Ymdrin â gollyngiadau dŵr
Yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddod o hyd i ollyngiad a’i reoli.
Pam mae gollyngiadau’n digwydd?
Weithiau mae gollyngiadau'n digwydd a gall hyn fod oherwydd oedran y bibell, gwendid yn y bibell, ffitiadau neu uniadau yn gollwng a symudiad yn y ddaear.
Rydym yn gofalu am dros 27,500km o’r Prif Gyflenwad Dŵr ledled Cymru a Rhannau o Loegr – digon o bibellau i ymestyn o Gaerdydd i Sydney a hanner ffordd yn ôl eto! Nid yw hyn yn cynnwys y pibellau cyswllt, na'r pibellau cyflenwi sy'n cyflenwi eich cartrefi.
Os oes problem ar ein rhwydwaith, dyma beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni
Ein nod yw ymchwilio i ollyngiadau a’u trwsio cyn gynted â phosibl.
Rydym yn gwybod ei bod yn rhwystredig pan fyddwch wedi rhoi gwybod am ollyngiad ac nad yw’n cael ei drwsio ar unwaith, ond yn gyffredinol mae rhesymau da iawn dros yr oedi.
Nid yw bob amser yn rhwydd, a bydd sawl ffactor yn dylanwadu ar sut a phryd y gallwn ni ei drwsio.
Mae'r camau canlynol yn amlinellu beth fydd yn digwydd pan fyddwch wedi cysylltu â ni a pha mor hir y mae'n ei gymryd fel arfer i ni fynd i’r afael â'r rhan fwyaf o ollyngiadau; ond byddwch yn ymwybodol mai canllaw yn unig yw ein llinell amser ac y gallai gael ei newid oherwydd gwaith brys neu amodau amgylcheddol.
Pa mor hir y gallai ei gymryd i ddatrys y broblem
- Gollyngiadau brys: o fewn 2 awr (perygl o lifogydd, perygl iechyd a diogelwch, effeithio ar y cyflenwad).
- Gollyngiadau sylweddol: o fewn 24 awr.
- Gollyngiadau llai difrifol: o fewn 3 diwrnod gwaith.
- Mae gan rai o'n prif bibellau dŵr ddiamedr mawr ac/neu maent yn gweithredu ar bwysedd mawr felly ystyrir y risgiau Iechyd a Diogelwch yn ofalus er mwyn sicrhau ein bod yn cadw ein timau'n ddiogel.
- Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Adrannau Priffyrdd i gytuno pryd y gellir gwneud y gwaith.
- Gall y broses o gau ffyrdd a rheoli traffig dros dro gymryd mwy o amser i’w chynllunio a’i chytuno.
- Efallai y bydd angen i ni archebu ffitiadau neu offer arbenigol a gallai’r gwaith cloddio effeithio ar wasanaethau eraill.
- Er mwyn cynnal cyflenwad dŵr i gwsmeriaid efallai y bydd angen i ni ad-drefnu'r rhwydwaith dŵr dros dro neu ddefnyddio Tanceri.
Byddwn yn mynd i’r safle i wneud y gwaith atgyweirio.
- Bydd rhwystrau'n cael eu codi i sicrhau diogelwch y cyhoedd a'n tîm.
- Os na allwn atgyweirio’r gollyngiad ar unwaith, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth sy'n digwydd.
Yn dilyn y gwaith atgyweirio, byddwn yn adfer yr arwyneb yn ôl i safon dderbyniol.
- Weithiau mae angen i ni ganiatáu ychydig o ddyddiau i'r ddaear sychu er mwyn sicrhau nad yw'r gwaith adfer yn methu ac i atal tarfu pellach yn y dyfodol.
- Os oes angen arwyneb arbenigol a fydd yn cymryd ychydig mwy o amser i'w ganfod, yna gellid defnyddio ateb dros dro er mwyn agor y briffordd yn y cyfamser.
- Os nad yw'r arwyneb yr ydym yn ei adfer yn darmac neu'n goncrit, byddwn yn aml yn cwblhau'r gwaith hwn hyd yn oed yn gyflymach – weithiau yr un diwrnod!
Profi os oes gennych ollyngiad dŵr gartref
Dysgwch am ollyngiadau yn y cartref drwy roi cynnig ar y profion gollyngiadau hyn. Rydym eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i annog ein cwsmeriaid i ganfod ac atgyweirio gollyngiadau cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn ein helpu ni i leihau gollyngiadau ac yn eich helpu chi i arbed symiau mawr o arian o bosibl.
Efallai y bydd gennych ollyngiad os byddwch yn sylwi:
- Ardaloedd o lystyfiant toreithiog.
- Gostyngiad mawr mewn pwysedd dŵr.
- Sŵn hisian ger eich falf gau fewnol.
- Darnau llaith ar y ddaear.
- Newid anesboniadwy ar eich bil.
Dilynwch ychydig o gamau syml i ganfod a oes dŵr yn gollwng o fewn ffiniau eich eiddo yma.
Cyfrifoldeb am ollyngiad dŵr
Ni sydd biau’r pibellau sy'n rhedeg at derfyn y stryd a byddwn bob tro yn eu hatgyweirio cyn gynted â phosibl.
Rhwng terfyn y stryd a'ch stoptap mewnol mae'r bibell gyflenwi yn breifat. Er mai perchennog yr eiddo sydd biau’r bibell hon byddwn yn cynnig atgyweirio am ddim lle bo modd.
Cyfrifoldeb y perchennog yw atgyweirio'r holl bibellau a ffitiadau mewnol y tu mewn i'r eiddo.
Os byddwch yn sylwi ar ollyngiad neu'n credu bod gennych un ger eich eiddo, cysylltwch â ni ar 0800 052 0130 (24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos).
Weithiau gall pibell gyflenwi dŵr breifat ddarparu dŵr i sawl eiddo, os gwelwn fod eich pibell ddŵr yn cael ei rhannu byddwn yn trafod pob dewis o ran sut i'w hatgyweirio gyda chi pan fyddwn yn galw i’ch gweld. Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn gosod eich pibell ddŵr ar wahân eich hun, a byddem yn argymell hynny bob tro.
Gall pibell gyflenwi breifat fod yn eithaf hir a chroesi ffin eiddo rhywun arall. Os yw eich pibell gyflenwi yn rhedeg ar draws ffiniau eich cymdogion yna chi hefyd sy'n gyfrifol am y rhan hon o'r bibell.
Rydym yn cydnabod y gall atgyweirio gollyngiad ar y bibell gyflenwi sy'n gwasanaethu eich eiddo fod yn gostus. Dyna pam rydym yn awyddus i gefnogi cymaint ag y gallwn. Pan fydd contractwr yn atgyweirio pibell, gallwn gefnogi gyda chyfraniad o £150. Os bydd angen pibell gyflenwi newydd, er enghraifft pan ddewiswch ddod oddi ar gyflenwad a rennir, gallwn gefnogi gyda chyfraniad o £500 a chysylltiad newydd am ddim i'n prif bibell.
Bydd y cyfraniad hwn yn cael ei wneud ar ôl i Dŵr Cymru gadarnhau bod y cyflenwad yn rhad ac am ddim, ac efallai y bydd angen tystiolaeth arnom o'r gwaith, a'r costau sy'n gysylltiedig - felly cadwch unrhyw anfonebau neu dderbynebau.
Wrth i ni eich tywys drwy'r broses o ddatrys eich gollyngiad, byddem yn fwy na pharod i drafod yr uchod gyda chi i sicrhau y gallwn brosesu taliad yn gyflym ar ôl y gwaith atgyweirio.
Beth i'w wneud os oes gennych ollyngiad preifat o fewn eich ffin
Os oes gennych ollyngiad o fewn terfyn eich eiddo, neu os nad ydych yn siŵr pwy sy'n berchen ar beth, mae ein llyfryn Gollyngiadau Preifat yn rhoi gwybodaeth am yr hyn y mae angen i chi ei wneud, yn ogystal â manylion am ein Cynllun Atgyweirio Gollyngiadau Am Ddim.
LawrlwythoOs yw eich pibell wedi byrstio, peidiwch â chynhyrfu.
- Ceisiwch ddod o hyd i ble mae'r gollyngiad - yna atal y cyflenwad drwy droi'r stoptap i’r dde.
- Agorwch bob tap i leihau llifogydd.
- Amsugnwch neu rhwystrwch y dŵr sy'n dianc gyda thyweli trwchus.
- Diffoddwch eich trydan: os yw'r dŵr yn agos at unrhyw beth trydanol - gan gynnwys goleuadau, socedi neu declynnau - peidiwch â'u cyffwrdd. Gall gwifrau trydan sy'n cael eu difrodi gan ddŵr fod yn beryglus iawn ac mae'n debyg y bydd angen i chi ffonio gweithiwr proffesiynol i atgyweirio’r difrod.
- Ffoniwch blymwr cofrestredig - os oes angen cymorth arnoch i atgyweirio pibell sydd wedi byrstio, cysylltwch â phlymwr sydd wedi’i gymeradwyo gan Watersafe..