Profiad
Gwaith

Ein Cyfleoedd Profiad Gwaith

Byddwch yn treulio wythnos gyda chydweithwyr Dŵr Cymru yn un o'n lleoliadau ledled Cymru a Swydd Henffordd (bydd angen i chi fod â’ch cludiant eich hun i gyrraedd y lleoliad a nodir). Yno, cewch gyfle i ddysgu am Dŵr Cymru, yr hyn a wnawn, sut rydym yn ei wneud a'n gwerthoedd. Mae'r cyfleoedd hyn yn agored i bawb – unrhyw oedran neu lefel addysg, p'un a ydych yn dal yn yr ysgol neu wedi gweithio ers degawdau ond awydd newid.

Mae gennym 5 o wahanol lwybrau profiad gwaith yn dibynnu ar ba swyddi a meysydd busnes y mae gennych ddiddordeb ynddynt.

Peirianneg a Gweithrediadau

Rydym yn cynnal ac yn gwella ein piblinellau a'n gwaith trin dŵr i sicrhau bod dŵr a dŵr gwastraff yn ddiogel ac yn effeithlon. Mae swyddi yn cynnwys trydanwyr, gosodwyr mecanyddol, gweithredwyr ac arolygwyr.

Dyddiad: 24-28 Chwefror 2025
Lleoliad: Gogledd-ddwyrain – Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Pum Rhyd, Ffordd Cefn, Marchwiel, Wrecsam, LL13 0PA

Byddwch yn gweithio gyda'n tîm crefft, gan brofi sgiliau mecanyddol, trydanol ac offeryniaeth. Mae Pum Rhyd yn gweithredu'r dechnoleg ddiweddaraf o fewn y maes trin dŵr gwastraff. Rydym yn cynnal rhai o'r pympiau dadleoli cadarnhaol mwyaf yn Ewrop. Peiriant hydrolysis thermol, sy'n lladd 99.9% o'r pathogenau, allgyrchyddion, boeleri, treulwyr uwch, a pheiriant nwy i grid, sef yr unig un mewn gwasanaeth yng Nghymru ar hyn o bryd.

Dyddiad: 24-28 Chwefror 2025
Lleoliad: Gogledd-ddwyrain – Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Pum Rhyd, Ffordd Cefn, Marchwiel, Wrecsam, LL13 0PA

Byddwch yn cael profiad o weld sut rydym yn cymryd samplau, monitro ac addasu pwyntiau gosod proses, gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf, felly bob amser yn sicrhau gweithrediadau diogel ac allbwn ynni uchaf. Byddwch yn dysgu am ein mentrau ynni adnewyddadwy, paneli solar, peiriannau gwres a phŵer cyfunol, a'n proses o gael gwared ar y bionwy o'r slwtsh yna cael gwared ar yr amhureddau sy'n cael eu cynhyrchu o'r gwastraff a'i roi yn ôl i'r rhwydwaith nwy.

Dyddiad: 24-28 Chwefror 2025
Lleoliad: De-orllewin – Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Pontfadlen, Hwlffordd, SA61 1JL

Byddwch yn cael cyfle i gysgodi ein tîm mecanyddol, trydanol ac offeryniaeth sy'n gweithio i gynnal ein hasedau mewn sefyllfaoedd adweithiol a rhai sydd wedi'u cynllunio. Byddwch yn dysgu am ein cwsmeriaid; y berthynas rhwng gweithrediadau a'r amgylchedd a phwysigrwydd iechyd a diogelwch.

Dyddiad: 24-28 Chwefror 2025
Lleoliad: Gogledd-orllewin – Depo Dinas, Llanwnda, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5UD

Byddwch yn cael cipolwg ar sut rydym yn dosbarthu ac yn gofalu am daith dŵr yfed o’r broses trin dŵr i’r tap. Byddwch yn dysgu am sut rydym yn edrych ar ôl y rhwydwaith yn rhagweithiol; y wyddoniaeth a'r dechnoleg dan sylw a'n cyfrifoldeb i sicrhau iechyd a lles ein cwsmeriaid trwy ddarparu dŵr yfed glân a diogel.

Dyddiad: 24-28 Chwefror 2025
Lleoliad: De-ddwyrain – Swyddfa Tŷ Awen, Spooner Close, Coedcernyw, Casnewydd, NP10 8FZ

Byddwch yn cael cyfle i gysgodi ein tîm peirianneg cyfalaf sy'n gyfrifol am gyflawni'r holl gynlluniau cyfalaf yn ddiogel ac yn effeithlon. Mae'r tîm yn rheoli dyluniad, ansawdd a chost prosiectau peirianneg i sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni ar amser ac o fewn y gyllideb. Byddwch yn dysgu am adnewyddu asedau hŷn yn ogystal ag adeiladu rhai newydd; ystyriaethau amgylcheddol a phwysigrwydd iechyd a diogelwch.

Dyddiad: 24-28 Chwefror 2025
Lleoliad: De-orllewin – Depo Clydach, Ystad Ddiwydiannol Players, Clydach, SA6 5BQ

Byddwch yn cael cyfle i gysgodi ein tîm peirianneg cyfalaf sy'n gyfrifol am gyflawni'r holl gynlluniau cyfalaf yn ddiogel ac yn effeithlon. Mae'r tîm yn rheoli dyluniad, ansawdd a chost prosiectau peirianneg i sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni ar amser ac o fewn y gyllideb. Byddwch yn dysgu am adnewyddu asedau hŷn yn ogystal ag adeiladu rhai newydd; ystyriaethau amgylcheddol a phwysigrwydd iechyd a diogelwch.

Dyddiad: 24-28 Chwefror 2025
Lleoliad: De-orllewin – Depo Clydach, Ystad Ddiwydiannol Players, Clydach, SA6 5BQ

Byddwch yn gweithio gyda'n timau rhwydwaith dŵr gan weld elfennau rhagoriaeth gweithredu ein tancio ac amrywio cyflenwadau. Byddwch yn dysgu am ddiogelwch, iechyd a'r amgylchedd; darparu nwyddau ac ymateb gweithredol; rheoli pobl yn effeithiol, ansawdd dŵr a chydymffurfiaeth; cyllid a chaffael.

Cwsmeriaid

Dim dyddiadau ar gael, gwiriwch yn ddiweddarach

Rydym yn darparu gwasanaeth a chymorth i gwsmeriaid, gan sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu wrth hyrwyddo profiad cadarnhaol i'r defnyddiwr. Mae swyddi yn cynnwys cynghorwyr cwsmeriaid, darllenwyr mesuryddion, arweinwyr tîm manwerthu.

Data a Thrawsnewid

Rydym yn dadansoddi data ac yn ysgogi arloesedd digidol i wella effeithlonrwydd gweithredol, gwasanaeth cwsmeriaid a rheoli adnoddau. Mae swyddi yn cynnwys gwyddonwyr data, dadansoddwyr profion, dadansoddwyr seiberddiogelwch.

Dyddiad: 24-28 Chwefror 2025
Lleoliad: De-ddwyrain – Swyddfa Linea, Ffordd Fortran, Llaneirwg, Caerdydd, CF3 0LT

Oes gennych chi ddiddordeb mewn data ac yn awyddus i archwilio ei effaith ar fusnes? Mae ein tîm data yn cynnig lleoliad profiad gwaith lle byddwch yn dod i gysylltiad ag ystod o feysydd sy'n cael eu hysgogi gan ddata, gan gynnwys deallusrwydd busnes, gwyddor data, awtomeiddio, llywodraethu data a pheirianneg data. Mae hwn yn gyfle gwych i dyfu eich dealltwriaeth dechnegol, dysgu gan weithwyr proffesiynol profiadol a gwneud cyfraniadau ystyrlon.

Busnes a Chorfforaethol

Dim dyddiadau ar gael, gwiriwch yn ddiweddarach

Rydym yn rheoli swyddogaethau ariannol, gweinyddol a strategol i gefnogi gweledigaeth Dŵr Cymru a thwf cynaliadwy. Mae swyddi yn cynnwys gweinyddwyr, cynghorwyr adnoddau dynol, cyfrifwyr, cynghorwyr iechyd a diogelwch.

Gwyddoniaeth a'r Amgylchedd

Rydym yn monitro ansawdd dŵr ac effaith amgylcheddol, gan sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau a hyrwyddo cynaliadwyedd ecolegol. Mae swyddi yn cynnwys technegwyr labordy, rheolwyr cyswllt ansawdd afonydd, gwyddonwyr prosesau.

Dyddiad: 24-28 Chwefror 2025
Lleoliad: De-ddwyrain – Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Llwyn-Onn, Cwm Taf, Cefn Coed, Merthyr Tudful, CF48 2HY

Byddwch yn cael dealltwriaeth o rôl Dŵr Cymru wrth ddarparu gwasanaeth cyflenwi dŵr cyhoeddus o'r ffynhonnell i'r tap; sut rydym yn gweithio i gyflawni ein prif gyfrifoldeb o ddiogelu iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd; a'r drefn reoleiddio yr ydym yn gweithredu ynddi. Byddwch yn cwrdd â chydweithwyr o bob rhan o'n hadran ac yn gweld sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd i gyflenwi dŵr iachus i'n cwsmeriaid 24/7.

Dyddiad: 24-28 Chwefror 2025
Location: Gogledd-ddwyrain – Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Pum Rhyd, Ffordd Cefn, Marchwiel, Wrecsam, LL13 0PA.

Byddwch yn dysgu sut yr ydym yn cydymffurfio â'n paramedrau rheoleiddio hefyd ein rheoliadau Cynllun Sicrwydd Biosolidau (BAS), ac archwilwyr mewnol/allanol. Astudio'r gwahanol brosesau cemegol o fewn y gwaith trin dŵr gwastraff confensiynol, naill ai hidlo neu awyru. Hefyd, ein peiriannau hydrolysis thermol, ein treulwyr anaerobig uwch, y peiriannau nwy i'r grid a'n ffatri trin hylif (triniaeth fiolegol uwch) gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf. Cyfle gwych i weld y gwahanol brosesau cemegol microsgopig biolegol ar waith.