Ar 07.00am ar 25 Hydref, codwyd y Gwaharddiad Dros Dro ar Ddefnydd, neu’r ‘gwaharddiad pibellau dyfrio’ ar gyfer cwsmeriaid yn Sir Benfro a rhan fechan gyfagos o Sir Gaerfyrddin.
Diolch i’r cynnydd yn ein gweithgareddau gweithredol ni ein hunain, a’r glawiad a gawsom ym mis Medi, mae lefelau’r dŵr yn ein cronfa ddŵr yn Llys-y-frân wedi codi i’r lefel y byddem yn disgwyl ei gweld ar yr adeg hon o’r flwyddyn.
Trwy gydweithio, rydyn ni wedi gallu cynnal y cyflenwadau dŵr trwy’r brif bibell, ac wedi llwyddo i amddiffyn yr amgylchedd.
Rydyn ni am ddiolch o waelod calon i’n cwsmeriaid am gydweithio â ni yn ystod y cyfyngiadau trwy leihau eu defnydd o ddŵr yn ystod un o’r hafau mwyaf poeth ar gofnod.
Er ein bod ni wedi codi’r gwaharddiad, rydyn ni am ofyn i chi a’n holl gwsmeriaid barhau â’ch ymdrechion trwy ddefnyddio dŵr yn ddoeth am fod lefelau nifer o’n cronfeydd yn dal i fod yn isel.
Mae ein cronfeydd dŵr yn dibynnu ar law i adlenwi dros yr hydref a’r gaeaf, ac er bod glaw yn disgyn nawr, ac yn helpu rhai cronfeydd fel Llys-y-frân, nid yw’r glaw yn ddigon trwm neu’n para’n ddigon hir i gael effaith sylweddol ar lefelau ein holl gronfeydd.
Mae hyn yn arbennig o wir am y cronfeydd yn y de-ddwyrain lle mae’r lefelau mewn rhai cronfeydd yn parhau i ddisgyn.
Newyddion am lefelau’r cronfeydd dŵr
Heb unrhyw law sylweddol yn y rhagolygon, hoffem ofyn am eich cymorth parhaus i osgoi gwastraffu dŵr a defnyddio’r hyn sydd ei hangen arnoch yn unig yn yr hydref a’r gaeaf er mwyn helpu i sicrhau bod ein cronfeydd dŵr yn llenwi cyn gynted â phosibl, a bod digon o ddŵr ar gyfer ein holl gwsmeriaid yr haf nesaf.
Byddwn ni’n chwarae ein rhan ni hefyd trwy barhau i weithio mor galed â phosibl i ddod o hyd i ollyngiadau a’u trwsio cyn gynted ag y gallwn ni a thrwy fuddsoddi yn y rhwydwaith i’w wneud mor effeithlon â phosibl.
Cadwch lygad ar y dudalen hon i weld sut mae’r lefelau’n newid dros fisoedd y gaeaf.
Gallwch gael rhagor o fanylion am beth mae’r cyfyngiadau’n ei olygu i chi trwy fynd i’n tudalen cwestiynau cyffredin hwylus.
Mae ein Hysbysiad Cyhoeddus llawn ar gael i’w lawrlwytho yma.
7 diwrnod yr wythnos
Mae ein timau'n gweithio saith diwrnod yr wythnos, ac yn aml dros nos, i drwsio gollyngiadau ar unwaith.
Ond mae cael y dŵr trwy ein pibellau'n ddigon cyflym yn dipyn o her mewn rhai ardaloedd, ac mae hyn yn aml yn waeth yn ystod y cyfnodau prysur - gyda'r nos ac ar benwythnosau fel rheol.
Trwy ddefnyddio'r holl ddŵr sydd ei angen arnoch, gan ofalu i beidio â'i wastraffu, gallwch chi helpu i wneud gwahaniaeth mawr.
Os byddwch yn sylwi ar ollyngiad, cysylltwch â ni ar 0800 052 0130 (24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos) neu cliciwch yma.
Hysbysiad Cyhoeddus: Gwaharddiad Dros Dro ar Ddefnyddio Dŵr
JPG, 1.6MB
Mae Dŵr Cymru Cyfyngedig yn hysbysu, yn unol ag adrannau 76 a 76A–C o Ddeddf Diwydiant Dŵr 1991, bod y defnyddiau canlynol o ddŵr a gyflenwir gan Dŵr Cymru Cyfyngedig dan gyfyngiadau.