Yn Dŵr Cymru, rydym yn credu mewn gwneud y peth iawn dros ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr. Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac rydym bob amser yn trin eraill ag urddas a pharch.
Mae ein Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn cefnogi gweledigaeth y cwmni ac yn cael ei harwain gan ei gwerthoedd. Mae'n nodi ein cynigion i hyrwyddo diwylliant lle mae amrywiaeth oein cwsmeriaid a'n gweithwyr yn cael ei werthfawrogi'n gadarnhaol.
Grwpiau Rhwydwaith Gweithwyr
DYn hanesyddol, mae amrywiaeth yn y diwydiant dŵr yn wrywaidd ac yn wyn, ac felly mae’n ffocws allweddol i ni sicrhau bod ein gweithle yn cynrychioli’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Rydym yn falch o fod yn rhan o Fesur Cynhwysiant Sgiliau Ynni a Chyfleustodau. Gallwch weld o'r ystadegau fel sector fod angen i ni ddenu mwy o fenywod, mwy o bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, mwy o bobl o'r gymuned LHDT+, mwy o bobl ag anableddau a mwy o bobl ifanc.
Ein rhwydweithiau
Mae ein rhwydwaith ABLE yn darparu man diogel i gydweithwyr sy’n byw gydag anableddau a chyflyrau hirdymor eraill neu sy’n cael eu heffeithio ganddynt i rannu profiadau bywyd, trafod yr heriau y maent yn eu hwynebu a gweithio i ddileu rhwystrau fel y gall cydweithwyr ddod i’r gwaith a bod yn nhw eu hunain. Mae'r grŵp rhwydwaith wedi creu cyfres o fodiwlau er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o'r heriau y gallent eu hwynebu ac mae'r rhain ar gael i bob cydweithiwr. Rydym yn falch o fod yn arweinydd hyderus o ran anabledd.
Mae ein grŵp rhwydwaith ‘Age at Work’, a arweinir gan gydweithwyr, yn gymuned gefnogol i unigolion dros 50 oed. Mae’r grŵp yn cynnig man diogel a chynhwysol i aelodau rannu eu profiadau, cysylltu ag eraill, a chael mynediad at wybodaeth ac adnoddau sy’n ymwneud ag amrywiaeth oedran yn y gweithle.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Busnes yn y Gymuned, ac rydym yn rhan o’r grŵp Age @ Work sy’n rhannu arferion gorau ac sydd bob amser yn ystyried ffyrdd o fod yn fwy cynhwysol.
Mae Rhwydwaith y Lluoedd Arfog yn grŵp a arweinir gan gydweithwyr sy’n darparu cymorth ac adnoddau i unigolion sy’n gyn-filwyr, yn bersonél milwrol gweithredol, neu sydd â chysylltiad â’r lluoedd arfog.
Mae gan ein rhwydwaith grŵp preifat i rwydweithio ag eraill a chodi ymwybyddiaeth o rôl milwyr wrth gefn.
Mae Dŵr Cymru yn falch o fod wedi ennill gwobr arian yng nghyfamod y lluoedd arfog yn 2024.
Dyma le i gydweithiwr sy'n ofalwyr. Mae'n cynnig man diogel i gydweithwyr rwydweithio â'i gilydd. Mae'r grŵp yn cyfarfod pedair gwaith y flwyddyn ac yn codi ymwybyddiaeth ymhlith cydweithwyr eraill ac yn trefnu gweithdai.
Dyma le i gydweithwyr gysylltu, gweddïo, rhannu adnoddau a syniadau i gefnogi ein gilydd a bod yn fendith i’n cydweithwyr. Wedi’i drefnu gan Gristnogion ond mae croeso i bawb ymuno a dod i’n digwyddiadau achlysurol.
Mae Embrace, Rhwydwaith Hil Dŵr Cymru, yn ymgorfforiad o weithredu, newid a chydweithio. Fe'i sefydlwyd i greu man diogel i gydweithwyr a chynghreiriaid Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig ddod at ei gilydd i drafod materion pwysig.
Mae'r grŵp Rhwydwaith ar waith i sicrhau bod gan gydweithwyr le i drafod hil a sut mae'n effeithio arnom ni yn y gwaith. Mae'r rhwydwaith yn gobeithio normaleiddio sgyrsiau am hil a microymosodiadau yn y gweithle, gan greu lle diogel i gydweithwyr.
Mae ein rhwydwaith Ffrwythlondeb yn cynnig man diogel a chynhwysol i aelodau rannu eu profiadau, cysylltu ag eraill, a chael mynediad at wybodaeth ac adnoddau sy’n ymwneud ag opsiynau a thriniaeth ffrwythloni.
Yn Dŵr Cymru mae gennym ganllawiau ar gyfer cydweithwyr a rheolwyr ac rydym yn gweithio i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo dealltwriaeth o faterion o ran ffrwythlondeb. Rydym yn aelodau balch o Fertility Matters at Work a ni yw’r Cwmni cyntaf yng Nghymru a’r Cwmni Dŵr cyntaf i gofrestru.
Mae ein Grŵp Cynghreiriaid LHDT+ yn rhoi lle i gydweithwyr sy’n rhan o’r gymuned ddod draw i gwrdd ag eraill i rannu profiadau. Mae’r grŵp yn croesawu cynghreiriaid hefyd.
Mae ein Cornel Dynion yn creu man diogel i ddynion ddod at ei gilydd. Mae’n eu galluogi i rannu sut maent yn teimlo a dileu stigma, yn ogystal â chefnogi a rhwydweithio i gwrdd ag eraill o bob rhan o’r busnes.
Mae'r rhwydwaith hwn yn cynnig lle i rieni a gwarcheidwaid rannu newyddion a chefnogi ei gilydd.
Mae'r grŵp yn cyfarfod ar Teams dair gwaith y flwyddyn, ond o gwmpas hyn mae lle i rannu syniadau a phethau a allai fod yn digwydd mewn ardaloedd lleol.
OMae ein grŵp rhwydwaith a arweinir gan gydweithwyr ar Golli Beichiogrwydd yn gymuned gefnogol i unigolion sydd wedi colli beichiogrwydd. Mae’r grŵp yn cynnig man diogel a chynhwysol i aelodau rannu eu profiadau, cysylltu ag eraill, a chael mynediad at wybodaeth ac adnoddau sy’n ymwneud â cholli beichiogrwydd.
Yn Dŵr Cymru, mae gennym ganllawiau ar gyfer cydweithwyr a rheolwyr llinell ac rydym yn gweithio i godi ymwybyddiaeth drwy straeon a hyfforddiant. Rydym hefyd yn falch o fod wedi llofnodi addewid colli beichiogrwydd y gymdeithas camesgor.
Mae ein rhwydwaith menywod yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn gan gynnig man diogel i fenywod.
Mae’r grŵp yn cefnogi gwneud yn siŵr bod gennym weithle cynhwysol i bawb ac yn rhannu syniadau ar sut rydym yn denu mwy o fenywod. Yn ogystal â hyn rydym yn canolbwyntio ar ysbrydoli cenhedlaeth y dyfodol ac yn gweithio gydag ysgolion, prifysgolion a myfyrwyr i hyrwyddo'r gyrfaoedd a'r cyfleoedd amrywiol yn Dŵr Cymru.
Adroddiad ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau
Yn Dŵr Cymru, rydym yn credu mewn creu gweithlu sy’n wirioneddol amrywiol, sy’n sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau, ac yn adlewyrchu’n llawn y cwsmeriaid a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Bydd hyn yn sicrhau y gallwn ddeall ac ymateb yn well i'w hanghenion – yn ogystal â chyflawni ein gweledigaeth o ennill ymddiriedaeth cwsmeriaid bob dydd. Mae’n caniatáu ar gyfer ffyrdd newydd o feddwl o gronfa dalent ehangach, sy’n angenrheidiol a’r peth iawn i fusnes modern sy’n darparu’r gwasanaethau mwyaf hanfodol, er mwyn ymateb i heriau heddiw a pharatoi ar gyfer y dyfodol hefyd.
Cliciwch yma i weld ein hadroddiadau bwlch cyflog rhwng y rhywiau.