Amddiffynnwch eich hun rhag trydydd partïon
Mae yna lawer o gwmnïau – a elwir yn aml yn ymgynghorwyr y cyfleustodau neu’n ymgynghorwyr dŵr – sy’n cynnig yn cymryd cyfrifoldeb dros reoli biliau cwsmeriaid am ffi. Yn rhan o’r gwasanaeth yma, byddan nhw’n sicrhau bod cwsmeriaid yn talu’r tariffau a’r taliadau cywir hefyd.
Er bod hyn yn gallu bod o fantais wirioneddol i rai cwsmeriaid, byddem yn cynghori ein cwsmeriaid i fod yn wyliadwrus gyda rhai o’r pethau maen nhw’n eu honni. Rydyn ni i gyd yn awyddus i arbed arian ar hyn o bryd, ac rydyn ni’n gwybod bod cwmnïau’n cysylltu â rhai o’n cwsmeriaid gan hawlio eu bod nhw’n gallu arbed arian iddynt ar eu biliau dŵr.
Yma byddwn ni’n ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin a gawn gan gwsmeriaid:
A gaf i ddefnyddio trydydd parti i reoli fy miliau?
Chi biau’r dewis o ran a ydych am dalu’ch biliau eich hun neu ddefnyddio cwmni trydydd parti i dalu’ch biliau. Os ydych chi am i gwmni trydydd parti reoli’ch cyfrif, bydd angen i chi anfon llythyr awdurdodi atom sy’n rhoi caniatâd i’r trydydd parti weithredu ar eich rhan.
Un peth y byddem yn ei gynghori yw bod yn ofalus wrth ddibynnu ar drydydd parti i dalu eich biliau i ni. Er ein bod ni’n derbyn trefniadau talu trydydd parti, fel deiliad yr eiddo, chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod y taliadau llawn ar gyfer ein gwasanaethau’n cael eu talu.
Os byddwch chi’n canslo’ch debyd uniongyrchol gyda ni, ac nad ydyn ni’n derbyn taliadau ar gyfer biliau eich eiddo, gallai’ch cyfrif fynd i ddyled gyda ni, ac os na chawn daliad wedyn, gallai hynny olygu bod angen i ni ddatgysylltu’ch cyflenwad dŵr (os safle busnes sydd o dan sylw). Byddwch yn wyliadwrus hefyd wrth rannu unrhyw wybodaeth bersonol fel manylion eich debydau uniongyrchol neu’ch manylion banc â sefydliadau trydydd parti.
Maen nhw wedi dweud eu bod nhw’n gallu arbed arian i mi ar fy miliau dŵr am fod arian yn ddyledus i mi/am y codwyd gormod arna’i
Rydyn ni’n cymryd rheolau’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) ynghylch rhannu data cwsmeriaid o ddifri calon. Felly ni fyddwn byth yn rhannu eich manylion bilio ag unrhyw sefydliad allanol (oni bai bod gennym lythyr awdurdodi gennych chi, fel yr esboniwyd uchod).
Mae gennym dariffau a thaliadau sy’n amrywio ychydig bach ar gyfer cwsmeriaid yn seiliedig ar bethau fel:
- Maint eich mesurydd dŵr
- A yw’r holl ddŵr rydych chi’n ei ddefnyddio’n dychwelyd i’n carthffosydd ai peidio (gelwir hyn yn lwfans dim dychwelyd i’r garthffos)
- A oes gennych gysylltiad dŵr wyneb i’n carthffosydd yn ogystal â dŵr budr (a elwir hefyd yn draenio dŵr wyneb)
- A yw’ch busnes yn gymwys i dalu TAW ai peidio (mae rhagor o fanylion yma)
- A yw’ch busnes yn rhyddhau unrhyw elifion masnachol (mae rhagor o fanylion yma)
Os oes unrhyw bryderon neu gwestiynau gennych am eich taliadau, gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol a byddwn ni’n mynd i’r afael ag unrhyw bryderon heb fod angen troi at gwmni trydydd parti. Os ydych am ddeall sut rydyn ni’n codi taliadau ar gwsmeriaid, mae ein holl dariffau ar ein Rhestr Taliadau sydd yma.
Gallwch ganfod pwy yw’ch darparydd dŵr gan ddefnyddio gwiriwr codau post Water UK yma.
Maen nhw wedi dweud wrthyf eu bod nhw’n gweithio gyda neu ar ran Dŵr Cymru neu rheoleiddiwr y diwydiant dŵr, Ofwat.
Fyddwn ni byth yn gweithio gyda sefydliadau trydydd parti i ad-dalu arian cwsmeriaid. Os oes unrhyw fath o ad-daliad yn ddyledus i chi, byddwn ni’n cysylltu’n uniongyrchol â chi i dalu’r arian yn ôl. Byddem yn argymell eich bod chi’n cysylltu ag Ofwat yn uniongyrchol i gadarnhau a yw’r sefydliad yn gweithio ar ran y rheoleiddiwr ai peidio.
Beth yw llythyr awdurdodi?
Dyma dempled ar gyfer llythyr awdurdodi. Fel y nodwyd uchod, mae angen awdurdod ysgrifenedig arnom cyn y gallwn rannu eich manylion bilio ag unrhyw drydydd parti.
Gobeithio bod y canllawiau uchod o gymorth i chi. Os oes unrhyw gwestiynau pellach gennych am honiadau cwmnïau trydydd parti, ffoniwch ni ar 0800 052 0145 (ar gael 8:00am - 6:00pm Llun-Gwe, 9:00am - 1:00pm Sad).