Bydd ein Rhaglen Graddedig gyffrous yn sicrhau bod pob diwrnod yn wahanol. Byddwn yn darparu amgylchedd dysgu diogel ond heriol i ddatblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad.
Mae denu unigolion sydd am fod yn ddyfodol Dŵr Cymru yn allweddol. Rydym am sicrhau ein bod yn cadw’r dŵr i lifo, yn ogystal â gwarchod ein hamgylchedd hardd. Heddiw, ac ar gyfer y dyfodol.
Beth i’w ddisgwyl fel
Graddedig Dŵr Cymru?
- Rhaglen gyffrous a phroffesiynol gyda rhwydwaith cymorth gwych
- Cyfle i ennill profiad amrywiol ar draws y busnes
- Byddwch yn cael mentor i gefnogi eich taith
- Ewch i’r afael â phrosiectau effeithiol, gan wneud gwahaniaeth
- Cyflogwr amrywiol a chynhwysol
- Nid dyna’r diwedd, mae llawer o sesiynau ychwanegol i ddatblygu eich sgiliau
- Pecyn Buddion gwych
Ein cynllun
Cynllun rheoli
Bydd ein Rhaglen i Raddedigion yn sicrhau bod pob diwrnod yn wahanol a bydd yn darparu amgylchedd dysgu diogel ond heriol i ddatblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad.
Gan ddenu unigolion sydd eisiau bod yn arweinwyr y dyfodol, rydym yn croesawu clywed gennych waeth beth fo’ch pwnc gradd.
Cynllun technegol
Mae gennym nifer o gyfleoedd ar gyfer graddau STEM, yr ydym yn eu galw’n Rhaglenni Technegol i Raddedigion! Rydym yn chwilio am raddedigion gyda graddau mewn pynciau megis Data, TG, Peirianneg, Cyllid, Astudiaethau amgylcheddol, gyda’r nod o ddatblygu eich sgiliau technegol.
Mae rhagor o wybodaeth a manylion penodol i'r swydd ar gael ar yr hysbysebion swyddi.