Rydym ni wir yn gofalu am ein pobl. Ein pobl sydd wrth wraidd popeth a wnawn.
Pan fyddwch yn gweithio i Dŵr Cymru, byddwch yn ymuno â chwmni sy’n llawn unigolion brwdfrydig, sy’n ymfalchïo yn eu gwaith a’r busnes. Yn gyfnewid am hyn, mae ein timau ymroddedig yn cael eu cefnogi, eu hannog, eu meithrin, eu datblygu a'u gwobrwyo. Pan fyddwch yn ymuno â Dŵr Cymru, cewch gyfoeth o fuddion sydd wedi’u cynllunio i gefnogi eich iechyd corfforol a meddyliol, eich llesiant ariannol ac i gyfoethogi eich bywyd gwaith.
Cynllun Beicio I’r Gwaith
Rydym yn cynnig cynllun beicio i'r gwaith, sy'n rhoi mynediad i chi at rwydwaith o gyflenwyr i brynu beiciau ac offer. Ar gael drwy drefniant aberthu cyflog, gall cydweithwyr arbed arian ar Yswiriant Gwladol a threth.
Yswiriant Iechyd Preifat
Yswiriant iechyd wedi’i ddisgowntio, mae'r budd hwn yn galluogi pob cydweithiwr i gael mynediad at yswiriant iechyd preifat am bris wedi’i ddisgowntio – gyda'r gallu i gael mynediad at arbenigwyr preifat, diagnosis a thriniaeth, ynghyd ag amseroedd apwyntiad hyblyg a dewis mawr o ysbytai. Gall cydweithwyr hefyd ychwanegu aelodau o'r teulu am gost ychwanegol.
Gwasanaeth Meddyg Teulu Ar-lein DigiCare+
Mae'r gwasanaeth meddyg teulu ar-lein yn cynnig mynediad at gyngor ac arweiniad clinigol mewn sefyllfaoedd nad ydynt yn rhai brys. Mae'n cynnig tawelwch meddwl o allu siarad â meddyg yn gyflym, ynghyd â gwasanaethau gwerthfawr ychwanegol eraill.
Clinigau Llesiant
Ewch i gael archwiliad iechyd yn ein clinigau llesiant blynyddol, ewch i gyfarfod â nyrs gymwys i drafod eich iechyd ac unrhyw bryderon a allai fod gennych.
Profion Llygaid Am Ddim
Mae profion llygaid am ddim gyda Specsavers ar gael i'r rhai sy'n defnyddio Offer Sgrin Arddangos fel gliniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith am ran sylweddol o'ch diwrnod.
Cyllid Cyflog
Fel busnes rydym yn cydnabod bod llesiant ariannol yn bwysicach nag erioed, ac rydym am sicrhau bod gan gydweithwyr fynediad at yr offer a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Offer llesiant ariannol gan gynnwys awgrymiadau cyllidebu, fideos a gweminarau, benthyciadau fforddiadwy a ad-delir drwy eich cyflog, blaensymiau ar gyflog a enillwyd… gan na ddylai diwrnod cyflog fod unwaith y mis, cyfrifon cynilo syml lle gallwch gynilo’n syth o’ch cyflog ac archwiliadau sgôr credyd am ddim gyda ClearScore.
Gwario ac Arbed: Cynllun Gostyngiadau Siopa
Mae arbed arian ar siopa hanfodol yn bwysicach nag erioed, rydym yn gweithio gyda Retail Gateway i gynnig gostyngiadau, a chynigion arian yn ôl i dros 800 o fanwerthwyr. Gallech arbed rhwng 3% a 10% oddi ar eich siop wythnosol yn yr archfarchnad. Chwiliwch am fargeinion yswiriant, nwyddau llesiant, gwyliau, tocynnau sinema a llawer mwy.
Tusker: Prydlesu Ceir*
Gall gweithwyr brydlesu car gyda Tusker drwy drefniant aberthu cyflog. Pecyn a gynhelir yn llawn yw hwn, heb unrhyw flaendal ymlaen llaw. *Yn amodol ar gymeradwyaeth ac argaeledd
Yswiriant Bywyd
Rydym yn darparu budd-dal aswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol ar gyfer aelodau pensiwn a delir i'ch buddiolwr dewisol, gan roi sicrwydd i'r bobl yr ydych yn gofalu amdanynt.
MediCash
Mae ein budd-dal MediCash yn darparu taliadau arian parod tuag at gostau meddygol preifat, gan eich helpu i reoli costau disgwyliedig ac annisgwyl ar gyfer triniaeth, pryd bynnag y byddant yn codi.
Sicrwydd Iechyd/Rhaglen Cymorth i Weithwyr
Gwasanaeth cyfrinachol am ddim ar gael 24/7. Yn ogystal â chymorth y llinell gymorth a chymorth ar gyfer llesiant meddyliol a chorfforol, ceir hefyd nifer o adnoddau i chi eu defnyddio ar eu gwefan ar gyfer cymorth ariannol a chyfreithiol. Mae’r gwasanaeth cymorth penodedig ar gael i bob cydweithiwr ac aelod agos o’r teulu sy’n byw gyda nhw.
Disgowntiau Atyniadau Ymwelwyr Dŵr Cymru
Mae'r disgowntiau yn berthnasol i'n holl ganolfannau atyniadau ymwelwyr; Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan (Rhaeadr Gwy), Llyn Brenig (Conwy), Llyn Llandegfedd (Pont-y-pŵl), Llyn Llys-y-Frân (Sir Benfro), a Chronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien (Caerdydd), o’r caffis i’r gweithgareddau dŵr – mae rhywbeth at ddant pawb.
Headspace
Mae gweithwyr Dŵr Cymru yn cael defnyddio’r ap Headspace am ddim. Mae'r ap yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau myfyrdod, ymarferion a chymorth cwsg ar flaenau eich bysedd er mwyn helpu i wella'ch iechyd meddwl a'ch llesiant.
Prynu Gwyliau Blynyddol
Yn ogystal â’r 25 diwrnod o wyliau blynyddol a gynigiwn (ynghyd â gwyliau banc), rydym hefyd yn cynnig y cyfle i bob cydweithiwr brynu gwyliau ychwanegol hyd at uchafswm o un wythnos waith ym mhob blwyddyn wyliau. Caiff didyniadau ar gyfer gwyliau eu tynnu drwy aberthu cyflog dros uchafswm o 11 mis.