Dŵr Afliw


Rhywbeth yn aflonyddu ar y gwaddodion yn y pibellau dŵr sy’n afliwio’r dŵr fel rheol. Mae hyn yn gallu digwydd os oes angen diffodd y brif bibell ddŵr i wneud gwaith cynnal-a-chadw neu mewn argyfwng.

Mae dŵr afliw yn annhebygol o fod yn niweidiol i iechyd a bydd yn aml yn clirio o fewn munudau wrth i chi redeg y tapiau, ond gallai fod angen hyd at 45 munud iddo glirio’n llwyr.

Trwy ein gwasanaeth Yn Eich Ardal, gallwch ddarganfod a oes unrhyw waith brys neu wedi’i gynllunio yn agos i chi a allai effeithio ar eich cyflenwad dŵr.

Dylech osgoi golchi dillad nes bod y dŵr yn glir ond os ydych chi wedi gwneud hyn ac mae’r dŵr afliw wedi staenio eich dillad, golchwch nhw eto pan fydd y cyflenwad wedi clirio. Os yw’r dillad wedi’u staenio ar ôl eu golchi eto, cadwch y dillad sydd wedi’u staenio a chysylltwch â ni.