Help a chymorth mewn digwyddiad
Mae ein timau’n gweithio’n galed 24/7, 365 diwrnod o’r flwyddyn i ddarparu gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff ar gyfer ein cwsmeriaid, ac mae sicrhau eich bod chi’n cael gwasanaethau di-dor yn flaenoriaeth allweddol i ni.
Yn anffodus, weithiau mae toriadau’n digwydd sy’n gallu effeithio ar eich cyflenwad dŵr neu hyd yn oed achosi llifogydd carthion. Gallai’r pethau hyn ddigwydd oherwydd:
- Byrst ar ein pibellau dŵr a’n rhwydwaith
- Diffyg trydan mewn storm
- Draeniau a charthffosydd sydd wedi eu blocio
- Argyfyngau’r hinsawdd
Ein nod bob tro yw lleihau’r effaith ar ein cwsmeriaid a sicrhau ein bod ni’n cwblhau’r gwaith trwsio cyn gynted ag y gallwn ni. Ac wrth i ni gyflawni’r gwaith trwsio, fe wnawn ni bopeth yn ein gallu i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf â chwsmeriaid am y gwaith rydyn ni’n ei wneud, sut y gallwn ni helpu cwsmeriaid, a pha mor hir y bydd hi nes ein bod ni’n gallu adfer y gwasanaethau.
Mae pob toriad yn y gwasanaeth yn wahanol, a byddwn ni’n ymateb i bob un ar sail ei amgylchiadau unigryw ei hun. Mae’r wybodaeth ganlynol yn amlinellu beth y gallwch ei ddisgwyl gennym yn achos digwyddiad estynedig (mwy na 12 awr).
Sut y byddwn ni’n rhannu
gwybodaeth â chi
Er na allwn roi gwybod i chi am broblem annisgwyl ymlaen llaw, os yw eich manylion cysylltu cyfredol gennym, gallwn sicrhau bod modd cysylltu â chi pan fo angen.
Os oes gennym ni’r rhifau ffôn cywir (llinell tir neu ffôn poced) ar eich cyfer, gallwn anfon neges destun atoch ar ôl clustnodi bod angen, a rhoi gwybod i chi pryd y gallwch ddisgwyl i’r cyflenwad gael ei adfer.
Byddai eich cyfeiriad e-bost yn ddefnyddiol hefyd. Byddwn ni’n rhannu diweddariadau rheolaidd am yr argyfwng/digwyddiad ar ein gwefan ac os byddwch chi’n cofrestru gyda’r gwasanaeth gan ddefnyddio’ch cyfeiriad e-bost, gallwn anfon negeseuon e-bost atoch os oes rhywbeth ar droed yn eich ardal. Gallwch fewngofrestru i’r wefan unrhyw bryd i chwilio am ddiweddariadau a chael rhagor o fanylion hefyd.
Beth y gallwch
chi ei wneud
Os nad ydych chi’n credu bod gennym ni’r rhifau ffôn cyswllt neu gyfeiriadau e-bost diweddaraf ar eich cyfer, rhowch wybod i ni. Cewch gofrestru i gael diweddariadau rheolaidd trwy e-bost yn y fan yna hefyd.
Rydyn ni’n diweddaru ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd, felly os ydych chi’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, fe welwch chi ddiweddariadau ar ein tudalennau X a Facebook. Cofiwch ein dilyn ni fel y gallwch gael y wybodaeth cyn gynted ag y bydd ar gael, a hoffwch a rhannwch y negeseuon â’ch ffrindiau a’ch perthnasau i’n helpu ni i ledu’r gair.
Darparu dŵr yn achos digwyddiad
Mewn digwyddiadau estynedig sy’n effeithio ar eich cyflenwad dŵr, byddwn ni’n darparu cyflenwad amgen o ddŵr ar gyfer pob cwsmer o dan sylw, naill ai ar ffurf dŵr potel neu gan ddefnyddio bowser (tanc dŵr symudol). Byddwn ni’n sicrhau bod o leiaf 10 litr o ddŵr y person y dydd ar gael o fewn y 24 awr cyntaf, ac yn parhau i wneud hynny nes y gallwn adfer eich cyflenwad dŵr.
Bydd dŵr amgen ar gael i’w gasglu o ‘orsafoedd dŵr amgen’ neu o bwyntiau casglu dŵr. Rydyn ni’n gweithio gydag awdurdodau lleol ymlaen llaw i glustnodi lleoliadau addas ar gyfer y gorsafoedd hyn fel y gallwn eu sefydlu yn yr ardaloedd o dan sylw yn gyflym ac mor agos â phosibl at y cwsmeriaid.
Ar ôl sefydlu’r safleoedd hyn, byddwn ni’n cyhoeddi eu lleoliad ar ein gwefan, trwy amryw o sianeli’r cyfryngau cymdeithasol (X a Facebook), yn anfon negeseuon testun a / neu e-bost, neu gallwch roi galwad i ni i ofyn ble maen nhw. Byddwn ni’n rhoi gwybod i’r awdurdodau lleol perthnasol a gwasanaethau cyhoeddus eraill ble maen nhw hefyd er mwyn helpu i hysbysebu’r lleoliad.
Wrth ddod i gasglu dŵr o’r bowser, byddem yn argymell eich bod chi’n dod â chynhwysydd addas i’w lenwi â dŵr (gan gofio y bydd angen i chi allu ei gario), ond bydd ambell i gynhwysydd 5 litr gennym wrth law ar eich cyfer. Cewch daflen gennym hefyd a fydd yn esbonio’r materion iechyd a diogelwch sy’n gysylltiedig â defnyddio’r dŵr.
Ein prif ffocws ni fydd dychwelyd eich dŵr tap cyn gynted â phosibl, a sicrhau bod cyflenwad amgen o ddŵr ar gael ar gyfer ein holl gwsmeriaid o dan sylw, felly ni allwn gludo dŵr potel i’ch cartref. Gweler yr adran Angen cymorth ychwanegol? isod i gael rhagor o fanylion am sut y gallwn eich helpu chi.
Os ydyn ni wedi cyflwyno hysbysiad naill ai’n gofyn i chi beidio â defnyddio’ch dŵr neu i’w ferwi cyn ei ddefnyddio, mae hynny fel rheol am fod profion ansawdd dŵr wedi rhoi rheswm i ni gredu nad yw’r dŵr yn bodloni’r gofynion ar gyfer dŵr yfed.
Byddwn ni’n anfon Hysbysiad Berwi Dŵr/Dim Yfed yn uniongyrchol i’r cwsmeriaid o dan sylw trwy negeseuon testun, e-bost a thrwy’r post. Byddwn ni’n cyhoeddi hysbysiadau ar dudalen hafan ein gwefan, trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a thrwy’r wasg leol hefyd.
Byddwn ni’n eich hysbysu’n uniongyrchol pan fydd eich cyflenwad wedi dychwelyd i’r arfer.
Os oes tywydd garw yn y rhagolygon (sy’n gallu cynyddu’r risg o doriad yn eich cyflenwad dŵr) gallech ystyried cadw dŵr potel masnachol wrth law i’w ddefnyddio mewn argyfwng. Mae’r dŵr yma’n para’n dda, a’r cyfan y mae angen i chi ei wneud yw ei storio mewn man oer a thywyll (ond cofiwch ddilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr). Ond os ydych chi neu rywun sy’n byw gyda chi’n cael triniaeth dialysis, holwch eich tîm meddygol i sicrhau bod cynnwys mwynol unrhyw ddŵr a brynwch yn addas i chi.
Rydyn ni’n argymell yn gryf bod unrhyw gwsmeriaid sy’n cael triniaeth dialysis yn cofrestru ar ein cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth ar unwaith fel y gallwn gludo dŵr i’w cartrefi os oes digwyddiad yn codi. Gweler 'Angen cymorth ychwanegol?' am fanylion sut i gofrestru.
Os ydyn ni wedi rhyddhau dŵr mewn gorsaf dŵr amgen ac na allwch gyrraedd yno, ond y gallwch gyrraedd siop i brynu dŵr, cadwch eich derbynneb am ei bod hi’n bosibl y gallwn ad-dalu’r gost.
Cofiwch hefyd am unrhyw gymdogion oedrannus neu’r rhai nad ydynt yn gallu mynd allan i gasglu dŵr – a fyddech chi’n gallu eu helpu nhw?
Bydd unrhyw ddŵr potel a ddarparwn yn bodloni’r un safonau ansawdd dŵr a dŵr tap. Fodd bynnag, os oes angen defnyddio’r dŵr i wneud fformwla babi, dylech drin y dŵr yn yr un modd â’ch dŵr tap, a’i ferwi (i’w ddiheintio) cyn ei ddefnyddio. Mae cyngor y GIG ar baratoi fformwla babi ar gael trwy ddilyn y linc yma: Cyngor y GIG.
Bydd angen berwi dŵr potel rydych chi wedi ei brynu o siop hefyd cyn paratoi fformwla babi (i’w ddiheintio). Ond rhaid darllen y label cyn ei ddefnyddio. Os yw’r dŵr yn cynnwys mwy na 200 mg/L o sodiwm neu 250 mg/L o sylffad, ni ddylid ei ddefnyddio i baratoi fformwla babi.
Os oes angen dŵr arnoch oherwydd angen meddygol penodol neu anhwylder iechyd a fyddai’n ei gwneud hi’n anodd i chi gael dŵr potel eich hun, a’ch bod chi eisoes wedi rhoi gwybod i ni am hynny (trwy gofrestru ar gyfer ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth yna byddwn ni’n gwneud trefniadau i’w gludo i chi lle bo modd.
Mae pawb sy’n gweithio dros Ddŵr Cymru’n cario cerdyn adnabod ac yn hapus i’w ddangos. Rydyn ni’n gyrru faniau â logo Dŵr Cymru arnynt fel rheol. Weithiau rydyn ni’n defnyddio contractwyr, sy’n gyrru faniau cwmnïau gwahanol, ond bydd ganddyn nhw gardiau adnabod hefyd, a byddan nhw’n dilyn yr un rheolau â phobl Dŵr Cymru.
Byddwn ni’n ceisio adfer eich cyflenwad dŵr yn gyflym ac yn ddiogel bob tro. Os nad ydym wedi ei adfer cyn pen 12 awr ar ôl i’r broblem ddod i’n sylw, byddwn ni’n talu £30 i gwsmeriaid domestig a £75 i gwsmeriaid busnes cyn pen 20 diwrnod gwaith. Am bob 12 awr pellach o doriad yn y cyflenwad dŵr (byddwn ni’n talu taliad ychwanegol (£30 i gwsmeriaid domestig a £75 i gwsmeriaid busnes).
Mae rhagor o wybodaeth am gymorth yn ystod digwyddiadau ar gael gan Ofwat (rheoleiddiwr economaidd dŵr) a’r CCW (corff y defnyddwyr dŵr).