Colledion Elw Gros a Chostau Ychwanegol er mwyn Parhau i Weithredu
Bydd cwblhau'r ffurflen we hon yn caniatáu taliadau ewyllys da tuag at Golli Elw Gros a chostau ychwanegol o weithredu a ysgwyddwyd gan eich busnes ar ôl byrst ar ein prif bibell yn ein Gwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd, Dolgarrog ar ddydd Mercher 15 2025 – dydd Sul 19 Ionawr 2025 i gael eu hystyried.
Llenwch yr weffurflen hon yn ei chyfanrwydd gan ddarparu’r wybodaeth isod os ydych am wneud cais am daliad ewyllys da tuag at golledion elw. Byddwn ni’n defnyddio lled eich elw gros er mwyn pennu lefel yr ewyllys da a fydd yn daladwy.
Wrth gwblhau'r cais, rhowch y wybodaeth ganlynol os gwelwch yn dda:
- Gwerthiant dyddiol heb TAW (os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW) am y cyfnod dydd Mercher 10 Ionawr – dydd Sul 14 Ionawr 2024 (cynhwysol),
- Gwerthiant dyddiol heb TAW (os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW) am y cyfnod o dydd Mercher 15 Ionawr 2025 - dydd Sul 19 Ionawr 2025 (cynhwysol),
- Copi o'r set olaf o gyfrifon diwedd blwyddyn gan gynnwys elw a cholled manwl.
- Pob anfoneb/derbynneb perthnasol
Os yw'ch busnes wedi bod yn masnachu am lai na 12 mis, darparwch o leiaf gwerthiant dyddiol heb TAW (os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW) am y cyfnod o dydd Mercher 15 Ionawr 2025 - dydd Sul 19 Ionawr 2025 (cynhwysol).
Ar ôl i’ch cais ddod i law, gallwn ofyn am wybodaeth bellach i helpu i benderfynu pa lefel o gyfraniad ewyllys da fydd yn daladwy.
Nodyn: Ni chaniateir ceisiadau am ‘Golledion Elw Gros; a ‘Chostau Ychwanegol er mwyn Parhau i Weithredu’ sy’n cwmpasu’r un dyddiadau (gallwch naill ai wneud cais am ‘Golledion Elw Gros’ neu ‘Gostau Ychwanegol er mwyn Parhau i Weithredu’ am unrhyw ddiwrnod penodol). Rhagwelir y bydd ceisiadau am ‘Golledion Elw Net’ a ‘Chostau Ychwanegol er mwyn Parhau i Weithredu’ yn digwydd dim ond lle’r arhosodd cwsmer yn agored gan dynnu costau ychwanegol ond lle bu angen cau wedyn.
Cliciwch yma i weld ein Cwestiynau Cyffredin a allai eich cynorthwyo i lenwi eich cais.