Byrstio yng Ngwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd

Updated: 07:00 21 January 2025

Gallwn gadarnhau bod ein rhwydwaith bellach wedi ail-lenwi a chyflenwadau dŵr wedi’u hadfer. Mae'r holl ysgolion yr effeithir arnynt bellach yn ôl ar gyflenwad.

I gydnabod yr anghyfleustra a brofir gan gwsmeriaid oherwydd y diffyg cyflenwad, bydd pob cartref cymwys yn cael £30 mewn iawndal am bob 12 awr yr effeithiwyd ar eu cyflenwadau. Bydd hwn yn cael ei dalu'n awtomatig i gwsmeriaid yn eu cyfrifon banc. Bydd sieciau'n cael eu dosbarthu dros yr wythnosau nesaf i gwsmeriaid nad ydynt wedi cofrestru cyfrif banc gyda ni. Bydd cwsmeriaid busnes yn cael iawndal o £75 am bob 12 awr yr effeithiwyd ar eu cyflenwadau ond bydd busnesau hefyd yn gallu cyflwyno hawliadau ar wahân am golli incwm ychwanegol.

Mae manylion wedi'u cyhoeddi yma ar gyfer cwsmeriaid busnes sy'n cael eu heffeithio gan y digwyddiad hwn.

Hoffem ymddiheuro eto am yr anghyfleustra a brofwyd gan gwsmeriaid a hoffem ddiolch iddynt am weithio gyda ni. Bydd cyflenwadau dŵr amgen yn parhau i fod yn eu lle heddiw.

  • Bodlondeb, LL32 8DU
  • Parc Eirias, LL29 7SP
  • Maes Parcio Pen Morfa Llandudno, LL30 2BG

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar wefan.

Mae dŵr afliwiedig o'ch tapiau yn normal ar ôl y fath broblemau. Mae hyn fel arfer dros dro ac yn diflannu unwaith y bydd y rhwydwaith wedi setlo.

Gofynnwn hefyd i gwsmeriaid wirio eu tapiau i sicrhau eu bod ar gau er mwyn helpu i gadw cyflenwadau wrth i ni ail-lenwi'r rhwydwaith.

Gall cwsmeriaid gael y wybodaeth ddiweddaraf ar yn eich ardal neu ein dilyn ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Landlordiaid: deddfwriaeth Llywodraeth Cymru


Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno deddfwriaeth newydd sy'n effeithio ar unrhyw landlord/asiant gosod/Awdurdod Lleol (yng Nghymru a Lloegr) y mae ei eiddo yn cael gwasanaethau dŵr neu garthffosiaeth gan Ddŵr Cymru Welsh Water.

Daeth y ddeddfwriaeth i rym ar 1 Ionawr 2015 ac mae'n gofyn bod landlordiaid yn hysbysu Dŵr Cymru am y tenantiaid sydd yn eu heiddo cyn pen 21 diwrnod ar ôl i'r tenantiaid symud i mewn. Os na fydd landlord yn gwneud hyn, gall fod yn atebol ar y cyd ac yn unigol â'r tenant am unrhyw daliadau dŵr a charthffosiaeth a ddaw'n ddyledus.

Bydd angen darparu'r manylion canlynol:

  • Cyfeiriad yr eiddo
  • Diwrnod dechrau'r denantiaeth
  • Teitl, enw a dyddiad geni'r holl breswylwyr mewn oed

Trwy fynd i www.landlordtap.co.uk

Porth gwe a ddatblygwyd gan y diwydiant dŵr i helpu landlordiaid i reoli eu portffolio o gyfrifon yn hwylus dros y rhyngrwyd yw hwn. Un o'r manteision yw ei fod yn storio'r data rydych chi'n ei anfon atom gan greu cofnod cynhwysfawr y gallwch gyfeirio ato yn y dyfodol.

Am gopi o ganllaw Llywodraeth Cymru, ewch i clic yma.

A yw’ch eiddo’n wag ar hyn o bryd?

Os yw eiddo yn eich perchnogaeth yn wag, chi sy’n gyfrifol am dalu’r taliadau dŵr a charthffosiaeth ar gyfer yr eiddo yna.

Mae hynny am fod ar y rhan fwyaf o eiddo, hyd yn oed os ydyn nhw’n wag rhwng tenantiaethau, angen cyflenwad o ddŵr ar gyfer pethau fel garddio, glanhau, fflysio toiledau a chynnal y system gwresogi. Felly bydd deiliad neu berchennog pob eiddo lle mae gwasanaethau dŵr a/neu garthffosiaeth ar gael yn atebol am unrhyw daliadau. Mae’r taliadau hyn yn cwmpasu cynnal cyflenwad dŵr i’r eiddo, cludo dŵr wyneb i ffwrdd, a lle bo mesurydd dŵr, cymryd darlleniadau a chynnal y mesurydd.

Ers Hydref 2024, landlordiaid sy’n gyfrifol am dalu’r taliadau hyn ar gyfer yr eiddo nes bod rhywun yn symud i mewn neu nes iddo gael ei werthu. Os nad oes mesurydd dŵr yn yr eiddo, gallai fod yn syniad gosod mesurydd fel eich bod yn cael eich bilio am y dŵr sy’n cael ei ddefnyddio yno’n unig.

Os nad ydych am dalu unrhyw daliadau, gallwch ddewis datgysylltu gwasanaethau dŵr yr eiddo’n barhaol. Ond byddai hynny’n golygu y byddai angen cysylltiad newydd pan fo rhywun yn symud i mewn yn y dyfodol neu pan fo’n cael ei werthu, a byddai cost hynny’n dod o’ch poced chi.

Os ydych am drafod hyn, ffoniwch 0800 052 0145.

Os nad ydych chi’n siŵr am eich rhwymedigaeth i ni, gwyliwch y fideo byr isod.

Generic Document Thumbnail

Adnoddau am ddim i werthwyr tai a landlordiaid

ZIP, 6.8MB

Rydyn ni’n gwybod bod symud tŷ yn gallu bod yn brofiad anodd a drud i rai, felly rydyn ni am eich helpu chi i helpu’ch tenantiaid.


Mae Dŵr Cymru wedi datblygu cynnwys rhad ac am ddim i werthwyr tai a landlordiaid. Mae eich pecyn cymorth rhad ac am ddim yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol i berchnogion tai neu denantiaid newydd; fel sut y dylai myfyrwyr ddelio â’u biliau dŵr, sut i sicrhau eich bod chi’n cael biliau cywir am eich dŵr, a sut i arbed dŵr ac ynni ar ôl symud i mewn. Fe ffeindiwch chi blogiau, delweddau, negeseuon cymdeithasol a mwy, sy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol a fydd o gymorth i chi gobeithio.


Croeso i chi ddefnyddio’r rhain ar eich sianeli eich hunain a’u haddasu yn ôl yr angen i sicrhau eu bod yn gyson â’ch brand, eich tôn llais, a gofynion eich SEO.