Gwasanaethau Blaenoriaeth


Ar adegau, mae angen rhywfaint o gymorth ychwanegol ar rai cwsmeriaid. Os gallwn ni eich helpu, ymunwch â’n cofrestr gwasanaethau blaenoriaeth fel y gallwn wneud yn siŵr eich bod yn cael y gwasanaeth gorau posibl.

Efallai eich bod yn rhiant â babi bach, yn dioddef o salwch sydd angen dŵr, bod gennych anawsterau â’r golwg neu’r clyw neu eich bod yn oedrannus neu’n anabl. Mae ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth yn golygu y gallwn ni helpu gyda:

  • Cyflenwad dŵr arall os nad oes cyflenwad dŵr arferol gennych
  • Ffyrdd eraill o gael gwybodaeth
  • Tawelwch meddwl yn erbyn galwyr ffug

Ffyrdd y gallwn ni helpu

Pan fyddwch chi ar ein cofrestr gwasanaethau blaenoriaeth, gallwn gynnig cymorth ychwanegol trwy ddarparu dŵr, rheoli eich biliau a’ch cyfrif, a’ch cadw’n ddiogel yn eich cartref:

Cymorth gyda dŵr

Cyswllt blaenoriaeth ar gyfer tarfu ar y cyflenwad

Os ydych chi angen dŵr oherwydd cyflwr meddygol, fel dialysis cartref, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn wneud yn siŵr, os bydd tarfu ar eich cyflenwad dŵr am unrhyw reswm, ein bod yn cysylltu â chi fel blaenoriaeth. Efallai y bydd eich ysbyty eisoes wedi ein hysbysu, ond rhowch wybod i ni beth bynnag.

Cyflenwad dŵr arall

Ein nod yw trefnu cyflenwad dŵr arall cyn gynted ag y gallwn ac yn aml byddwn yn dosbarthu dŵr yfed mewn poteli i'n cwsmeriaid sy'n ddibynnol ar ddŵr yn feddygol ac sy’n methu â chyrraedd cyflenwad dŵr arall.

Cymorth gyda’ch biliau a’ch cyfrif

Biliau hygyrch

Gallwn gynnig cymorth gyda’ch biliau a’ch taflenni yn y ffyrdd canlynol:

  • Print bras
  • Cefndir lliw ar gyfer dyslecsia
  • Braille
  • CD/MP3
  • Darllen eich bil i chi dros y ffôn
  • Anfon eich bil at ffrind neu berthynas

Os ydych chi’n gaeth i’r tŷ, gallwn anfon cynrychiolydd o’r cwmni i’ch cartref i drafod y bil a thaliadau gyda chi.

Cyswllt hygyrch â Dŵr Cymru

  • Os ydych chi’n defnyddio ffôn testun gallwch fanteisio ar ein Gwasanaeth Cyfnewid Testun (trwy wasanaeth Next Generation Text) ar 18001 0800 052 0145. Mae hwn yn wasanaeth am ddim sy’n caniatáu i chi siarad neu deipio ac yna caiff ei droi’n destun.
  • Os byddwch yn cysylltu â ni dros y ffôn, ni fyddwn yn eich rhuthro a byddwn yn cymryd ein hamser wrth esbonio pethau i chi.
  • Os oes gennych chi fynediad at y we, gallwch siarad â ni trwy Sgwrs Fyw, Facebook neu Twitter.
  • Cofrestrwch ar gyfer Fy Nghyfrif  lle gallwch weld eich biliau, eich balans cyfredol a’r taliadau yr ydych chi wedi eu gwneud
  • Defnyddiwch y gosodiadau Hygyrchedd ym mhrif ddewislen ein gwefan i newid y testun, yr iaith, a’r lliw.

Enwebai

Os oes gennych chi anawsterau cyfathrebu neu’n ei chael hi’n anodd deall eich bil neu wybodaeth arall, gallwch enwebu perthynas, ffrind neu ofalwr i siarad â ni neu i dderbyn gohebiaeth ar eich rhan.

Os ydych am i ni gysylltu â pherthynas, ffrind neu ofalwr am eich cyflenwad dŵr a charthffosiaeth a/neu'ch bil, mae angen eich caniatâd arnom. Bydd hyn yn diogelu eich buddiannau a'ch preifatrwydd. Yr unigolyn hwn fydd ein pwynt cyswllt cyntaf, a bydd yn gallu cysylltu â ni a threfnu taliadau ar eich rhan.

Os byddai'n well gennych gael perthynas/ffrind i gynrychioli eich anghenion ar sail barhaol, efallai yr hoffech ystyried Atwrneiaeth. I gael rhagor o wybodaeth, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus yma.

Cadw’n ddiogel

Cynllun Cyfrinair

Rydym ni’n awyddus i chi deimlo’n ddiogel yn eich cartref a gallwch ddewis cyfrinair i ni ei ddefnyddio pan fyddwn ni angen ymweld, neu gysylltu â chi. Byddwn bob amser yn cadarnhau eich cyfrinair gyntaf. Bydd hyn yn helpu i’ch amddiffyn rhag galwyr ffug sy’n honni eu bod yn gweithio i ni. Ceisiwch ddewis cyfrinair sy’n hawdd i chi ei gofio ond gofalwch nad oes neb arall yn ei wybod.