Rhybudd Berwi Dŵr

Wedi’i ddiweddaru: 16:00 03 December 2024

PWYSIG: Rydyn ni wedi ymestyn yr Hysbysiad Berwi Dŵr sydd mewn grym ar gyfer cwsmeriaid yn yr ardaloedd canlynol: Blaenrhondda, Blaencwm, Tynewydd, Treherbert, Treorci, Cwm-parc, Ton Pentre, y Gelli, rhannau o’r Pentre, rhannau o Donypandy a rhannau o Ystrad.

Achosodd Storm Bert lifogydd sylweddol ar safle Gweithfeydd Trin Dŵr Tyn-y-waun, gyda dŵr wyneb yn llifo oddi ar y bryn i mewn i’r tanc storio dŵr yfed gan effeithio ar y tanc ei hun.

Mae ein criwiau wedi bod yn gweithio ddydd a nos i unioni’r broblem, ond mae’r gwaith i atal difrod rhag llifogydd pellach yn golygu gosod pilenni anhydraidd o gwmpas y tanc storio.

Mae angen cyfnod o dywydd sych i gyflawni hyn yn llwyddiannus ac mae ein timau’n gweithio rownd y cloc i gyflawni’r gwaith cyn gynted â phosibl.

Bydd ein timau’n parhau i weithio rownd y cloc i gyflawni’r gwaith cyn gynted â phosibl.

Yn y cyfamser, rydyn ni’n gofyn i’r holl gwsmeriaid yn yr ardaloedd o dan sylw i barhau i ferwi eu dŵr cyn ei ddefnyddio at ddibenion yfed.

Rydyn ni’n dosbarthu dŵr potel i’r cwsmeriaid sydd ar ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth ac i gartrefi gofal, ac yn gweithio gyda safleoedd allweddol fel ysbytai.

Mae gorsafoedd dŵr potel ar agor yn y lleoliadau canlynol:

  • Ystâd Ddiwydiannol Ynyswen, Heol Ynyswen, Treorci, CF42 6ED.
  • Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda, Parc Gelligaled, Heol Tyntyla, CF41 7SY.
  • Co-op, Heol yr Orsaf, Treorci, CF42 6UA.

Rydyn ni’n blaenoriaethu cwsmeriaid bregus, ac yn gofyn i bobl gymryd beth sydd ei angen arnynt yn unig.

Gall cwsmeriaid:

Ddarllen am yr Estyniad i’r Hysbysiad Berwi Dŵr - Llythyr agored at gwsmeriaid gan ein Prif Weithredwr, Peter Perry.

Cadarnhau a yw’r broblem yn effeithio ar eu cyflenwad nhw trwy ddefnyddio’r gwiriwr cod post yma: https://www.dwrcymru.com/cy-gb/boil-water-notice

Gweld rhestr o Gwestiynau Cyffredin https://www.dwrcymru.com/cy-gb/boil-water-notice.

Edrych ar Yn Eich Ardal neu ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau pellach.

Mae’n flin gennym am yr anghyfleustra yn sgil y digwyddiad yma.

Ein digwyddiadau sydd ar ddod


Rhagfyr

  • 2 Rhagfyr - 10:00-13:00 - Swyddfa'r Post, Stryd Fawr Aberteifi – Sesiwn Galw Heibio i Gwsmeriaid
  • 2 Rhagfyr - 11:00-13:00 - Siop Un Stop Amgueddfa Abertawe - Digwyddiad Darparwr
  • 3 Rhagfyr - 11:00-14:00 - Neuadd Eglwys St Anne, Southgate, Aberystwyth – Sgwrs â’r Clwb Cinio
  • 4 Rhagfyr - 13:30-15:30 - Neuadd y Pentref Aberporth, Aberteifi - Sgwrs â Chaffi Gofalwyr
  • 5 Rhagfyr - 10:00-14:00 - Banc Bwyd Abergele - Sesiwn Galw Heibio i Gwsmeriaid, Fan Dŵr Cymru
  • 5 Rhagfyr - 9:00-11:00 – Playzone Dechrau'n Deg, Pentre-bane, Caerdydd - Sgwrs a Galw Heibio
  • 5 Rhagfyr - 09:00-12:00 – Yr Eglwys Bywyd Newydd, Tonyrefail, RhCT - Sioe Deithiol y Gaeaf
  • 9 Rhagfyr - 13:00–15:00 - Aros a Chwarae Dechrau'n Deg. Canolfan Trelái a Chaerau – Sesiwn Sgwrs a Galw Heibio
  • 11 Rhagfyr - 11:00-15:00 - YMA, Stryd Taf, Pontypridd - Digwyddiad Cymunedol y Nadolig
  • 11 Rhagfyr - 09:00–11:00 - Ysgol Gynradd Trelái, Bore Coffi, Caerau – Sesiwn Galw Heibio
  • 12 Rhagfyr - 13:00-14:30 - Neuadd y Pentref Llanfechain - Grŵp Cymorth Arthritis Versus
  • 13 Rhagfyr - 10:00-14:00 - Morrisons, Bangor - Sesiwn Galw Heibio Fan Dŵr Cymru
  • 13 Rhagfyr - 10:00-15:00 - Banc Bwyd, Y Llusern, Rhydaman – Sesiwn Galw Heibio i Gwsmeriaid
  • 16 Rhagfyr - 09:00-12:00 - Canolfan Gymunedol Aberpennar - Sioe Deithiol y Gaeaf RhCT
  • 18 Rhagfyr - 09:30-12:30 - Hwb Trelái a Chaerau – Sesiwn Galw Heibio
  • 18 Rhagfyr - 09:00-15:00 - Canolfan Byd Gwaith, Canol Tref Llanelli – Sesiwn Galw Heibio i Gwsmeriaid
  • 19 Rhagfyr - 09:00-15:00 - Canolfan Byd Gwaith, Rhydaman – Sesiwn Galw Heibio i Gwsmeriaid
  • 19 Rhagfyr - 10:00 -13:00 - Tai Caerdydd, Canolfan Gymunedol Trowbridge – Sesiwn Galw Heibio Man y Gaeaf
  • 19 Rhagfyr - 10:00-14:00 - Banc Bwyd Abergele – Sesiwn Galw Heibio i Gwsmeriaid Fan Dŵr Cymru
  • 23 Rhagfyr - 10:00-14:00 - Canolfan Ieuenctid Maesgeirchen – Sesiwn Galw Heibio i Gwsmeriaid

Ionawr

  • 4 Ionawr - 10:00-13:00 – Siop Fawr Tesco, Hwlffordd - Fan Cymunedol Sesiwn Galw Heibio i Gwsmeriaid
  • 6 Ionawr - 13:30-15:00 - Clwb Strôc, Neuadd Eglwys Bethel, Caerfyrddin – Sgwrs â’r Grŵp Strôc
  • 7 Ionawr - 11:00-14:00 - Eglwys Deva, Prestatyn - Hwb Cynnes, Sesiwn Galw Heibio i Gwsmeriaid
  • 8 Ionawr - 11:00-14:00 - Banc Bwyd, Tre Ioan, Caerfyrddin – Sesiwn Galw Heibio i Gwsmeriaid
  • 9 Ionawr - 10:00-13:00 - Neuadd Gymunedol Burntwood, Sir y Fflint – Sesiwn Galw Heibio i Gwsmeriaid
  • 9 Ionawr - 11:00-12:00 - Sesiynau Ar-lein Amser i fi D/O Gofalwyr Cymru- Cymorth Ar-lein
  • 10 Ionawr - 13:30-16:30 - Banc Bwyd, Myrtle Terrace, Llanelli – Sesiwn Galw Heibio i Gwsmeriaid
  • 10 Ionawr - 10:00-14:00 – Morrisons, Bangor - Sesiwn Galw Heibio Fan Dŵr Cymru
  • 13 Ionawr - 10:00-14:00 - Siambrau Prestatyn, Prestatyn - Hwb Cynnes, Sesiwn Galw Heibio i Gwsmeriaid
  • 13 Ionawr - 10:00–14:00 - Canolfan Gyswllt Gymunedol Dyffryn - Sesiwn Galw Heibio Hwb Cynnes
  • 14 Ionawr - 11:00-12:00 – Tŷ Matthews, Abertawe - Cwrdd a Chyfarch
  • 14 Ionawr - 13:00–15:00 – Sied Dynion Abertawe - Sgwrs â’r Grŵp
  • 14 Ionawr - 10:00-14:00 - Banc Bwyd Caernarfon – Sesiwn Galw Heibio i Gwsmeriaid
  • 16 Ionawr - 10:00-14:00 - Banc Bwyd Abergele - Sesiwn Galw Heibio i Gwsmeriaid, Fan Dŵr Cymru,
  • 16 Ionawr - 10:00-15:00 - Canolfan Swyddi Casnewydd – Cwsmeriaid wedi’u hatgyfeirio
  • 21 Ionawr - 11:00-14:00 - Eglwys Deva, Prestatyn - Hwb Cynnes Sesiwn Galw Heibio i Gwsmeriaid
  • 22 Ionawr - 09:00-11:00 - Dechrau'n Deg, Canolfan Hamdden Pentwyn - Sgwrs â Grŵp
  • 22 Ionawr - 10:00-14:00 - Asda, Queensferry – Sesiwn Galw Heibio i Gwsmeriaid, Digwyddiad Fan Dŵr Cymru,
  • 23 Ionawr - 11:30-13:30 - Llety Cysgodol, St Davids Avenue, Hendy-gwyn ar Daf - Sgwrs â phreswylwyr
  • 23 Ionawr - 10:00–12:00 - Canolfan Waith Penarth - Digwyddiad Darparwr
  • 24 Ionawr - 10:00-12:00 - Mannau Abertawe, Canolfan Gymunedol Port Tennant – Sesiwn Galw Heibio
  • 24 Ionawr - 12:00-14:00 - Canolfan Gymunedol Alltmelyd - Hwb Cynnes, Sesiwn Galw Heibio i Gwsmeriaid
  • 24 Ionawr - 15:00-16:30 - Cyfadeilad Gwarchodol, Yr Aelwyd, Caerfyrddin - Sgwrs â phreswylwyr
  • 27 Ionawr - 12:00-15:00 - Siambrau Prestatyn, Prestatyn - Hwb Cynnes, Sesiwn Galw Heibio i Gwsmeriaid
  • 28 Ionawr - 10:00-14:00 - Banc Bwyd Caernarfon – Sesiwn Galw Heibio i Gwsmeriaid
  • 28 Ionawr - 09:00–14:00 - Canolfan Swyddi Castell-nedd – Cwsmeriaid wedi’u hatgyfeirio
  • 30 Ionawr - 10:00-14:00 - Banc Bwyd Abergele – Sesiwn Galw Heibio i Gwsmeriaid
  • 30 Ionawr - 09:00–11:00 - Dechrau'n Deg, Hwb Llaneirwg – Sesiwn Sgwrs a Galw Heibio
  • 30 Ionawr - 12:00–14:00 - Tai Caerdydd, Canolfan Gymunedol Trowbridge – Sesiwn Galw Heibio Man y Gaeaf
  • 31 Ionawr - 12:00-15:00 - Canolfan Gymunedol Alltmelyd - Hwb Cynnes, Sesiwn Galw Heibio i Gwsmeriaid
  • 31 Ionawr - 10:00-12:00 - Cyfadeilad Gwarchodol, Llys Sant Ioan, Caerfyrddin - Sgwrs â phreswylwyr