Oriau agor dros y Nadolig

Information

Noder mai oriau agor ein canolfan gyswllt ar gyfer bilio yw:

Dydd Mawrth 24 Rhagfyr: 08:00 - 14:00
Dydd Mercher 25 Rhagfyr - Dydd Iau 26 Rhagfyr: Ar gau
Dydd Gwener 27 Rhagfyr: 09:00 - 17:00
Dydd Sadwrn 28 Rhagfyr: 09:00 - 13:00
Dydd Llun 30 Rhagfyr: 08:00 - 18:00
Dydd Mawrth 31 Rhagfyr: 08:00 - 14:00
Dydd Mercher 1 Ionawr: Ar gau

Mae ein canolfan gyswllt ar gyfer Gweithrediadau ar agor 24/7 drwy gydol cyfnod y Nadolig ar gyfer unrhyw argyfwng.

Ymweliadau Effeithlonrwydd Dŵr am ddim i gartrefi

R’yn ni’n gwybod fod pob ceiniog yn bwysig, nawr yn fwy nag erioed, ac yma yn Dŵr Cymru, rydyn ni eisiau helpu. Rydyn ni wedi lansio’r prosiect Ymweliadau Cartref Effeithlonrwydd Dŵr i’ch helpu chi i arbed dŵr ac arbed arian.

Neu gallwch e-bostio WaterEfficiencyAudit@dwrcymru.com i dderbyn neges trwy e-bost.

Os nad ydych am gael ymweliad, ond bod diddordeb gennych yn ein dyfeisiau arbed dŵr am ddim, ewch draw i’n tudalen Get Water Fit lle mae awgrymiadau am ffyrdd o arbed dŵr, ac opsiwn i archebu cynhyrchion am ddim ar gyfer eich cartref.

Beth yw ymweliad cartref effeithlonrwydd dŵr?

Bydd aelod o’n tîm yn dod i’ch cartref ac yn archwilio’r holl dapiau, toiledau, a chawodydd i weld a allant osod cynhyrchion effeithlonrwydd dŵr addas am ddim fel:

  • Pen cawod
  • Teclyn cyfyngu llif i’r gawod
  • Amserydd i’r gawod
  • Awyrydd tap
  • Bag arbed fflysh
  • Sbardun i’r bibell ddyfrio

Bydd ein cydweithiwr yn rhannu cynghorion am ffyrdd o arbed dŵr ac ynni â chi hefyd. Os oes gennych fesurydd, byddan nhw’n gallu dangos i chi sut i chwilio am ollyngiadau, a sut i ffeindio eich mesurydd dŵr a’i ddarllen hefyd. Os byddan nhw’n ffeindio bod dŵr yn gollwng, peidiwch â phoeni, byddan nhw’n rhoi gwybod i’n plymwyr Cartref, ac mae’n bosibl y byddan nhw’n gallu dod allan a thrwsio’r broblem am ddim. I gael rhagor o fanylion am ein cynllun Cartref cliciwch yma.

Faint gallwn i ei arbed?

Oeddech chi’n gwybod fod cwsmeriaid yn arbed 63 litr y dydd ar gyfartaledd yn sgil yr ymweliadau hyn? I gwsmeriaid â mesurydd mae hynny gyfwerth â £75 oddi ar eich bil blynyddol.

Yn dibynnu ar eich ffitiadau dŵr cyfredol, trwy osod pen cawod effeithlonrwydd dŵr gallech arbed dros 55 litr y dydd, gallai awyrydd tap arbed 18 litr y dydd, a thrwy osod bag arbed fflysh yn seston y tŷ bach, gallech arbed 9.6 litr y dydd.

Heb fesurydd dŵr?

Gallwn ni eich helpu chi i arbed ynni hefyd. Yn ogystal ag arbed dŵr, gall cwtogi ar eich amser yn y gawod arbed tipyn ar eich bil ynni hefyd - i’r cwsmeriaid hynny sydd â chawod trydan, gallai hynny fod dros £100 y flwyddyn!

Pwy yw Groundwork Cymru?

I glywed rhagor am yr elusen cymdeithasol-amgylcheddol Groundwork Cymru, cliciwch yma.

Sut ydw i’n gwybod taw Dŵr Cymru sy’n cysylltu â mi?

Mae’n gas gennym ni alwyr ffug, felly rydyn ni’n gwneud popeth yn ein gallu i’ch cadw chi a’ch cartref yn ddiogel. Os nad ydych chi’n sicr taw Dŵr Cymru sy’n galw, cysylltwch â’n Llinell Gymorth am Alwyr Ffug ar 0800 281 141.

Pan fydd arolygydd Dŵr Cymru’n galw i’ch cartref i gyflawni ymweliad cartref effeithlonrwydd dŵr, bydd cerdyn adnabod ganddynt bob tro. Os ydych chi byth yn ansicr, dilynwch y tri cham yma - CERDYN, GWIRIO a GALW.

I’ch helpu chi i deimlo’n fwy diogel, gallwn drefnu defnyddio cyfrinair wrth ymweld. Yn syml, dewiswch gyfrinair sy’n hawdd i chi ei gofio, a chofrestrwch ef trwy roi galwad i ni ar 0800 052 0145. Byddwn ni’n defnyddio’r cyfrinair bob tro wrth ymweld â chi.