Gwybodaeth am Daliadau Iawndal mewn perthynas â’r byrst yn y brif bibell ddŵr yng Ngweithfeydd Trin Dŵr Bryn Cowlyd, Dolgarrog


Hoffem ymddiheuro am yr effaith y mae’r beipen ddŵr yn byrstio yn ein gwaith trin dŵr Bryn Cowlyd, Dolgarrog wedi ei gael.

Cwsmeriaid domestig

Er mwyn cydnabod yr anghyfleustra i gwsmeriaid yn sgil y toriadau yn eu cyflenwadau, caiff pob aelwyd cymwys £30 o iawndal am bob 12 awr y buont heb gyflenwad. Byddwn ni’n talu’r swm yma’n uniongyrchol i gyfrifon banc cwsmeriaid, neu i’w cyfrifon dŵr os yw eu balans yn uwch na swm yr iawndal. Byddwn ni’n anfon sieciau at gwsmeriaid sydd heb gofrestru cyfrif banc gyda ni dros yr wythnosau nesaf.

Cwestiynau Cyffredin

Hoffem ymddiheuro am yr effaith y mae’r beipen ddŵr yn byrstio yn ein gwaith trin dŵr Bryn Cowlyd, Dolgarrog wedi ei gael.

Bydd pob cwsmer busnes yn derbyn iawndal o £75 ar gyfer pob 12 awr yr oedd cyflenwadau wedi eu heffeithio.

Yn ogystal, mae Dŵr Cymru wedi cytuno i wneud cyfraniadau ewyllys da ar gyfer pob cwsmer busnes tuag at rhai costau/ colled elw.

Mae’r cymwysterau, y meini prawf a’r broses ar gyfer gwneud cais am gyfraniad ewyllys da tuag at gostau/colli elw gros yn y canllaw hwn a dylid eu darllen yn llawn cyn gwneud cais am Daliad Ewyllys Da.

Mae’n ddyletswydd ar fusnesau yr effeithir arnynt i gymryd pob cam rhesymol i leihau eu costau/colled o elw gros.

Ar ôl darllen y nodiadau canllaw hyn yn llawn, os ydych yn credu eich bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer taliad ewyllys da dros y taliad sydd eisoes wedi’i roi, llenwch y cais pan fydd ar gael gan ddarparu’r wybodaeth y manylir arni yn y canllaw hwn a’r ffurflenni Cais Ewyllys Da ar y we.

Meini prawf cymhwyster

Rhaid bodloni'r meini prawf canlynol er mwyn i'ch busnes fod yn gymwys i wneud cais am daliad cyfraniad ewyllys da.

  • Rydych yn gwsmer busnes sydd wedi eich effeithio yn uniongyrchol gan y bibell ddŵr sydd wedi byrstio yn ein Gwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd.
  • Rhaid i chi fod yn fusnes sydd wedi’i leoli’n barhaol yn lleoliad y cais e.e. ddim yn fusnes symudol/ymweliad gan gynnwys gwasanaethau tacsi.
  • Rhaid i'ch busnes fod wedi'i gofrestru gyda CThEM.

Mae cymhwyster ar gyfer cyfraniad ewyllys da ac unrhyw gyfraniad a wneir yn ôl disgresiwn Dŵr Cymru.

Proses Ymgeisio Ewyllys Da

Disgwylir y bydd gan lawer o gwsmeriaid busnes yswiriant tarfu ar fusnes. Os felly, dylid defnyddio eich yswiriant i hawlio unrhyw gostau/colled o elw gros. Lle mae gan gwsmeriaid yswiriant ac wedi defnyddio eu hyswiriant eu hunain, mae Dŵr Cymru yn fodlon ystyried cyfraniad tuag at unrhyw daliad polisi ‘excess’ gyda thystiolaeth ddigonol. Mae ffurflen we benodol i wneud cais am y cyfraniad ewyllys da hwn, manylion pellach isod.

Rhaid i'r dystiolaeth y gofynnir amdani yn y canllaw hwn a'r ffurflen gais Ewyllys Da ar y we gefnogi'r holl gostau/colledion elw crynswth. Sicrhewch fod y dystiolaeth berthnasol yn barod cyn dechrau'r ffurflen we.

Ar ôl derbyn eich cais efallai y byddwn yn eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ychwanegol i gadarnhau eich cais neu ofyn am wybodaeth ychwanegol i gefnogi ein hasesiad.

Ddim yn Gymwys

Sylwch nad yw'r costau/colled elw gros sy'n cael eu hystyried yn cynnwys ffioedd proffesiynol, gan gynnwys unrhyw ffioedd sy'n gysylltiedig â chwblhau'r cais, ac unrhyw gynnydd mewn premiymau yswiriant. Ni wneir unrhyw daliadau mewn perthynas â'r ddau gategori hyn.

Mae'r isod yn amlinellu'r gwahanol ffurflenni cais Ewyllys Da y gallwch eu llenwi. Dim ond un ffurflen we y Cwsmer Busnes a ganiateir i chi ei chwblhau.

Datganiad

Rhaid i ddatganiad gael ei gwblhau a’i lofnodi gan lofnodwr awdurdodedig eich busnes, e.e. perchennog y busnes os yw'n fasnachwr unigol; partner i bartneriaeth gofrestredig neu ddigofrestredig; neu swyddog cwmni cyfyngedig.

Beth sy'n digwydd nesaf

Ar ôl derbyn eich cais a dogfennaeth ategol, byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth trwy e-bost.

Ein nod yw asesu a gwneud penderfyniad ar eich cais o fewn 20 diwrnod gwaith o'i dderbyn.

Gall yr amserlenni hyn fod yn hirach yn dibynnu ar werth a chymhlethdod eich cais yn ogystal â chyflymder yr ymateb gennych chi wrth ymateb i geisiadau. Os yw hyn yn wir, byddwn yn rhoi gwybod i chi.

Gall Dŵr Cymru benodi trydydd parti i gynorthwyo neu gwblhau asesiad o unrhyw geisiadau. Penodir trydydd parti heb roi gwybod ymlaen llaw. Bydd y costau hyn yn cael eu talu gan Dŵr Cymru.