Cais am Daliad Ewyllys Da
Cwestiynau Cyffredin
Bydd angen i chi fodloni’r meini prawf isod i fod yn gymwys i gyflwyno cais am Daliad Ewyllys Da:
- Rydych chi'n gwsmer busnes sydd wedi'ch effeithio'n uniongyrchol gan y brif bibell ddŵr sydd wedi byrstio yng Ngwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd
- Rhaid i chi fod yn fusnes sydd wedi’i leoli’n barhaol yn lleoliad y cais e.e. ddim yn fusnes symudol/ymweliad gan gynnwys gwasanaethau tacsi
- Rhaid i'ch busnes fod wedi'i gofrestru gyda CThEM
Ewch i www.dwrcymru.com/ewyllysda a dilynwch y canllawiau i lenwi’r cais am Daliad Ewyllys Da.
Rhaid cyflwyno’r ceisiadau cyn 5pm ar dydd Llun 21 Ebrill 2025.
Bydd eich Cyfeirnod Cwsmer gan Ddŵr Cymru yng nghornel uchaf eich bil ar y dde. Nodwch y rhif yn ei gyfanrwydd pan fo angen er mwyn i ni gysylltu’ch cais â’ch cyfrif.
Nodwch ddyddiad ac amser bras a byddwn ni’n dilysu hyn yn erbyn ein data.
Bydd y broses ymgeisio yn caniatáu i chi wneud cais am golli elw gros i'ch busnes a/neu unrhyw gostau ychwanegol i weithredu sydd yn uniongyrchol o ganlyniad i golli cyflenwad dŵr. Fel arall, gallwch ofyn i ni yswirio'r tâl dros ben yswiriant, os ydych wedi gwneud hawliad yswiriant.
Nid yw’r costau a ystyrir yn cynnwys ffioedd proffesiynol (gan gynnwys ffioedd cyfrifydd neu asiant tiroedd ymhlith eraill) ac mae hynny’n cynnwys y ffioedd a dynnwyd wrth baratoi’r cais. Ni chaiff cynnydd yn eich premiwm yswiriant ei ystyried chwaith.
Am fod yna nifer o ffactorau sy’n gallu effeithio ar bremiwm yswiriant, ni fydd Dŵr Cymru’n ystyried gwneud cyfraniad at y costau hyn.
Ar gyfer Colli Elw Gros, o leiaf, rhowch y wybodaeth ganlynol os gwelwch yn dda:
- Gwerthiant dyddiol heb TAW (os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW) am y cyfnod o Dydd Mercher 115 Ionawr 2024 - Dydd Sul 159 Ionawr 2024 (cynhwysol),
- Gwerthiant dyddiol heb TAW (os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW) am y cyfnod o Dydd Mercher 15 Ionawr 2025 - Dydd Sul 19 Ionawr 2025 (cynhwysol),
- Copi o'r set olaf o gyfrifon diwedd blwyddyn gan gynnwys elw a cholled fanwl.
Ar gyfer Costau Gweithredu Ychwanegol, darparwch dystiolaeth o'r holl anfonebau/derbynebau.
Ar gyfer Gormodedd Yswiriant, rhowch dystiolaeth gan eich cwmni yswiriant bod hawliad yswiriant wedi'i dalu ar gyfer y cyfnod hwn a thystiolaeth o'r tâl dros ben sy'n berthnasol.
Os yw’ch busnes wedi bod yn masnachu am lai na 12 mis, dylech ddarparu’r o leiaf eich gwerthiannau dyddiol, net o TAW (os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW), am y cyfnod dydd Mercher 15 Ionawr 2025 - dydd Sul 19 Ionawr 2025 (cynhwysol).
Efallai bod yna faes sydd heb ei lenwi. Os ydych chi wedi llenwi maes yn gywir, bydd tic gwyrdd yn ymddangos wrth ei ymyl. Os ydych chi wedi llenwi maes yn anghywir, bydd croes goch yn ymddangos wrth ei ymyl, fel y mae’r esiampl isod yn ei ddangos. Sicrhewch nad oes croes goch ar eich ffurflen cyn symud ymlaen.
Bydd gofyn i chi uwchlwytho’r dystiolaeth berthnasol yn rhan o’r broses ymgeisio. Bydd y canllawiau a’r ffurflen yn eich cynghori pa wybodaeth y dylech ei huwchlwytho. Dewiswch ‘ie’ am bob dogfen rydych am ei huwchlwytho. Wedyn fe welwch chi fotwm ‘Dewis ffeil’ a fydd yn caniatáu i chi bori i ddod o hyd i’r ddogfen gywir i’w huwchlwytho. Dewiswch y ddogfen berthnasol, ac ar ôl ei huwchlwytho, fe welwch enw’r ddogfen fel y mae’n ymddangos isod. Ar ôl uwchlwytho’r dogfennau angenrheidiol, ticiwch ‘na’ i’r opsiynau pellach ar gyfer ffeiliau i’w huwchlwytho.
Bydd y cais yn caniatáu i chi uwchlwytho hyd at 4 dogfen a rhaid i bob dogfen fod yn llai na 15MB o ran maint. Os oes angen i chi uwchlwytho mwy na 4 dogfen, neu os ydych chi’n cael trafferth uwchlwytho’r dogfennau, gallwch lenwi gweddill y cais, wedyn e-bostio’r dogfennau i goodwillpayments@dwrcymru.com , gan nodi eich cyfeirnod cwsmer gan Ddŵr Cymru fel testun y neges. Bydd hyn yn caniatáu i ni gysylltu eich dogfennau â’ch cais.
Byddwn ni’n ymdrechu i asesu eich cais a gwneud penderfyniad arno cyn pen 20 diwrnod gwaith ar ôl iddo ddod i law.
Os yw eich cais yn ymwneud â Cholledion Elw Gros (dros £500), bydd ein partneriaid trydydd parti’n ymdrechu i asesu eich cais cyn pen 20 diwrnod gwaith ar ôl iddo ddod i law. Gallai’r amserlenni hyn fod yn hirach yn dibynnu ar werth a chymhlethrwydd eich cais, a chyflymdra’ch ymatebion chi i geisiadau. Os felly, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi.
Gall Dŵr Cymru benodi trydydd parti i gynorthwyo neu i asesu unrhyw geisiadau. Penodir y trydydd parti heb eich hysbysu ymlaen llaw. Dŵr Cymru fydd yn talu’r costau hyn. Gallai’r partner trydydd parti gysylltu â chi’n uniongyrchol i drafod eich cais.
Cwmni Crawford yw partner trydydd parti Dŵr Cymru a allai gael ei benodi i asesu eich cais. Fodd bynnag, rydyn ni’n cadw’r hawl i benodi partneriaid trydydd parti eraill os oes angen.
Dylai’r taliad gymryd hyd at 5 niwrnod gwaith ar ôl i ni roi gwybod i chi am ganlyniad eich cais am Daliad Ewyllys Da.
Caiff y dull o dalu ei gadarnhau ar yr ohebiaeth am ganlyniad eich cais.
Mae Dŵr Cymru yn gwneud taliadau iawndal o £75 am bob 12 awr i gwsmeriaid dibreswyl yr effeithiwyd arnynt gan y byrstio, ac mae'r rhain yn cael eu hanfon yn awtomatig.
Mae taliadau ewyllys da ar gyfer cwsmeriaid busnes yn cael eu hasesu a'u gwneud drwy'r broses Cais Ewyllys Da. Cynigir y taliadau hyn fel arwydd o ewyllys da y tu hwnt i’n rhwymedigaethau rheoleiddio.
Gofynnwn i chi ganiatáu 20 diwrnod i ni brosesu eich cais. Os ydyn ni’n credu y bydd y cais yn cymryd mwy nag 20 diwrnod gwaith, byddwn ni’n cysylltu i roi gwybod i chi.
Os ydych chi’n anghytuno â chanlyniad eich cais, dylech e-bostio goodwillpayments@dwrcymru.com gan nodi’n fanwl pam eich bod chi’n anghytuno. Nodwch eich cyfeirnod cwsmer gan Ddŵr Cymru fel testun y neges.