Profi os oes gennych ollyngiad dŵr
Rydym ni eisiau gwneud popeth y gallwn i annog cwsmeriaid i ddod o hyd i ollyngiadau a’u trwsio cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn ein helpu i leihau gollyngiadau a gallai arbed arian i chi. Dilynwch ychydig o gamau rhwydd i weld a oes gollyngiad o fewn ffiniau eich eiddo chi.
Cyfrifoldeb am ollyngiad dŵr
Ni sydd biau’r pibellau sy'n rhedeg at derfyn y stryd a byddwn bob tro yn eu hatgyweirio cyn gynted â phosibl.
Rhwng terfyn y stryd a'ch stoptap mewnol mae'r bibell gyflenwi yn breifat. Er mai perchennog yr eiddo sydd biau’r bibell hon byddwn yn cynnig atgyweirio am ddim lle bo modd.
Cyfrifoldeb y perchennog yw atgyweirio'r holl bibellau a ffitiadau mewnol y tu mewn i'r eiddo.
Os byddwch yn sylwi ar ollyngiad neu'n credu bod gennych un ger eich eiddo, cysylltwch â ni ar 0800 052 0130 (24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos).
Weithiau gall pibell gyflenwi dŵr breifat ddarparu dŵr i sawl eiddo, os gwelwn fod eich pibell ddŵr yn cael ei rhannu byddwn yn trafod pob dewis o ran sut i'w hatgyweirio gyda chi pan fyddwn yn galw i’ch gweld. Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn gosod eich pibell ddŵr ar wahân eich hun, a byddem yn argymell hynny bob tro.
Gall pibell gyflenwi breifat fod yn eithaf hir a chroesi ffin eiddo rhywun arall. Os yw eich pibell gyflenwi yn rhedeg ar draws ffiniau eich cymdogion yna chi hefyd sy'n gyfrifol am y rhan hon o'r bibell.
Rydym yn cydnabod y gall atgyweirio gollyngiad ar y bibell gyflenwi sy'n gwasanaethu eich eiddo fod yn gostus. Dyna pam rydym yn awyddus i gefnogi cymaint ag y gallwn. Pan fydd contractwr yn atgyweirio pibell, gallwn gefnogi gyda chyfraniad o £150. Os bydd angen pibell gyflenwi newydd, er enghraifft pan ddewiswch ddod oddi ar gyflenwad a rennir, gallwn gefnogi gyda chyfraniad o £500 a chysylltiad newydd am ddim i'n prif bibell.
Bydd y cyfraniad hwn yn cael ei wneud ar ôl i Dŵr Cymru gadarnhau bod y cyflenwad yn rhad ac am ddim, ac efallai y bydd angen tystiolaeth arnom o'r gwaith, a'r costau sy'n gysylltiedig - felly cadwch unrhyw anfonebau neu dderbynebau.
Wrth i ni eich tywys drwy'r broses o ddatrys eich gollyngiad, byddem yn fwy na pharod i drafod yr uchod gyda chi i sicrhau y gallwn brosesu taliad yn gyflym ar ôl y gwaith atgyweirio.
Beth i'w wneud os oes gennych ollyngiad preifat o fewn eich ffin
Os oes gennych ollyngiad o fewn terfyn eich eiddo, neu os nad ydych yn siŵr pwy sy'n berchen ar beth, mae ein llyfryn Gollyngiadau Preifat yn rhoi gwybodaeth am yr hyn y mae angen i chi ei wneud, yn ogystal â manylion am ein Cynllun Atgyweirio Gollyngiadau Am Ddim.
Lawrlwytho