Rhoi Bywyd i
Ddiwylliant a Chymunedau

Ein Diwylliant yw ein gwahaniaeth

Rydym ni wir yn gofalu am ein pobl. Ein pobl sydd wrth wraidd popeth a wnawn.

Mae ein diwylliant bywiog, ein pobl ymroddedig a'n cysylltiadau cymunedol cryf yn ein gwneud yn lle unigryw a boddhaus i weithio ynddo. Pan fyddwch yn ymuno â Dŵr Cymru, byddwch yn rhan o dîm ehangach o unigolion brwdfrydig sy’n ymfalchïo yn eu gwaith a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu – gan wneud gwahaniaeth o fewn amgylchedd cefnogol sy’n hybu twf, arloesedd a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

Mae gyrfa yn Dŵr Cymru yn gyfle i fod yn rhan o rywbeth mwy.

Ein Buddion

Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad a 25 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata), rydym yn cynnig ystod o fuddion i weithwyr, gan gynnwys:

  • Cyfraniadau uwch gan gyflogwyr at bensiynau
  • Cynllun beicio i'r gwaith, cynllun prydlesu ceir a chynllun arian yn ôl am iechyd
  • Cynllun cymorth i weithwyr ar gyfer gweithwyr a'u teulu uniongyrchol
  • Cyllid Cyflog
  • Prynu Gwyliau Blynyddol
  • Disgowntiau yn ein Canolfannau Atyniadau Ymwelwyr.
Dysgwch fwy

Ein Gwerthoedd

Ein huchelgais yw sicrhau ymddiriedaeth ein cwsmeriaid bob dydd. Mae’n hollbwysig ein bod yn ymddwyn yn gyfrifol fel unigolion ac fel sefydliad bob amser, gan gadw ein gwerthoedd wrth wraidd popeth a wnawn. Drwy gynnal y gwerthoedd hyn, rydym yn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel yn gyson, yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol ac yn cyfrannu at les y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Maent yn helpu i lywio ein gweithredoedd, yn dylanwadu ar ein penderfyniadau ac yn diffinio ein hymrwymiad i ragoriaeth.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Rydym yn credu mewn gwneud y pethau iawn dros ein cwsmeriaid, ein gweithwyr a'r cwmni. Mae ein hymrwymiad i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn hanfodol i bwy ydym ni a’r hyn rydym yn ymdrechu i'w gyflawni. Drwy flaenoriaethu Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, rydym yn sicrhau bod pob aelod o'r tîm yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a'u grymuso i gyfrannu eu safbwyntiau unigryw. Mae'r ymrwymiad hwn nid yn unig yn cyfoethogi ein diwylliant yn y gweithle, ond hefyd yn ein galluogi i wasanaethu ein cymunedau a'n cwsmeriaid amrywiol yn well.

Dysgwch fwy

WaterAid

Gan helpu i drawsnewid bywydau ledled y byd, mae Dŵr Cymru a'i bartneriaid yn falch o gefnogi WaterAid, sy'n gweithio mewn 22 o wledydd gan ddarparu dŵr glân, toiledau gweddus a hylendid da. Mae cydweithwyr ar draws y busnes yn cymryd rhan weithredol mewn ystod eang o weithgareddau codi arian bob blwyddyn. Mae cefnogaeth WaterAid gan gydweithwyr, partneriaid a chwsmeriaid Dŵr Cymru yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau miloedd o bobl yr ydym yn eu cyrraedd yn rhai o gymunedau tlotaf y byd. Gyda’n gilydd rydym yn gweithio tuag at fyd lle mae gan bawb, ym mhobman, fynediad at ddŵr diogel, glanweithdra a hylendid. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn cefnogi WaterAid, cliciwch yma.