Byrstio yng Ngwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd

Updated: 14:00 21 January 2025

Gallwn gadarnhau bod ein rhwydwaith bellach wedi ail-lenwi a chyflenwadau dŵr wedi’u hadfer. Mae'r holl ysgolion yr effeithir arnynt bellach yn ôl ar gyflenwad.

I gydnabod yr anghyfleustra a brofir gan gwsmeriaid oherwydd y diffyg cyflenwad, bydd pob cartref cymwys yn cael £30 mewn iawndal am bob 12 awr yr effeithiwyd ar eu cyflenwadau. Bydd hwn yn cael ei dalu'n awtomatig i gwsmeriaid yn eu cyfrifon banc. Bydd sieciau'n cael eu dosbarthu dros yr wythnosau nesaf i gwsmeriaid nad ydynt wedi cofrestru cyfrif banc gyda ni. Bydd cwsmeriaid busnes yn cael iawndal o £75 am bob 12 awr yr effeithiwyd ar eu cyflenwadau ond bydd busnesau hefyd yn gallu cyflwyno hawliadau ar wahân am golli incwm ychwanegol.

Mae manylion wedi'u cyhoeddi yma ar gyfer cwsmeriaid busnes sy'n cael eu heffeithio gan y digwyddiad hwn.

Hoffem ymddiheuro eto am yr anghyfleustra a brofwyd gan gwsmeriaid a hoffem ddiolch iddynt am weithio gyda ni. Bydd cyflenwadau dŵr amgen yn parhau i fod yn eu lle heddiw.

  • Bodlondeb, LL32 8DU
  • Parc Eirias, LL29 7SP
  • Maes Parcio Pen Morfa Llandudno, LL30 2BG

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar wefan.

Mae dŵr afliwiedig o'ch tapiau yn normal ar ôl y fath broblemau. Mae hyn fel arfer dros dro ac yn diflannu unwaith y bydd y rhwydwaith wedi setlo.

Gofynnwn hefyd i gwsmeriaid wirio eu tapiau i sicrhau eu bod ar gau er mwyn helpu i gadw cyflenwadau wrth i ni ail-lenwi'r rhwydwaith.

Gall cwsmeriaid gael y wybodaeth ddiweddaraf ar yn eich ardal neu ein dilyn ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Yn eich ardal chi

Bydd ein gwasanaeth yn eich ardal chi yn rhoi porth un stop ar gyfer gwybodaeth am ein gwasanaethau ledled dalgylch Dŵr Cymru.

Dysgu mwy

Cofrestrwch eich cod post i fod y cyntaf i wybod am waith yn eich ardal chi.

Gallwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw eitemau map newydd yn eich ardal chi pan fydd gennym eich cod post.

Mae'r gwasanaethau y gallwch eu monitro yn cynnwys:

  • Argyfyngau
  • Gwaith cynnal a chadw hanfodol
  • Buddsoddiadau
  • Gweithgareddau
  • Gwaith wedi'i gynllunio
  • Gollyngiadau a adroddwyd 

Rhoi gwybod am fater

Byddwch yn gallu rhoi gwybod am unrhyw fater ac yn gallu cysylltu â'n hadroddiadau ansawdd dŵr. O ganlyniad, byddwch yn gallu cael gwybodaeth lawn am ansawdd y dŵr yn yr ardal yr ydych wedi'i nodi.

Rhoi gwybod nawr

Cwestiynau Cyffredin