyddio ein hoffer teledu cylch cyfyng.