Blas neu arogl rhyfedd ar fy nŵr


O bryd i’w gilydd, mae cwsmeriaid yn dweud bod eu dŵr yn blasu neu’n arogli’n wahanol i’r arfer. Maen nhw’n dweud weithiau bod y blas a’r arogl yn ‘briddlyd’, yn ‘drymaidd’ neu fod blas cemegau ar y dŵr, er bod yna ddisgrifiadau eraill hefyd.

Dyma ambell i gwestiwn defnyddiol a allai’ch helpu chi i ddod o hyd i’r achos:

A oes gennych danc trosben sy’n bwydo’r tapiau dŵr yfed?

Os oes e, gwnewch yn siŵr bod gorchudd ar y tanc, neu gofynnwch i blymwr wneud hynny. Os nad oes gorchudd ar y tanc, efallai bod rhywbeth wedi disgyn i’r tanc gan achosi’r blas neu’r arogl od. Os felly, bydd angen glanhau’r tanc, ei ddiheintio a gosod gorchudd addas drosto. Bydd angen i chi gael cyngor plymwr i wneud hyn.

A oes unrhyw waith plymio neu adeiladu wedi cael ei wneud yn eich cartref yn ddiweddar neu a ydych chi wedi cael dyfais newydd?

Gallai hyn fod yn rhywbeth mor syml â gosod peiriant golchi newydd, cael pibell newydd wedi ei osod ar eich tap dŵr yfed, neu degell newydd.

  • Os nad ydych chi wedi gosod falf i atal y dŵr rhag dychwelyd ar ben pibell ddŵr eich peiriant golchi, weithiau mae dŵr sydd wedi bod yn sefyll yn y bibell yn gallu ffeindio’i ffordd i mewn i’r dŵr sy’n bwydo’ch tap, gan roi blas ffenol, neu TCP i’ch dŵr. Mae hyn yn gallu bod yn fwy amlwg wrth wneud diod gynnes.
  • Pibellau hyblyg byrion o dan y sinc sy’n cysylltu’r tapiau yw ffynhonnell y problemau o ran blas weithiau. Darllenwch y wybodaeth a ddaeth gyda’r bibell i weld a yw’r KIWA, NSF neu WRAS. Os na, dylech osod pibell gymeradwy yn ei lle. Wrth wneud eich gwaith plymio eich hun, neu wrth ofyn i blymwr ei wneud ar eich rhan, rydyn ni’n argymell eich bod chi’n sicrhau bod yr offer yn addas i’w ddefnyddio gyda dŵr yfed bob tro, e.e. ei fod wedi ei gymeradwyo gan KIWA, NSF neu WRAS.

Os sylwch chi fod blas disel neu betrol ar eich dŵr

cysylltwch â ni ar unwaith am y gallai hyn fod oherwydd cwymp tanwydd e.e. lle bo rhywun yn eich eiddo neu mewn eiddo cyfagos wedi bod yn gweithio ar gar neu feic modur ac wedi gadael i betrol neu olew lifo i mewn i’r ddaear. Gall tanwydd ffeindio’i ffordd trwy’r ddaear a threiddio trwy’r pibellau plastig sy’n cludo’r dŵr. Mae’n gallu cymryd nifer o ddyddiau neu hyd yn oed wythnosau i’r tanwydd gyrraedd y bibell ddŵr.

Os ydych chi wedi gwneud yr holl bethau hyn ond bod y broblem yn parhau, rhowch alwad i ni.