Cais am fesurydd dŵr

Information

Rydym yn derbyn nifer uchel o geisiadau ac mae’n cymryd mwy o amser nag yr hoffem i drefnu apwyntiadau. Mae eich cais wedi ei gofnodi ac nid oes angen cysylltu â ni.

Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl wrth i ni brosesu eich cais.

Os ydych chi am gyflwyno cais am fesurydd, gallwch wneud hynny ar lein.

Cyfraniad at eich tâl yswiriant atodol


Bydd cwblhau'r ffurflen we hon yn caniatáu ystyried taliadau ewyllys da tuag at y tâl yswiriant dros ben a ysgwyddwyd yn dilyn setliad hawliad yswiriant y mae eich busnes wedi'i wneud ar ôl i'ch busnes oherwydd bod prif bibell ddŵr wedi byrstio yng Ngwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd, Dolgarrog ar ddydd Mercher 15 Ionawr.

Llenwch y weffurflen hon yn ei chyfanrwydd os ydych chi wedi gwneud hawliad yswiriant llwyddiannus trwy eich polisi yswiriant Amhariad ar Fusnes / Colli Elw / Sgil-golledion a’ch bod am gael ad-daliad am dâl atodol eich polisi. Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o’r tâl atodol a thystiolaeth i ddangos bod hawliad sy’n ymwneud â’r toriad hwn yn eich cyflenwad dŵr wedi cael ei dalu’n llwyddiannus gan y cwmni yswiriant.

Cliciwch yma i weld ein Cwestiynau Cyffredin a allai eich cynorthwyo i lenwi eich cais.