Cais am Daliad Ewyllys Da
Cwestiynau Cyffredin
Bydd angen i chi fodloni’r meini prawf isod i fod yn gymwys i gyflwyno cais am Daliad Ewyllys Da:
- Rydych yn gwsmer busnes sydd wedi derbyn hysbysiad berwi dŵr rhagofalus yn uniongyrchol gan Dŵr Cymru ar 24 Tachwedd 2024.
- Rhaid i chi fod yn fusnes sydd wedi’i leoli’n barhaol yn lleoliad y cais e.e. ddim yn fusnes symudol/ymweliad gan gynnwys gwasanaethau tacsi.
- Rhaid i'ch busnes fod wedi'i gofrestru gyda CThEM.
Os nad ydych wedi cael llythyr, ond eich bod yn credu eich bod chi’n gymwys i gael taliad Ewyllys Da, ewch i www.dwrcymru.com/ewyllysda a dilynwch y canllawiau.
Ewch i www.dwrcymru.com/ewyllysda a dilynwch y canllawiau i lenwi’r cais am Daliad Ewyllys Da.
Rhaid cyflwyno’r ceisiadau cyn 5pm ar 17 Chwefror 2025 man bellaf.
Bydd eich Cyfeirnod Cwsmer gan Ddŵr Cymru yng nghornel uchaf eich bil ar y dde. Nodwch y rhif yn ei gyfanrwydd pan fo angen er mwyn i ni gysylltu’ch cais â’ch cyfrif.
Nodwch ddyddiad ac amser bras a byddwn ni’n dilysu hyn yn erbyn ein data.
Bydd y broses ymgeisio’n caniatáu i chi ofyn am daliad o hyd at £2,500 i wneud iawn am y colledion gros a wnaeth eich busnes a/neu unrhyw gostau ychwanegol a dynnwyd wrth gadw’r busnes yn rhedeg o ganlyniad uniongyrchol i golli’ch cyflenwad dŵr. Fel arall, gallwch wneud cais am hyd at £2,500 i’ch digolledu am daliad yswiriant ategol os ydych wedi hawlio trwy eich polisi yswiriant.
Nid yw’r costau a ystyrir yn cynnwys ffioedd proffesiynol (gan gynnwys ffioedd cyfrifydd neu asiant tiroedd ymhlith eraill) ac mae hynny’n cynnwys y ffioedd a dynnwyd wrth baratoi’r cais. Ni chaiff cynnydd yn eich premiwm yswiriant ei ystyried chwaith.
Am fod yna nifer o ffactorau sy’n gallu effeithio ar bremiwm yswiriant, ni fydd Dŵr Cymru’n ystyried gwneud cyfraniad at y costau hyn.
Ar gyfer Costau/Colledion Elw Gros hyd at £500, rhaid darparu tystiolaeth resymol i ategu eich costau/colledion elw gros.
Ar gyfer Colledion Elw Gros dros £500, rhaid darparu o leiaf y wybodaeth ganlynol:
- Gwerthiannau dyddiol, net o TAW (os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW), ar gyfer y cyfnod 24 Tachwedd 2023 – 8 Rhagfyr 2023 (cynhwysol),
- Gwerthiannau dyddiol, net o TAW (os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW), ar gyfer y cyfnod 24 Tachwedd 2024 – 8 Rhagfyr 2024 (cynhwysol),
- Copi o’r set ddiwethaf o gyfrifon diwedd blwyddyn, gan gynnwys cyfrifon elw a cholled manwl.
Yn achos Costau Gweithredu Ychwanegol dros £500, dylech ddarparu tystiolaeth o’ch holl anfonebau/derbynebion.
Yn achos Taliadau Yswiriant Ategol dros £500, dylech ddarparu tystiolaeth gan eich cwmni yswiriant fod hawliad yswiriant wedi cael ei dalu ar gyfer y cyfnod hwn, a thystiolaeth o’r taliad ategol ar gyfer y polisi.
Os yw’ch busnes wedi bod yn masnachu am lai na 12 mis, dylech ddarparu’r o leiaf eich gwerthiannau dyddiol, net o TAW (os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW), am y cyfnod 24 Tachwedd 2024 - 8 Rhagfyr 2024 (cynhwysol).
Gallwch nodi’r cyfeiriad â llaw trwy lenwi’r blychau perthnasol.
Efallai bod yna faes sydd heb ei lenwi. Os ydych chi wedi llenwi maes yn gywir, bydd tic gwyrdd yn ymddangos wrth ei ymyl. Os ydych chi wedi llenwi maes yn anghywir, bydd croes goch yn ymddangos wrth ei ymyl, fel y mae’r esiampl isod yn ei ddangos. Sicrhewch nad oes croes goch ar eich ffurflen cyn symud ymlaen.
Bydd gofyn i chi uwchlwytho’r dystiolaeth berthnasol yn rhan o’r broses ymgeisio. Bydd y canllawiau a’r ffurflen yn eich cynghori pa wybodaeth y dylech ei huwchlwytho. Dewiswch ‘ie’ am bob dogfen rydych am ei huwchlwytho. Wedyn fe welwch chi fotwm ‘Dewis ffeil’ a fydd yn caniatáu i chi bori i ddod o hyd i’r ddogfen gywir i’w huwchlwytho. Dewiswch y ddogfen berthnasol, ac ar ôl ei huwchlwytho, fe welwch enw’r ddogfen fel y mae’n ymddangos isod. Ar ôl uwchlwytho’r dogfennau angenrheidiol, ticiwch ‘na’ i’r opsiynau pellach ar gyfer ffeiliau i’w huwchlwytho.
Bydd y cais yn caniatáu i chi uwchlwytho hyd at 4 dogfen a rhaid i bob dogfen fod yn llai na 15MB o ran maint. Os oes angen i chi uwchlwytho mwy na 4 dogfen, neu os ydych chi’n cael trafferth uwchlwytho’r dogfennau, gallwch lenwi gweddill y cais, wedyn e-bostio’r dogfennau i goodwillpayments@dwrcymru.com , gan nodi eich cyfeirnod cwsmer gan Ddŵr Cymru fel testun y neges. Bydd hyn yn caniatáu i ni gysylltu eich dogfennau â’ch cais.
Byddwn ni’n ymdrechu i asesu eich cais a gwneud penderfyniad arno cyn pen 20 diwrnod gwaith ar ôl iddo ddod i law.
Os yw eich cais yn ymwneud â Cholledion Elw Gros (dros £500), bydd ein partneriaid trydydd parti’n ymdrechu i asesu eich cais cyn pen 20 diwrnod gwaith ar ôl iddo ddod i law. Gallai’r amserlenni hyn fod yn hirach yn dibynnu ar werth a chymhlethrwydd eich cais, a chyflymdra’ch ymatebion chi i geisiadau. Os felly, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi.
Gall Dŵr Cymru benodi trydydd parti i gynorthwyo neu i asesu unrhyw geisiadau. Penodir y trydydd parti heb eich hysbysu ymlaen llaw. Dŵr Cymru fydd yn talu’r costau hyn. Gallai’r partner trydydd parti gysylltu â chi’n uniongyrchol i drafod eich cais.
Cwmni Crawford yw partner trydydd parti Dŵr Cymru a allai gael ei benodi i asesu eich cais. Fodd bynnag, rydyn ni’n cadw’r hawl i benodi partneriaid trydydd parti eraill os oes angen.
Dylai’r taliad gymryd hyd at 5 niwrnod gwaith ar ôl i ni roi gwybod i chi am ganlyniad eich cais am Daliad Ewyllys Da.
Caiff y dull o dalu ei gadarnhau ar yr ohebiaeth am ganlyniad eich cais.
Mae pob cwsmer nad yw'n aelwyd wedi derbyn iawndal o £500 fesul eiddo yn dilyn cyhoeddi'r rhybudd berwi dŵr rhagofalus ar 24 Tachwedd. Mae Dŵr Cymru wedi cytuno i wneud cyfraniadau ewyllys da o hyd at £2500 i bob cwsmer busnes tuag at costau penodol/colli elw gros pan fo’n fwy na'r £500 a roddwyd eisoes.
Fel arall, gallwch ofyn i ni dalu costau ychwanegol yr yswiriant hyd at £2,500, os ydych wedi gwneud hawliad yswiriant ac mae'r gost ychwanegol yn fwy na £500.
Gofynnwn i chi ganiatáu 20 diwrnod i ni brosesu eich cais. Os ydyn ni’n credu y bydd y cais yn cymryd mwy nag 20 diwrnod gwaith, byddwn ni’n cysylltu i roi gwybod i chi.
Os ydych chi’n anghytuno â chanlyniad eich cais, dylech e-bostio goodwillpayments@dwrcymru.com gan nodi’n fanwl pam eich bod chi’n anghytuno. Nodwch eich cyfeirnod cwsmer gan Ddŵr Cymru fel testun y neges.