Ansawdd dŵr yfed
Mae cyflenwi dŵr yfed o ansawdd uchel bob amser yn flaenoriaeth i ni. Weithiau gall pethau fynd o chwith, felly rydym ni wedi darparu rhywfaint o wybodaeth i’ch helpu chi os nad yw eich dŵr yn ymddangos yn iawn.
Bob blwyddyn rydyn ni’n cyflawni tua 300,000 o brofion dŵr ac yn eu dadansoddi, ac mae 99.96% o’r dŵr rydyn ni’n ei gyflenwi’n bodloni’r safonau o ran ansawdd dŵr yfed yng nghartrefi’n cwsmeriaid.
Gall gwaith neu ddigwyddiadau yn eich ardal effeithio ar eich dŵr hefyd. Gallwch chi wirio a oes gwaith wedi’i gynllunio neu waith brys yn eich ardal trwy ein hofferyn Yn Eich Ardal isod.
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, ffoniwch ni ar 0800 052 0130.
Fideos gwybodaeth am ansawdd dŵr
Rhywbeth yn aflonyddu ar y gwaddodion yn y pibellau dŵr sy’n afliwio’r dŵr fel rheol. Mae hyn yn gallu digwydd os oes angen diffodd y brif bibell ddŵr i wneud gwaith cynnal-a-chadw neu mewn argyfwng.
Mae dŵr afliw yn annhebygol o fod yn niweidiol i iechyd a bydd yn aml yn clirio o fewn munudau wrth i chi redeg y tapiau, ond gallai fod angen hyd at 45 munud iddo glirio’n llwyr.
Trwy ein gwasanaeth Yn Eich Ardal, gallwch ddarganfod a oes unrhyw waith brys neu wedi’i gynllunio yn agos i chi a allai effeithio ar eich cyflenwad dŵr.