Costau Ychwanegol er mwyn Parhau I Weithredu yn Unig
Bydd cwblhau'r ffurflen we hon yn caniatáu ystyried taliadau ewyllys da tuag at gostau gweithredu ychwanegol eich busnes oherwydd bod prif bibell ddŵr wedi byrstio yng Ngwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd, Dolgarrog, ddydd Mercher 15 Ionawr 2025 - dydd Sul 19 Ionawr 2025.
Cwblhewch y ffurflen hon yn llawn os gwnaeth eich busnes ysgwyddo costau ychwanegol i barhau i weithredu a darparwch dystiolaeth o bob anfoneb/derbynneb. Sylwch mai dim ond costau a wariwyd yn uniongyrchol o ganlyniad y byrst fydd yn cael eu hystyried e.e. dŵr potel, cyfleusterau lles.
Ar ôl i’ch cais ddod i law, gallwn ofyn am wybodaeth bellach i helpu i benderfynu pa lefel o gyfraniad ewyllys da fydd yn daladwy.
Cliciwch yma i weld ein Cwestiynau Cyffredin a allai eich cynorthwyo i lenwi eich cais.