Taliadau Ewyllys Da ar gyfer Cwsmeriaid Dibreswyl yng Nghonwy (h.y. Cwsmeriaid Busnes)
Bydd Dŵr Cymru yn talu iawndal o £75 i bob busnes wnaeth golli eu cyflenwad dŵr am bob 12 awr yr effeithiwyd ar eu cyflenwadau.
Ochr yn ochr â hyn, mae Dŵr Cymru hefyd wedi cytuno i wneud cyfraniadau ewyllys da ar gyfer pob cwsmer busnes tuag at rai costau/colled o elw crynswth.
Mae manylion isod ar y cymhwyster, y meini prawf a’r broses ar gyfer gwneud cais am gyfraniad ewyllys da tuag at gostau/colli elw gros.
Meini prawf cymhwyster
The following criteria must be met for your business to be eligible to apply for a goodwill contribution payment.
- Rydych chi'n gwsmer busnes sydd wedi'ch effeithio'n uniongyrchol gan y brif bibell ddŵr sydd wedi byrstio yng Ngwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd
- Rhaid i chi fod yn fusnes sydd wedi'i leoli'n barhaol yn lleoliad y cais e.e. nid yw'n fusnes symudol/ymweliad gan gynnwys gwasanaethau tacsi.
- haid i'ch busnes fod wedi'i gofrestru gyda CThEM.
Mae cymhwyster ar gyfer cyfraniad ewyllys da ac unrhyw gyfraniad a wneir yn ôl disgresiwn Dŵr Cymru.
Mae gan fusnesau yr effeithir arnynt ddyletswydd i gymryd pob cam rhesymol i leihau eu costau/colled o elw crynswth.
Bydd y ffurflen gais a mwy o wybodaeth ar gael ar y dudalen hon pan fydd y digwyddiad ar gau.